Mae rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio wedi cynorthwyo i hwyluso cytundeb menter ar y cyd lwyddiannus iawn rhwng dau deulu o ffermwyr yn Sir Gâr.

Mae Bryan Thomas o Sir Gâr wedi rhoi ei fywyd gwaith i fod yn ffermwr llaeth. Yn wreiddiol yn denantiaid ar fferm Berllan Dywyll yn Llangathen, sydd erbyn heddiw yn ddaliad 270 erw, mae Bryan a’i wraig, Mary wedi bod yn berchnogion a ffermwyr yno ers y 90au cynnar.

Mae’r fferm wedi’i lleoli yn nyffryn Tywi, sy’n adnabyddus am ei borfeydd cynhyrchiol ger yr afon. Mae’r cwpl, sy’n uchel eu parch yn y diwydiant yn lleol am eu hagweddau blaengar tuag at ffermio, wedi adeiladu buches laeth Holstein pedigri gan fwyaf. Mae llaeth hylifol yn cael ei werthu i Mueller ar gytundeb blynyddol gyda’r fuches gynhyrchiol o 210 o wartheg ar hyn o bryd yn cynhyrchu oddeutu 9,000 litr y fuwch bob blwyddyn.

Tua deng mlynedd yn ôl, roedd Bryan a Mary yn ymwybodol bod angen iddynt ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol gan fod eu meibion wedi dewis dilyn gyrfaoedd oddi ar y fferm, felly fe wnaethon nhw’r penderfyniad i gomisiynu John Crimes, partner yng nghwmni ymgynghorwyr amaethyddol CARA Wales, i’w cynorthwyo i gynllunio dyfodol y busnes fferm er mwyn sicrhau ei chynaliadwyedd.

Bu John yn darparu cyngor busnes a thechnegol i’r cwpwl, a arweiniodd at fuddsoddi’n helaeth yn isadeiledd y fferm, gan gynnwys adeiladu parlwr godro herringbone, gwella’r rheolaeth o’r borfa a chynyddu lefelau stoc. Buont hefyd yn trafod sut y byddai modd i’r busnes barhau a ffynnu pan fyddai Bryan, a oedd yn ei chwedegau cynnar ar y pryd, yn teimlo’n barod i gamu’n ôl o’i waith o ddydd i ddydd yn y busnes, yn enwedig yr elfen gorfforol.

Penderfynodd Bryan geisio cyflwyno ffermwr ifanc newydd i’r busnes rai blynyddoedd yn ôl. Nid oedd y trefniant yn llwyddiant i’r un o’r ddwy ochr, ond dywedodd Bryan ei fod wedi dysgu llawer o ganlyniad i’r profiad

“Nid ydych yn canfod y pâr delfrydol ar y tro cyntaf bob amser, ond roeddwn i’n dal i fod yn awyddus i ganfod datrysiad mwy hirdymor na chyflogi stocmon cynorthwyol ar sail cyflogwr/cyflogai yn unig.”  

“Mae’n rhaid i’w ddwy ochr wneud gwaith ymchwil manwl a chymryd digon o amser i ystyried  a fyddai menter ar y cyd yn llwyddo - cyfnod prawf o 6-12 mis o leiaf - neu’n ddigon hir i adeiladu perthynas dda, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a thryloywder ynglŷn â gobeithion a dyheadau at y dyfodol.

“Heb gwestiynu eich cymhelliant ac ystyried beth  all y ddwy ochr ei gynnig o ran asedau a sgiliau, rydych chi mewn perygl o gael barn cwbl wahanol ar gyfeiriad y busnes at y dyfodol a sut y dylid ei reoli o ddydd i ddydd,” meddai Bryan.

Roedd John yn awyddus i helpu, a phan gwrddodd â Dyfrig Davies, brawd iau un o’i gleientiaid llaeth, fe welodd gyfle. Mae John yn dal i ddweud fod gan Dyfrig obsesiwn gyda’r diwydiant llaeth! Roedd yn edmygu agwedd y ffermwr ifanc tuag at waith, ei ymroddiad i ffermio llaeth a’i ddiddordeb mewn geneteg, bridio a stoc, ac fe sylweddolodd cyn hir fod Dyfrig, a fu’n gweithio ar ffermydd cyfagos ers ei fod yn ifanc iawn, yn stocmon medrus a hoffus. Er ei fod yn dal yn ifanc, roedd Dyfrig wedi datblygu ei wybodaeth ac wedi magu profiad ymarferol.

Ar yr adeg honno, roedd Dyfrig yn ei ugeiniau cynnar, yn sengl ac yn byw yn eithaf lleol i Berllan Dywyll, yn ennill incwm da drwy ffermio llaeth ar gontract, ac mae’n barod iawn i gyfaddef mai ychydig iawn o gyfrifoldebau oedd ganddo mewn bywyd!

Yn ôl John, roedd angen tipyn o berswâd ar Dyfrig fod angen iddo greu cynllun hirdymor os oedd yn dymuno symud ymlaen o fod yn stocmon ar  gontract, yn gweithio oriau hir a llafurus heb unrhyw gyfle i ddatblygu ei yrfa’n bersonol. Yn ffodus iawn, gwelodd Meurig, ei frawd mwy profiadol, fod angen mentora a pherswâd er mwyn i Dyfrig fagu’r hyder i roi cynnig ar her newydd o weithio ochr yn ochr â’r ffermwr profiadol iawn yma.  

Sefydlwyd y bartneriaeth ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Dyfrig yn dweud ei hun fod cynnig Bryan yn ‘gyfle oes’. Roedd y trefniant arbrofol mor foddhaol i’r ddau deulu nes i’r misoedd ymestyn i flynyddoedd yn gwbl ddidrafferth. Yn 2015, diolch i'r cymorth a ddaeth ar gael drwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio, derbyniodd y busnes gyngor busnes, ariannol a chyfreithiol wedi’i ariannu’n llawn, gan eu galluogi i greu cytundeb ffurfiol cytbwys, er mwyn cyfrifo sut i rannu enillion a risgiau’r fenter ar y cyd yn y modd fwyaf effeithiol.

“Diolch i’r rhaglen Mentro, derbyniodd y ddwy ochr gefnogaeth wedi’i deilwra, ac yn ei dro, mae hynny wedi eu galluogi i roi sylw i agweddau technegol ac adeiladu perthynas wrth greu trefniant busnes llwyddiannus, ac mae ganddyn nhw gytundeb cytbwys ffurfiol gyda fframwaith cyfreithiol priodol,” meddai John.

Erbyn heddiw, mae partneriaeth pedair ffordd yn cadw fferm Berllan Dywyll ac mae’r bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth. Mae Dyfrig bellach yn ei dridegau cynnar, yn ffermwr llawn amser, ac mae ganddo fewnbwn personol yn y fferm hynod lwyddiannus hon, yn ogystal â gofalu am ei deulu. Mae ef a’i wraig, Anjulie, a’u meibion ifanc, yn byw mewn tŷ mawr cyfforddus ychydig lathenni o fuarth y fferm.

Mae’r trefniant yn golygu bod Bryan a Mary wedi gallu aros ar eu fferm deuluol gan wybod y bydd y fferm yn nwylo medrus a ffyddlon Dyfrig un diwrnod.

Mae gan Dyfrig eisoes fewnbwn i’r strategaeth fridio sy’n golygu magu’r holl anifeiliaid cyfnewid ac mae wedi trawsnewid y fuches i loia mewn bloc er mwyn symleiddio’r system. Mae’r bartneriaeth wedi gallu comisiynu John i greu cynllun busnes, gyda rhagolygon ariannol am dair blynedd, wedi’i ariannu’n llawn drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio fel rhan o’r broses Mentro. Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Mae ein partneriaeth yn canolbwyntio gymaint ar gynllunio ar gyfer y dyfodol ac arferion rheoli strategol ag ar agweddau’r busnes ffermio o ddydd i ddydd. Rydym ni’n dau’n dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn manteisio’n llawn ar wasanaethau Cyswllt Ffermio,” meddai Bryan.

Yn dilyn gosod cafnau dŵr newydd a symud tuag at system bori cylchdro, mae’r fferm yn dilyn polisi o bori’n galed drwy’r haf a bwydo Dogn Cymysg Cyflawn (TMR) yn y gaeaf. Mae problemau blaenorol gyda TB bellach wedi’u datrys, ac er bod llifogydd tymhorol yn parhau i  beri risg, mae rheoli’r glaswelltir yn fwy effeithiol wedi lleihau’r effaith.

Mae Bryan, Mary, Dyfrig ac Anjulie yn bartneriaid busnes cyfartal, ac mae pob penderfyniad mawr yn cael ei wneud yn ddemocrataidd, gyda John Crimes yn hwyluso trafodaethau o amgylch y bwrdd. Mae elw’r fferm yn cael ei rannu’n gyfartal ar ôl tynnu’r cyflogau a gytunwyd arnynt eisoes.

Dyfyniad gan Bryan

“Mae ein perthynas wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n galonogol gwybod ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar gydweithio i greu cyfleoedd newydd sy’n diogelu ein bywoliaeth ein dau, yn ogystal â dyfodol y fferm.”

“Roeddem ni eisoes mewn trefniant partneriaeth anffurfiol gyda Dyfrig, ond diolch i raglen Mentro Cyswllt Ffermio, rydym ni wedi gallu ffurfioli popeth erbyn hyn, sy’n rhoi sicrwydd hirdymor i’r ddwy ochr.

Dyfyniad gan Dyfrig

“Mae’n fraint cael bod yn bartner yn y busnes y mae Bryan wedi'i adeiladu dros nifer o flynyddoedd. Mae gennym ni berthynas waith dda iawn wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, cyfeillgarwch a pharch at y naill a'r llall. Mae'n rhoi teimlad o falchder i mi i wybod fy mod yn chwarae rhan bersonol yn ffyniant y busnes, nid yn weithiwr cyflogedig yn unig.

“Nid pawb fydd yn ddigon ffodus i ganfod y partner delfrydol yn syth, ond ni ddylai hynny atal unrhyw ffermwr ifanc rhag anelu’n uchel ac ystyried trefniant ffermio ar y cyd.

Bydd y rhaglen Mentro yn rhoi’r arweiniad sydd arnynt ei angen ar hyd y ffordd!”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o