22 Ionawr 2020

 

Mae cynhyrchwyr cig oen sy’n profi cyfraddau erthylu o fwy na 2% yn cael eu cynghori i brofi’r mamogiaid am y prif bathogenau sy’n achosi erthyliad.

Mae bron i chwarter yr holl golledion ŵyn ar ffermydd Cymru oherwydd erthylu, ac eto gall Erthyliad Ensöotig Mamogiaid (EAE) a tocsoplasma gael eu rheoli yn effeithiol trwy frechu.

Mae gweithdai sy’n cael eu rhedeg ledled Cymru yn helpu i roi gwybodaeth i ffermwyr defaid am y camau y gallant eu cymryd i leihau colledion. 

Arweinir y digwyddiadau rhyngweithiol gan filfeddygon ac fe’u cefnogir gan Lywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra a NADIS.

Mae effeithiau ariannol erthylu yn uchel; gall rhywun sy’n pesgi ŵyn o’r safon uchaf gyda chyfradd erthylu o 2% golli £1,796, a gall rhywun sy’n bridio defaid miwl cyfnewid golli £1,950, ond dywedodd y milfeddyg Cath Tudor o ProStock Vets bod y rhain yn amcangyfrifon isel.

Wrth annerch ffermwyr yn ystod un o’r digwyddiadau yn Sir Benfro, dywedodd Ms Tudor y dylech ei gymryd yn rhybudd os yw’r colledion yn fwy na 2%.

Gall mamogiaid gael eu profi yn rhad ac am ddim dan gynllun diagnostig sy’n cael ei redeg gan MSD Animal Health, esboniodd.

Mae’n argymell profi a brechu yn hytrach na throi at wrthfiotig i ymdrin â’r broblem pan fydd yn digwydd.

Mae brechu rhag EAE yn costio tua £2.50 am bob anifail a hyd at £4 ar gyfer tocsoplasmosis ond dim ond unwaith y bydd angen brechu y rhan fwyaf o famogiaid.

Yr amser a argymhellir i frechu yw o leiaf bedair wythnos cyn troi at yr hwrdd, dywedodd Ms Tudor.

“Mae’r flwyddyn gyntaf yn ddrud achos bydd yn rhaid brechu pob mamog, ond ar ôl hynny dim ond y stoc cyfnewid fydd angen triniaeth.”

Prynu mamogiaid neu gymryd ŵyn amddifad i mewn i’w rhoi i ddefaid yw’r prif achosion sy’n achosi i ddiadell gael ei heintio ag EAE; nid yw mamogiaid sy’n erthylu ŵyn yn cael gwared â’r heintiad ac maent yn trosglwyddo’r heintiad i’w hepil benywaidd.

Cynghorodd Ms Tudor na ddylid bridio o ŵyn benyw mamogiaid wedi eu heintio na rhoi oen i famog sydd wedi erthylu.

Os byddwch yn prynu stoc cyfnewid i mewn, prynwch gan ddiadelloedd ag achrediad EAE yn unig, dywedodd.

Dylai pob dafad sy’n cael ei chludo i’r fferm gael ei brechu cyn iddi gymysgu â’r ddiadell sydd yno.

Mae heintiad tocsoplasma yn cael ei godi o faw cathod yn unig - gall dim ond 50g o’r baw cath gynnwys 10 miliwn öosyt a dim ond 40 sydd eu hangen i heintio mamog.

Bydd yr öosystau yma yn parhau yn heintus am 12 mis.

Ystyriwch dorri ar gathod gwryw a chadwch bob cath oddi wrth borthiant defaid.

Pan fydd mamog yn erthylu, mae’r deunydd ddaw ohoni yn creu risg fawr o heintiad.

Awgrymodd Ms Tudor gadw’r famog ar ei phen ei hun a’i thrin hi fel anifail heintus iawn rhag ofn mai EAE yw achos yr erthyliad. 

“Bydd yr organeb yn cael ei wasgaru trwy ollyngiadau o’r fagina am wythnosau lawer ar ôl iddi erthylu,” rhybuddiodd.

Gall mamog golli un oen ond hefyd eni oen byw. “Y rhain sy’n creu’r risg fwyaf o heintiad oherwydd ni fydd y ffermwr yn aml yn gwybod ei fod yn erthyliad gwirioneddol,” dywedodd Ms Tudor.

Glanhewch a diheintiwch gorlannau lle mae defaid wedi erthylu. Dylai pobl sydd wedi cael cysylltiad gyda’r famog a’r gorlan hefyd eu diheintio eu hunain.

Mae dadansoddi’r deunydd sy’n cael ei erthylu, gan gynnwys y ffoetws, hylifau’r ffoetws ac yn bwysicaf oll, y brych, yn hanfodol i benderfynu beth sydd wedi ei achosi.

Dylid ystyried profi gwaed hefyd os oes cyfran uchel o famogiaid gwag wrth sganio.

Mae triniaethau mewn porthiant ar gael fel decoquinate, ond erbyn hyn mae’r difrod wedi ei wneud yn barod, dywedodd Ms Tudor.

Mae’n argymell polisi o gael gwared ar famogiaid sydd wedi erthylu ond rhybuddiodd y gall lefel yr heintiad amgylcheddol barhau am gryn amser. 

Mae casglu data, fel colledion rhwng sganio a gwerthu ŵyn, yn allweddol i fod yn sail i gynllun rheoli effeithiol i atal colledion y tymor nesaf, ychwanegodd.

Mae EAE a thocsoplasmosis yn drosglwyddadwy i bobl a gallant achosi i ferched beichiog gam-esgor, felly mae’n holl bwysig na fyddant yn cael cyswllt â defaid yn ystod y cyfnod ŵyna.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o