Llwyn yr Arth, Llanbabo, Rhosgoch, Ynys Môn 

Prosiect Safle Ffocws: Lleihau arferion drwg ar uned foch

 

Cyflwyniad i’r prosiect:  

Mae Llwyn yr Arth yn uned foch sy’n magu 210 o hychod dan do o’u genedigaeth hyd eu pesgi bob blwyddyn. Mae’r moch yn cael eu gwerthu’n 22-23 wythnos oed yn 78-80kg ar y bach. Mae sinc a chopr wedi cael ei dynnu allan o ddiet y moch ers mis Mehefin 2019 o ganlyniad i’r gwaharddiad sydd ar y gweill. Mae Paul a Samantha yn credu bod hyn wedi arwain at gynnydd mewn arferion drwg ar eu huned a bod nifer y dyddiau hyd lladd wedi cynyddu 10-15 ymysg y moch sydd wedi’u heffeithio. Mae hyn hefyd wedi achosi cynnydd sylweddol yn y defnydd o driniaethau gwrthfiotig.

Prif nodau’r prosiect yw:

  • lleihau arferion drwg yn yr uned foch,
  • gwell dealltwriaeth o iechyd y genfaint,
  • archwilio dulliau o leihau’r defnydd o wrthfiotigau.

Amcanion y prosiect:

Trwy weithio’n glos gyda’r milfeddyg Eddie Devlin, Milfeddygon Bodrwnsiwn, y nod yw adnabod unrhyw broblemau sylfaenol a allai fod yn achosi’r arferion drwg. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy adnabod dau fochyn pesgi o’r genfaint sydd wedi dioddef anafiadau, salwch neu ymddygiad gwael o ganlyniad i’r arferion drwg er mwyn cynnal profion gan gynnwys prawf post mortem a gwblheir gan Ganolfan Milfeddygol Cymru.

Bydd cynnal asesiad o iechyd y genfaint yn cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o statws iechyd y genfaint ac i ganiatáu i’r ffermwyr wneud penderfyniadau rheolaeth synhwyrol. Bydd hefyd o fudd er mwyn gosod protocolau rheoli ac i atal arferion drwg rhag achosi problem yn y dyfodol. Bydd adolygu a diweddaru cynllun iechyd y genfaint ar fferm Llwyn yr Arth bob tri mis yn arfer dda a bydd yn adnodd effeithiol er mwyn cynllunio at y dyfodol. Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at leihad mewn costau, a chynnydd mewn proffidioldeb a chynaliadwyedd ar gyfer y busnes ffermio. Bydd cynyddu dealltwriaeth o iechyd y genfaint a diweddaru’r cynllun iechyd bob tri mis hefyd yn ddefnyddiol er mwyn lleihau’r defnydd o wrthfiotigau yn y genfaint.

Bydd defnydd o driniaethau gwrthfiotig yn cael ei gofnodi a’i ddadansoddi drwy’r rhaglen eMB-Pigs bob tri mis. Bydd yr adnodd meincnodi hwn yn rhoi syniad o’r cynhwysion gwrthfiotig gweithredol a ddefnyddir yn ôl pwysau’r mochyn (mg/kg). Bydd yn galluogi’r ffermwyr i gymharu gyda’r defnydd cyfartalog cenedlaethol yn ogystal â chymharu gyda pherfformiad yr uned yn y gorffennol.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol:

  • Defnydd o driniaethau gwrthfiotig
  • Dyddiau hyd lladd

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Hendre Ifan Goch
Rhys Edwards Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr ​​ Meysydd
Bodwi
Edward, Jackie a Ellis Griffith Bodwi, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd