Fferm Pied House, Trefaldwyn, Powys

Prosiect Safle Ffocws: Buddion system torri silwair sawl gwaith

Nod y prosiect:

Mae’r cysyniad o dorri silwair sawl gwaith a rheoli’r clamp yn ddewis ymarferol ar gyfer nifer o gynhyrchwyr yr Hydref a thrwy gydol y flwyddyn wrth i’r diwydiant llaeth geisio cynyddu Cynhyrchiant, yn ogystal â chynnyrch llaeth trwy wneud defnydd gwell o borthiant sy’n cael ei dyfu gartref.

Mae’r cysyniad o dorri sawl gwaith yn golygu monitro twf y borfa’n ofalus yn ystod y cyfnod cynaeafu er mwyn sicrhau bod porfa ifanc a deiliog yn cael ei silweirio er mwyn cyflawni Deunydd Sych (DM), egni metaboladwy (ME) a Gwerth D cyn uched â phosib. Erbyn hyn, mae nifer o hadau ar gyfer ail hau yn cynnwys amrywiaeth uchel mewn siwgr gyda gwerth D hyd at 80% â’r posibilrwydd o gynhyrchiant gwych. Gallai hyn hefyd cael ei gyflawni drwy dorri silwair mwy na’r 3 gwaith y flwyddyn gyffredin gyda chyfnod ar gyfer pori.   Gellid prynu llai o borthiant a thyfu llai o borthiant drud fel indrawn trwy wneud y mwyaf o ansawdd y silwair. Mae nifer o fuchesi cyfandirol sy’n cael eu cadw dan do trwy gydol y flwyddyn yn defnyddio’r dull o dorri silwair sawl gwaith, a gan fod nifer o fuchesi mawr yn y DU sydd â chynhyrchiant uchel yn cadw’u gwartheg o dan do trwy gydol y flwyddyn erbyn hyn, mae’r angen am borthiant o ansawdd da sy’n cael ei dyfu gartref yn bwysicach nag erioed.

=Nod y prosiect yw monitro ansawdd y silwair sydd wedi cael ei dorri sawl gwaith a’r effaith ar gynnyrch llaeth, cyfansoddion, ffrwythlondeb ac iechyd cyffredinol yr anifail. Bydd y rhain yn cael eu cymharu gyda pherfformiad y fuches yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd ffocws yn cael ei roi ar oblygiadau ymarferol hefyd gan fod rheoli’r clamp yn hanfodol ar gyfer silweirio llwyddiannus a defnyddio silwair sy’n cael ei dorri’n amlach gyda phorfa o ansawdd gwell.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu