30 Hydref 2018

 

                                                                                                                                                                                         

shordley hall 1

 

                                                                                                                                                                                         

shordley hall 2

 

Cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar ar un o safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio, sef Shordley Hall, drwy garedigrwydd y teulu Pilkington, a oedd yn edrych ar ymdrin â materion llygredd amaethyddol penodol o fewn dalgylch Pulford Brook. Y prif siaradwr yn ystod y digwyddiad oedd Keith Owen, Agriplan Cymru, a fu’n rhoi cyflwyniad ynglŷn â rheoliadau SSAFO ac NVZ cyfredol, ynghyd â chyfrifiad enghreifftiol o’r arbedion posibl o ran cyfaint slyri pe byddai dŵr glân a budur yn cael ei ddargyfeirio a’i wahanu mewn ardaloedd o’r iard fferm mewn modd effeithiol.  Bu Keith hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydymffurfio â rheoliadau’n ymwneud â chyfnodau gwasgaru caeedig NVZ a’r bwlch rhwng gwefus y storfa a lefel y slyri. Aeth ymlaen i amlygu’r potensial yn Shordley Hall ar gyfer bodloni rheoliadau slyri presennol ac ar gyfer y dyfodol heb fod angen storfa fawr ddrud ac isadeiledd trin slyri ychwanegol.

Bu Gareth Foulkes o Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru hefyd yn siarad yn ystod y digwyddiad, a bu’n egluro’r materion presennol sy’n codi gydag olion plaladwyr yn y mannau echdynnu dŵr ar hyd rhan isaf afon Dyfrdwy. Bu Gareth hefyd yn trafod atebion posibl a’r cymorth sydd ar gael gan yr Ymddiriedolaeth, megis pelenni gwlithod ffosffad fferig sy’n ddiogel i ddŵr a defnydd o beiriant awyru pridd am ddim.

Rhoddodd Ifan Hughes, Swyddog Datblygu Wrecsam a Sir y Fflint ddiweddariad ynglŷn â’r cyngor sydd ar gael wedi’i ariannu’n llawn neu’n rhannol drwy Cyswllt Ffermio, megis cynllunio rheoli maetholion neu gyngor yn ymwneud ag isadeiledd fferm.

Dywedodd Rhys Davies, Swddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, a gynorthwyodd i drefnu’r digwyddiad, “Mae’n bwysig i ffermwyr o fewn ardaloedd sensitif megis Pulford Brook dderbyn y cyngor a’r gefnogaeth ddiweddaraf i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’u hisadeiledd rheoli slyri a dŵr budur.” Aeth ymlaen i egluro sut oedd cyngor Keith wedi newid y modd yr oedd nifer o’r ffermwyr a oedd yn bresennol yn edrych ar ardaloedd ar eu ffermydd eu hunain, a’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth. “Gall deall sut mae cyfrifiadau ar gyfer cyfaint slyri yn cael eu gwneud a gweithredu ar y ffigyrau hynny fynd ymhell tuag at sicrhau agwedd rhagweithiol er mwyn mynd i’r afael â’r mater,” meddai Rhys.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o