20 Ionawr 2020

 

Mae Malan Hughes yn ddyledus i Academi Amaeth Cyswllt Ffermio am ei helpu i gynllunio ei dyfodol a gwireddu ei photensial drwy ddatblygiad proffesiynol.  Mae ffenestr ymgeisio Academi Amaeth 2020 bellach ar agor, ac mae hi’n awyddus i chi wneud cais hefyd!  

Mae Malan (27) yn byw ar fferm laeth 500 erw ei theulu ger Pwllheli, a phan nad yw hi’n brysur yn gweithio fel milfeddyg gwledig, mae hi’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar waith y fferm.  Oherwydd ei chefndir, mae Malan wedi bod wrth ei bodd gydag anifeiliaid a chefn gwlad ers oedran cynnar iawn ac roedd wedi penderfynu ei bod am fod yn filfeddyg cyn iddi adael yr ysgol gynradd hyd yn oed. 

Yn 2016 daeth ei breuddwyd yn wir ac ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl, dychwelodd adref i’r fferm deuluol a’i swydd llawn amser gyntaf gyda milfeddygfa gymysg leol, Milfeddygon Deufor, lle mae hi’n gweithio gydag anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes.

"Roeddwn yn ffodus i gael profiad gwaith gyda’r filfeddygfa hon fel myfyriwr ac roeddwn yn gwybod petawn i’n cael cyfle i ddod adref a helpu i ddatblygu’r fuches laeth gan weithio fel milfeddyg ar yr un pryd, y byddai hynny’n cynnig y gorau o ddau fyd ac yn gwireddu breuddwyd!”

Fel cerddwr a rhedwr brwd, sydd wrth ei bodd yn cadw’n heini – mae hi’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn rasys hanner marathon – ymgeisiodd Malan ar gyfer Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn fuan ar ôl dechrau yn ei swydd newydd. 

“Yn fy marn i, dylai neb roi’r gorau i ddysgu, ac roeddwn yn awyddus i ehangu fy ngorwelion, cyfarfod rhwydweithiau newydd o bobl a chael fy ysbrydoli gan ffermwyr a phobl fusnes lwyddiannus eraill er mwyn cael cymorth i gynllunio ar gyfer y dyfodol, fel milfeddyg a ffermwr.”

Erbyn hyn, Malan yw un o lysgenhadon datblygiad personol mwyaf huawdl ac argyhoeddiadol y rhaglen, ac mae hi’n credu’n gryf bod y profiad wedi rhoi sgiliau newydd, mwy o hyder a phenderfyniad iddi gymryd rhan mewn cynifer o fentrau cymunedol â phosibl, o ystyried ei bywyd gwaith a hamdden prysur iawn! 

Bellach, mae galw mawr ar ei gwasanaeth fel siaradwr a bydd yn annerch plant ysgol lleol, clybiau’r henoed, grwpiau menywod a mwy – lle bydd pawb yn awyddus i glywed ei barn ar wahanol faterion,  fel o ble daw ‘cynnyrch fferm da’, pwysigrwydd safonau iechyd a lles uchel i anifeiliaid, a pham dylai ffermwyr addasu i ateb anghenion y farchnad.  

“Roedd fy mhrofiad personol o’r Academi Amaeth yn wych ym mhob ffordd, gan i mi gael fy nghyflwyno i ffyrdd newydd o weithio, a chefais amser i ystyried fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol.  

“Roedd fy ymweliad astudio â Gwlad yr Iâ yn addysgiadol iawn ac yn agoriad llygad o ran sut mae gwledydd gwahanol yn mynd i’r afael â phroblemau tebyg i’r rhai sy’n wynebu ffermwyr Cymru. 

“Roedd pob aelod o’r grŵp wedi ennill sgiliau newydd ac yn bwysicach fyth efallai, roedd gennym deimlad newydd o hunan-gred ac awydd i anelu’n uchel a pharhau i ddatblygu fel pobl fusnes.”

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd Malan ei gwahodd i ymuno â thîm dethol milfeddygon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’r swydd bwysig ac anrhydeddus hon yn golygu y gall hi a’i chydweithwyr fod ar alwad hyd at 24 awr y dydd yn y dyddiau cyn ac yn ystod digwyddiadau mawr y gymdeithas, fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf. Mae Malan yn credu mai ei phrofiad yn yr Academi Amaeth, ac o bosibl ei ffitrwydd fel rhedwr, a roddodd yr hyder iddi fachu ar y cyfle.  

“Mae hi bob amser yn brysur iawn ac rydyn ni’n cerdded milltiroedd bob dydd, ond mae’n rhoi boddhad mawr i wybod bod gennym ni fel tîm nid yn unig yr arbenigedd i wneud yn siŵr bod yr holl stoc yn derbyn gofal da, ond os bydd pethau’n mynd o le, mae gennym ni offer diagnostig a chymorth cyntaf, ambiwlansys ceffylau, systemau trin, offer cyfathrebu – mewn gwirionedd, yr holl gyfarpar ar gyfer ymateb mewn munudau i unrhyw sefyllfa sy’n codi.”

Felly, beth yw’r cam nesaf ar gyfer y ferch ifanc brysur hon sy’n benderfynol o gyfuno ei gyrfa fel milfeddyg gyda’i gwaith ffermio ymarferol, cadw ei chysylltiadau â’r gymuned, rhedeg rasys marathon a chael amser i ymlacio gyda ffrindiau a theulu hefyd?  

Nid yw’n fawr o syndod bod Malan yn cynllunio menter newydd arall yn barod, sef magu diadell fechan arbenigol o ddefaid Swydd Amwythig, ac mae hi’n credu y bydd y defaid yn gwneud yn dda iawn wrth bori ym mherllannau’r fferm!    

“Roedd cymryd rhan yn yr Academi Amaeth wedi gwneud i mi herio fy hun ac wedi fy annog i fod yn arloesol, felly’r ddiadell o ddefaid Sir Amwythig yw’r cam cyntaf yn unig! 

“Cefais fy ysbrydoli gymaint gan y bobl wnes i eu cyfarfod ac mae elfennau o’r hyn wnes i ei ddysgu yn cael eu rhoi ar waith bron iawn bob dydd yn fy ngwaith ac ar y fferm.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb gyflwyno ei ffurflen gais i wneud hynny cyn gynted â phosibl – Academi Amaeth fydd un o brofiadau mwyaf dylanwadol a gwerth chweil eich bywyd – ewch amdani!”

Mae ffenestr ymgeisio’r Academi Amaeth 2020 ar agor nawr tan 11:59yh ddydd Mawrth, 31 Mawrth.

Eleni, mae’r Academi yn cynnig dwy raglen, sef y Rhaglen Busnes ac Arloesedd a gynlluniwyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr, a Rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru, ar gyfer pobl rhwng 16 ac 19 oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiannau bwyd, ffermio neu goedwigaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwysedd ac i lawrlwytho ffurflenni cais, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o