13 Tachwedd 2019

 

Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Mae’r busnesau fferm a choedwigaeth fwyaf cynyddol yn sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf o’r buddion – gyda’r sgiliau Technoleg Gwybodaeth gywir, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb.

Yn ôl Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n gyfrifol am Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Lantra, os oes gennych y sgiliau TG cywir, rydych ar y blaen yn barod o ran eich cynorthwyo chi a’ch busnes i baratoi am y dyfodol!

Bydd Cyswllt Ffermio yn y Ffair Aeaf ar faes y Sioe Frenhinol (Llanelwedd, 25-26 Tachwedd), yn canolbwyntio ar arddangos gwasanaethau hyfforddiant a chefnogaeth TG wedi eu hariannu’n llawn sydd ar gael ar gyfer pob ffermwr a choedwigwr yng Nghymru sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio. Beth bynnag yw lefel eich dealltwriaeth, o fod yn ddechreuwr llwyr, neu os oes gennych ddealltwriaeth dda ac eisiau datblygu ymhellach o ran defnyddio technoleg o fewn eu busnesau, dywed Mrs Williams bod yr hyfforddiant yma yn wych ac na fyddwch eisiau methu allan.

Galwch heibio ‘Hwb TG’ cyntaf erioed Cyswllt Ffermio yn Adeilad Lantra (Rhodfa K) er mwyn darganfod sut allwch chi gael budd ac ymgeisio am yr ystod eang o hyfforddiant sydd ar gael. Cewch weld wefan Cyswllt Ffermio ar ei newydd wedd a’r platfform BOSS newydd, ble allwch chi edrych ar ddyddiadau a lleoliadau cyrsiau hyfforddiant sydd ar y gweill; derbyn arweiniad a chwblhau Cynllun Datblygu Personol a chael mynediad i’r modiwlau dysgu sydd wedi ehangu ac wedi cael newydd wedd. 

Byddwch hefyd yn cael eich annog i ddarganfod mwy am Storfa Sgiliau, sef teclyn digidol, ar-lein, newydd, a fydd yn sicrhau bod gennych fynediad at eich cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) o fewn munudau, ar-lein neu drwy adroddiad gellir ei lawrlwytho. Bydd y system newydd yma yn cynnwys pob gweithgaredd hyfforddi trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio sydd wedi cael eu cyflawni gan unigolyn cofrestredig, yn awtomatig, yn ystod y rhaglen bresennol a bydd yn cynnwys rhan o’r enw “Fy ardal”, ble gallwch gadw a diweddaru eich cofnodion personol eich hun hefyd.

Mae’n bosib y byddwch hefyd eisiau galw heibio adeilad Lantra ar y dydd Mawrth gan y bydd dronau yn cael eu harddangos yno, ble allwch chi gael profiad o gogls rhith wirionedd a fydd yn rhan o arddangos y dronau. Bydd gweithdai Cyflwyniad i Dronau yn dechrau yn ystod mis Ionawr 2020 hefyd, felly dewch yn llu!

Bydd hefyd cyflwyniad ac arddangos Iechyd a Diogelwch partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn adeilad Lantra prynhawn dydd Llun a Mawrth, fydd yn ymwneud ag iechyd a diogelwch wrth weithio o uchder – edrychwch allan am sgaffaldiau ar adeilad Lantra.

Bydd Swyddogion Cyswllt Ffermio yn barod i sgwrsio a sôn wrthych am becynnau o wasanaethau a chefnogaeth wedi ei deilwra i’ch gofynion mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys adeilad Lantra (Rhodfa K), ar falconi llawr cyntaf yr adeilad da byw; stondin Coed Cymru ac yn Neuadd Dde Morgannwg, ble byddant yn rhan o bresenoldeb Llywodraeth Cymru.

“Rydym yma i’ch helpu chi gynllunio o flaen llaw a sôn am y gwasanaethau a fydd yn bodloni eich gofynion.

 “Mae’r cyfnod yma yn hollbwysig i’r diwydiant, i baratoi ar gyfer y dyfodol a chyflawni eu potensial ar draws pob maes gwaith,” meddai Mrs Williams.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio