2 Medi 2019

 

minister photo with farm safety ambassadors 0
Mae Alun Elidyr a Glyn Davies wedi'u penodi i ddwy swydd lysgenhadol newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar ffermydd ledled Cymru.

The new Ambassadors will promote the work of the Wales Farm Safety Partnership - a collaboration of key agricultural stakeholder organisations working together to help drive down the unacceptable number of serious accidents and deaths that occur on farms across Wales each year.

Mae gan y ddau Lysgennad brofiad helaeth o ffermio ac maent yn awyddus i rannu eu gwybodaeth i fusnesau fferm eraill er mwyn gwneud ffermydd yng Nghymru yn fwy diogel a lleihau'r perygl o ddamweiniau.

Cafodd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru £46,000 yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y peryglon sy'n gysylltiedig â ffermio ac i gynnig cyngor iechyd a diogelwch ac arweiniad i ffermwyr.

Mae 388 o bobl wedi eu lladd tra'n gweithio ar ffermydd Prydain yn y deg mlynedd diwethaf, tra bod nifer wedi dioddef anafiadau difrifol a salwch yn gysylltiedig â gwaith.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae diwydiannau eraill megis adeiladu a chwarela wedi gwella eu cofnodion diogelwch yn sylweddol, ond nid yw ffermio heb gwneud hynny, rydych bellach chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar fferm nag y byddech ar safle adeiladu.

Dywedodd Glyn Davies, “Rwy’n falch iawn o gael bod y Llysgennad Diogelwch ar Ffermydd a chael helpu i ledaenu’r neges am iechyd a diogelwch ar y fferm.”

Dywedodd Aled Elidyr, “Diogelwch ar y fferm yw’r ystyriaeth bwysicaf un, ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan fel aelod o Bartneriaeth Diogelwch ar Ffermydd Cymru i helpu unigolion a busnesau i leihau nifer y damweiniau ar ffermydd.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, "Dwi'n falch bod Alun a Glyn wedi cytuno i dderbyn swyddi Llysgenhadon ar gyfer yr ymgyrch bwysig hon. Mae gan y ddau brofiad helaeth o ffermio ac mae ganddynt swyddogaethau amlwg yn y sector eisoes: Mae Glyn yn fentor iechyd a diogelwch Cyswllt Ffermio ac mae Alun yn Ffermwr a cyflwynydd ar raglen Ffermio S4C."

“Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn chwarae rhan allweddol i helpu i leihau y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint