Penybont, Tregaron, Ceredigion

Prosiect Safle Ffocws: Godro robotig a phori

 

Mae mwy a mwy o ffermwyr llaeth yn ymchwilio i systemau godro robotig (AMS) am sawl rheswm, ac mae nifer o arbenigwyr yn y diwydiant yn credu bod argaeledd a safon staff godro yn fygythiad sylweddol i’r sector llaeth. Mae gan ffermydd llaeth yng Nghymru fantais sylweddol gyda’r gallu i dyfu glaswellt sy’n galluogi ffermwyr i fanteisio ar fuddion economaidd pori. Mae defnyddio systemau AMS yn gyffredinol wedi golygu bod nifer o wartheg yn cael eu cadw mewn siediau neu leihad yn yr amser a dreulir yn pori.

Bydd y prosiect yn anelu at archwilio pori gydag AMS, a bydd hynny’n golygu edrych ar sut mae ardaloedd pori wedi cael eu sefydlu a sut mae glaswellt yn cael ei reoli, llif gwartheg a phellter, amlder godro a bwydo fel y prif ffactorau sy’n cymell symudiad gwartheg.

 

Nod y prosiect:

  • Bydd y prosiect yn edrych ar arfer dda wrth sefydlu system bori ar gyfer godro robotig. Nid yw’r ffermwr wedi gosod yr offer robotig hyd yma a byddant yn cael eu gosod tua diwedd haf 2018.
  • Bydd y prosiect yn cynnal digwyddiad agored ym mis Mai 2018 mewn cydweithrediad ag AHDB yn edrych ar osod offer robotig mewn sied sydd eisoes wedi’i sefydlu.
  • Bydd y prosiect yn archwilio sut y dylid rheoli’r glaswellt a’r trefniant gorau er mwyn sicrhau mai glaswellt sy’n arwain pa mor aml y bydd gwartheg yn cael eu godro.
  • Bydd y prosiect yn edrych ar system AB (pori dwy ffordd) neu ABC os yn bosibl (pori tair ffordd). Mae system ddwy ffordd yn golygu dyraniadau 12 awr gan annog gwartheg i gael eu godro ddwywaith y dydd. Mae system dair ffordd yn golygu dyraniadau 8 awr gan annog gwartheg i gael eu godro deirgwaith y dydd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion