14 Tachwedd 2019

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

  • Wrth i gynhyrchiant buchod llaeth gynyddu, felly hefyd y mae eu gofynion o ran maeth.
  • Mae’r cyfnod trosiannol yn un anodd yn oes y fuwch, ac os caiff ei reoli mewn modd amhriodol bydd yn agored i ddioddef afiechydon ac anhwylderau, gan effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb y fferm.
  • Sicrhau’r maethiad gorau yw’r allwedd i leihau’r risg o anhwylderau cynhyrchiant fel cetosis, twymyn y llaeth ac asidosis.
  • Bydd porthi yn ôl y sgôr cyflwr corff a’r cyfnod trosiannol gyda diet cytbwys sy’n cynnwys dwysfwyd llawn egni a phorthiant o safon uchel yn cadw buchod yn iach a chynnal perfformiad da trwy gydol y llaethiad.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae’r fuwch laeth syml wedi cael ei thrawsnewid yn anifail cynhyrchiol ac effeithlon iawn, a gynlluniwyd i fodloni anghenion pobl. Mae buchod llaeth yn cynhyrchu cyfanswm mawr o laeth sy’n werthfawr o ran maeth ac mae teirw llaeth (sy’n epil bridiau bîff) yn gyfrifol am hyd at 50% o’r holl gig eidion yn y Deyrnas Unedig. Ond, mae’n bwysig cofio bod ar anifail cynhyrchiol iawn hefyd angen y maethiad gorau i fodloni ein disgwyliadau. Mae maethiad wedi ei amseru yn dda a chytbwys yn hanfodol i’r holl dda byw, ond yn arbennig anifeiliaid cynhyrchiol, sy’n aml angen mwy nag anifeiliaid cymedrol eu cynhyrchiant. Ychwanegwch at y sefyllfa faterion llunio cyllideb, cynaliadwyedd a lleihau ôl troed carbon, ac mae pethau’n dechrau mynd ym gymhleth. Gan ein bod wedi bridio i gynhyrchu buchod sy’n gynyddol effeithlon a chynhyrchiol, mae ymchwil gwyddonol wedi dilyn hynny, gan archwilio’r ffyrdd gorau i reoli’r anifail a llunio canllawiau arfer gorau.

 

Gwibdaith trwy faethiad gwartheg

Roedd yr ymchwil cynnar ar ofynion egni cynnal heffrod llaeth yn seiliedig ar anifeiliaid bîff, ond fe welwyd bod hyn yn anghywir, gan fod heffrod llaeth ar eu prifiant angen llai o egni (tua 90%) na gwartheg bîff. Fe wnaeth cyflwyno diet cymysg wella llaethiad cyntaf ac ail a chyfraddau tyfu, yn ystod y gaeaf yn arbennig. Wrth i ddulliau dadansoddi a modelu fynd yn fwy soffistigedig, felly hefyd y gwnaeth ein dealltwriaeth o faethiad y gwartheg llaeth a arweiniodd yn y pen draw at gynhyrchu “Nutirent Requirements of Dairy Cattle” gan yr NRC (Cyngor Ymchwil Cenedlaethol). Ystyrir mai’r cyhoeddiad hwn yw’r ‘safon aur’ o ran maethiad i fuchod llaeth ac mae’n cael ei ddiweddaru yn barhaus i adlewyrchu newidiadau yn y diwydiant llaeth.
 

 

Cydnabuwyd pwysigrwydd protein yn yr heffer laeth yn gynnar, gydag ymchwil yn 1932 yn ymchwilio i’r defnydd o ffa soia yn lle blawd olew had llin. Ymchwiliodd astudiaethau niferus ffynonellau protein gwahanol ac amheus weithiau, a ddiflannodd dros amser a throi yn ddiddordeb mewn gofynion protein a’i ddefnyddio. Hyd at y cyfnod hwn yn yr 1990au roedd gor-borthi protein yn arfer cyffredin, i sicrhau bod gan y fuwch fwy na digon o brotein i gynhyrchu cyfanswm mawr o laeth o safon uchel. Felly, yn hytrach, dechreuodd yr ymchwil edrych ar addasu’r gymhareb protein crai: egni diet i leihau llygredd amgylcheddol a chynyddu proffidioldeb. Roedd dynodi asidau amino cyfyngol yn gam mawr ymlaen yn y broses hon, yn 1976, cadarnhawyd methionin a lysin fel yr asidau amino cyfyngol cyntaf mewn diet ar sail corn, ac fe’u dilynwyd gan histidin yn 1999. Tyfodd cydbwyso asid amino yn ei boblogrwydd yn y 2010, gydag ymchwil yn dangos manteision sylweddol o ran cynhyrchiant ac iechyd. Ac yn dilyn hynny daeth asidau amino wedi eu diogelu ar gyfer y rwmen, a fwriadwyd i leihau faint sy’n cael ei dorri yn y rwmen a chludo’r protein i’r coluddyn i’w amsugno. Mae’r ymchwil yn awr yn ail-ymweld â microbiom y rwmen i fesur metaboledd yr asidau amino unigol ac i adolygu cyfraniad protein microbaidd at y gofynion cyffredinol.

Roedd ymchwil ers mor gynnar ag 1911 wedi rhoi manylion am leihad ym mywiogrwydd epil a chynhyrchiant llaeth wrth borthi ar sail un planhigyn ac fe ddarganfuwyd yn ddiweddarach bod hyn oherwydd diffyg cydbwysedd o ran fitaminau a mwynau. Trwy lunio cymhariaeth ag anifeiliaid eraill, fel llygod mawr a moch cwta, darganfu ymchwilwyr bod rhai fitaminau (fel B) yn debygol o gael eu cynhyrchu gan ficrobiom y rwmen neu yn rhywle arall yn y corff (er enghraifft, cynhyrchir fitamin C yn yr iau). O’r 14 o fitaminau hysbys, dim ond dau ohonynt sydd ar wartheg eu hangen yn eu diet (gan nad ydynt yn gallu eu creu eu hunain), hynny yw fitaminau A ac E. Mae fitamin A yn hanfodol ar gyfer imiwnedd, tyfiant a datblygiad ac mae fitamin E yn wrthocsidol – sy’n cael gwared o asiantau ocsidol a all fod yn niweidiol sy’n digwydd yn naturiol yn y corff. Er bod y gofynion cyfredol o ran fitaminau a mwynau a nodir yn “Nutrient Requirements of Dairy Cattle” yn gywir, mae ein dealltwriaeth o lif y fitaminau allan o’r rwmen a’u hamsugnad yn y llwybr gastroberfeddol yn parhau yn gymharol wael.

Mae pwysigrwydd ffibr yn niet cilgnõwyr wedi ei hen sefydlu, a thra bod diet llawn dwysfwyd (50-90%) yn arwain at gyflwyno maetholion yn gyflymach a chyfraddau tyfu cyflymach gall y diet yma sy’n annaturiol o brin o ffibr arwain at broblemau iechyd sylweddol. Mae diet llawn dwysfwyd yn gadael i asid gasglu yn y rwmen, a all achosi briwiau gan arwain at greithiau ar yr iau ac asidosis y rwmen. Gan nad yw perfedd cilgnõwyr yn gallu treulio lefelau uchel o starts mor dda, gall grawn hefyd gasglu ym mherfedd cilgnõwyr oherwydd y diffyg microbau i dreulio starts. Bydd hyn yn aml yn hybu twf bacteria pathogenig yn y perfedd, a all arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol a marwolaeth hyd yn oed. Felly, argymhellir y dylai dogn gwartheg llaeth a bîff gynnwys lleiafswm o 60% ffibr (ar ffurf porthiant garw neu silwair).

Diet trosiannol

Buwch yn y cyfnod trosiannol yw unrhyw fuwch yn y cyfnod o dair wythnos cyn neu ar ôl lloea – mae hwn yn gyfnod â gofynion metabolaidd trwm ac felly rhaid cynnal y fuwch gyda maethiad da. Cyn y cyfnod hwn gelwir y fuwch yn ‘sych’ (h.y. ddim yn cynhyrchu llaeth), ond nid yw hynny’n dweud nad yw angen mathiad da, cytbwys gan y bydd hyn yn ei pharatoi at laetha yn llwyddiannus. Mae mynd i mewn i’r cyfnod trosiannol mewn cyflwr da yn bwysig, er, gall bod mewn cyflwr rhy dda olygu y bydd y fuwch yn fwy tebygol o gael problemau ar ôl lloea. Mae llawer o astudiaethau yn trafod y problemau metabolaidd ac iechyd sy’n digwydd wrth i gynhyrchiant gynyddu a’r colledion economaidd sy’n gysylltiedig â’r rhain. Mae problemau iechyd yn ystod y cyfnod trosiannol yn amlwg yn ffactor sy’n cymhlethu llawer, un y gellir lliniaru ei effaith trwy roi’r maethiad cywir ar yr amser cywir.

 

Cynnwys sych a fwyteir (DMI)

Mae wedi ei hen sefydlu bod y cynnwys sych a fwyteir (DMI) yn gostwng o gwmpas adeg lloea – yn bennaf oherwydd y ffaith bod y llo wrth dyfu yn cymryd mwy o le yn y corff sy’n golygu bod llai o le i’r stumog. Bydd hyn yn digwydd fel arfer yn 1-3 wythnos olaf y beichiogrwydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae gofynion y llo o ran maeth ar eu huchaf.

 

Cydbwysedd egni negyddol (NEB)

Bydd datblygiad y chwarren laeth a chynhyrchu llaeth hefyd yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn, gan roi mwy o ofynion ar y fuwch, a gall y cyfan ddod at ei gilydd ac achosi cydbwysedd egni negyddol (NEB). Bydd hyn yn digwydd pan fydd y fuwch yn defnyddio mwy o egni nag y mae’n ei gymryd i mewn a gall yn y pen draw arwain at iau brasterog a cetosis a fydd yn cael effaith wedyn ar gynhyrchu llaeth, ffrwythlondeb a chynnydd yn y tebygolrwydd y bydd yn datblygu afiechydon eraill.

 

Asidosis

Yn aml bydd buwch gynhyrchiol yn bwyta diet llawn dwysfwyd yn ystod y 100 diwrnod cyntaf o’i llaethiad i roi egni cyflym sy’n cynnal cynhyrchiant llaeth da. Bydd hyn yn datblygu yn broblem os, fel buwch sych, yr oedd y diet yn cynnwys porthiant yn bennaf a bod y fuwch yn cael ei throi yn sydyn i ddiet gwahanol, mae microbiom y rwmen wedi ei addasu i ymdopi â phorthiant ffibrog ac ni fydd yn gallu ymdopi â newid sydyn. Mae diet llawn dwysfwyd yn cynhyrchu lactad yn y rwmen yn bennaf tra bod diet llawn ffibr yn achosi i facteria gynhyrchu propionad yn bennaf. Os nad yw’r rwmen wedi ei addasu i ymdrin â diet llawn dwysfwyd ni all gael gwared o’r asid lactig sydd wedi casglu, gan arwain at asidosis (neu asidosis y rwmen heb fod yn llym; SARA). Yn ychwanegol, mae DMI yn llai ar ôl lloea sy’n arwain at fynd trwy’r rwmen ar gyfradd araf gan roi amser i eplesu mwy eang sydd yn ei dro yn achosi i asid grynhoi.

Twymyn y llaeth

Mae twymyn y llaeth yn digwydd o ganlyniad i brinder calsiwm (hypocalcaemia) gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu colostrwm. Mae hyn yn achosi i galsiwm o’r ysgerbwd gael ei symud, gan wanhau’r anifail as os na chaiff ei drin bydd yn arwain at farwolaeth yn y pen draw. Mae buchod gyda thwymyn y llaeth hefyd yn debygol iawn o ddatblygu cymhlethdodau pellach: wyth gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu mastitis, dair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu dystocia a phedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu abomaswm wedi ei ddadleoli.

 

Atal yn haws na’i wella

Bydd rhoi diet cytbwys, o ansawdd uchel sy’n darparu ar gyfer anghenion y fuwch bron iawn yn cael gwared o’r problemau yma i gyd. Gellir atal y gostyngiad mewn DMI cyn lloea a gellir rhoi hwb i’r DMI ar ôl lloea trwy ddefnyddio porthiant sy’n gymedrol o ran egni (9.5 MJ i bob kg DM) yn cynnwys 28-32% o ddwysfwyd ac o leiaf 60% o borthiant o safon uchel sy’n cael ei gydbwyso â fitaminau a mwynau. Mae’r math hwn o ddiet yn hawdd iawn ei dreulio ac mae’n mynd trwy’r rwmen ar gyfradd dda. Yn agos at loea, dylai diet gynnwys tua 14% o brotein craidd, er nad oes tystiolaeth wyddonol bod porthi mwy na hyn yn fanteisiol – os yn porthi asidau amino, mae methionin a lysin yn allweddol. Mae’n bwysig hefyd bod y fuwch yn cael ei throsglwyddo i’r diet hwn yn raddol ac mewn da bryd.
 

 

Gall rho buchod mewn grwpiau fod yn ddefnyddiol i sicrhau eu bod yn cael y maethiad cywir. Yr arfer yw gwahanu buchod sych yn grwpiau pell o loea ac agos at loea, er y gall grwpio yn ôl sgôr cyflwr corff (BCS) fod yn fwy defnyddiol. Bydd asesu cyflwr corff bob pythefnos yn ystod y cyfnod sych yn rhoi cyfle i’r ffermwr gadw golwg ar unrhyw broblemau sy’n dod i’r amlwg a’u taclo yn gynnar.

Yn ychwanegol at borthiant maethlon a chytbwys, efallai y bydd ffermwyr am ystyried ymddygiad anifeiliaid wrth borthi. Yn arbennig mewn gwartheg dan do, gall lle cyfyngedig wrth y cafn neu’r hierarchaeth gymdeithasol gael effaith sylweddol ar y porthiant y byddant yn ei gymryd. Dangosodd gwaith ymchwil y bydd buchod yn sortio TMR (dogn cymysg cyflawn), a thrwy hynny bydd ansawdd y porthiant yn gostwng trwy gydol y dydd wrth i’r fuwch ddewis y pethau â’r blas gorau neu’r darnau mwyaf maethlon. Felly gall buchod sy’n cael eu gorfodi i aros oherwydd nad oes digon o le neu’r rhai sydd yn is yn yr hierarchaeth gymdeithasol fwyta diet gwaelach, gan arwain at beidio cymryd digon o faeth a gostyngiad yn y llaeth a gynhyrchir. Yn ychwanegol, yn aml gall diffyg lle arwain at wartheg ymosodol wrth i’r gystadleuaeth am fwyd gynyddu, gall hyn gynyddu’r risg y bydd anafiadau o gicio, briwiau ar garnau a chloffni yn gyffredinol.
 


Crynodeb

Gellid dadlau mai maethiad yw’r agwedd bwysicaf o unrhyw fusnes sy’n cynhyrchu o anifeiliaid, gan ei fod yn cael effeithiau ar iechyd a lles, ffrwythlondeb, llaethiad, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Gall darparu diet cytbwys o safon uchel wedi ei deilwrio i’r cyfnod y mae’r fuwch ynddo yn y cylch blynyddol ac yn ôl ei chyflwr corff atal anhwylderau cyffredin mewn buchod llaeth fel cetosis, twymyn y llaeth ac asidosis.

Mae buchod yn fwy tebygol o ddioddef yr anhwylderau yma ar ôl lloea pan fydd cydbwysedd egni’r fuwch yn negyddol. Gall fod yn demtasiwn gadael buchod sych i ofalu amdanynt eu hunain, tra bydd y grŵp sy’n llaetha yn cael mwy o sylw. Ond, mae porthi a rheolaeth yn union cyn lloea yn cael dylanwad mawr ar iechyd y fuwch ar ôl geni’r llo, felly mae’n werth y buddsoddiad.

Gwnaeth ymchwil yn y maes allweddol hwn gamau breision ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n debygol y bydd cynnydd sylweddol yn ystod y degawd nesaf. Un her fawr at y dyfodol yw deall sut y mae maethiad a rheoli porthiant yn ystod y cyfnod sych a’r cyfnod trosiannol yn effeithio ar y llaethiad ar ôl hynny.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth