22 Tachwedd 2019

 

Mae tyfwr coed Nadolig o Gymru’n bwriadu tyfu rhai mathau o goed yn benodol ar gyfer y farchnad deiliant ar ôl canfod cyfleoedd yn y sector hwn.

Roedd y ffermwr âr a defaid, David Phillips, wedi newid cyfeiriad ei fusnes i dyfu coed ar gyfer y farchnad Nadolig ar Fferm Clearwell yn Michaelston-y-Fedw, gerllaw Caerdydd.

Roedd yn awyddus i ddysgu rhagor am y ffordd y mae’r sector hwn yn gweithredu mewn gwledydd eraill ac hefyd i wella ei wybodaeth am dechnegau rheoli coed, felly gwnaeth gais am le ar Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Yn rhan o’i astudiaethau, teithiodd draw i Iwerddon a Denmarc lle cafodd gwrdd â llawer o dyfwyr eraill. Mae Iwerddon yn allforio coed Nadolig i’r DU a Denmarc yw’r cynhyrchydd ac allforiwr coed Nadolig a deiliant mwyaf yn Ewrop.

Roedd David yn awyddus i weld y dulliau cynhyrchu sy’n cael eu defnyddio yn y gwledydd hynny a chael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant.

Yn benodol, roedd hefyd eisiau gweld sut mae coed yn cael eu rheoli ar gyfer cynhyrchu deiliant Ffynidwydd Llwydlas.

Am ei fod wedi dysgu cymaint yn ystod y ddau ymweliad, mae’n bwriadu plannu rhai o’r coed Ffynidwydd Llwydlas hyn yn benodol ar gyfer deiliant.

“Rwyf wedi gweld pa darddleoedd sydd orau gen i a chefais gyngor ynglŷn â pha rai sydd fwyaf addas i’r hinsawdd ar y fferm a’r math o bridd sydd gen i, “ meddai.

Mae David hefyd yn ystyried tyfu rhai coed mewn potiau yn uniongyrchol yn y pridd, fel sy’n arfer cyffredin yn Nenmarc.

Pan fu’n ymweld â’r Iwerddon, sylweddolodd y gallai’r Ffynidwydd Llwydlas fod yn arallgyfeiriad proffidiol ar rai o ffermydd Cymru.

“Mae’n sicr y bydd prinder Ffynidwydd Llwydlas yn y DU ac Iwerddon yn y dyfodol, er bod cyflenwadau Ffynidwydd y Cawcasws yn ymddangos yn doreithiog,” meddai.

“O ran cnwd, mae Ffynidwydd Llwydlas yn ddewis heriol ond gwobrwyol y mae’n rhaid gofalu amdano’n rheolaidd i gynhyrchu elw da.”

Ond, canfu bod problemau’n gallu codi i’r ffermwyr sy’n cyflenwi’r sector hwn hefyd. Gall fod yn gostus ac yn anodd cael digon o weithwyr ar gyfer cyfnod medi’r rhain ym mis Tachwedd pan fo’r galw ar ei uchaf; gallai cludo coed i’r farchnad fod yn broblem hefyd.

“Roedd hyn yn ychwanegu costau sylweddol i’r cynnyrch yn Iwerddon,” meddai David.

Mae pobl Denmarc yn gallu tyfu coed o safon ganolig am €11 (£9.45)/fesul coeden sy’n cael ei llwytho i’w gwerthu. “Rhaid i’r tyfwyr ym Mhrydain anelu am y pris hwn hefyd er mwyn aros yn gystadleuol,” meddai Mr Jones.

Sylweddolodd mai ychydig iawn o ddeiliant newydd sy’n cael ei blannu ac y gallai hyn greu cyfleoedd yng Nghymru.

Mae gwaith ymchwil David nid yn unig wedi dangos y cyfleoedd iddo, mae hefyd wedi cadarnhau ei farn bod maint ei fenter, sy’n gwerthu i’r farchnad leol gan fwyaf, yn gywir ar gyfer maint ei fferm.

Mae’n rhybuddio y dylai cymorthdaliadau coedwigaeth eithrio plannu mathau o goed Nadolig yn benodol – os nad, bydd y farchnad yn mynd yn anghytbwys.

Yn ddiweddar, cafodd David ei recriwtio’n Fentor Cyswllt Ffermio. O ganlyniad, gall ffermwyr eraill sydd â diddordeb gynnal sesiynau mentora gyda David, naill ai ar ei fferm ef neu ar eu ffermydd hwy. Mae cael mentor yn rhoi cyfle i chi dderbyn ail opiniwn; cael rhywun i herio’ch penderfyniadau a’ch helpu i ddatblygu syniadau newydd mewn lleoliad anffurfiol gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo neu ynddi. I ddewis mentor, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o