12 Rhagfyr 2019

 

Ar hyn o bryd mae amrywiaeth eang o brosiectau a fydd yn cyfrannu at wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar ffermydd Cymru yn cael eu cynnal ar Safleoedd Arddangos newydd Cyswllt Ffermio.

Mae’r prosiectau sy’n berthnasol i’r sector llaeth, cig coch, dofednod a choedwigaeth yn cael eu cyflwyno ar y 18 fferm a ddaeth yn rhan o’r prosiect yn gynharach eleni.

Mae pob prosiect yn wahanol, a chaiff y canlyniadau eu rhannu gyda ffermwyr mewn diwrnod agored a gynhelir ar bob fferm yn ystod 2020. Bydd pob safle’n edrych ar effaith ariannol a ffisegol unrhyw waith prosiect ar y busnes, er mwyn i ffermwyr eraill allu dysgu o’r profiad.

Er enghraifft, yn fferm Bodwi, Mynytho, mae’r prosiect yn anelu i wella proffidioldeb, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd pesgi bustych wrth ddefnyddio grawn sydd wedi dyfu ar y fferm. 

Lloeau gwryw yw’r anifeiliaid mwyaf effeithlon i’w pesgi gan fod effeithlonrwydd trosi porthiant a thyfiant ychwanegol ar eu huchaf yn ystod y cam cynhyrchu yma; mae trosiant cyflym y system hefyd yn apelio i’r ffermwyr.

Ond gan fod angen pesgi’r lloeau erbyn eu bod yn 16 mis, neu hyd yn oed 14 mis gyda rhai cynlluniau, mae’n golygu y gallai fod angen lefelau uchel o fewnbynnau ar gyfer y systemau pesgi.

Gyda phrisiau bîff yn ansicr a chost uchel dwysfwyd, bydd y fferm yn ceisio sicrhau mwy o reolaeth trwy dyfu mwy o’i mewnbynnau.

Yn Halghton Hall, Wrecsam, bydd y prosiect yn edrych ar y pwysau a’r cyflwr gorau i ŵyn beinw feichiogi.

Mae’r prosiect hefyd yn ceisio nodi’r ganran sganio fwyaf cynaliadwy ar gyfer ŵyn beinw a cheisio cynyddu cyfraddau beichiogi o 60% i dros 90%.

Mae prosiectau sydd o ddiddordeb i ffermwyr llaeth hefyd.

Yn y fuches sy’n lloia drwy’r flwyddyn yn Erw Fawr, Ynys Môn, y nod yw defnyddio’r borfa’n well a chynhyrchu mwy o laeth o borthiant.

Ym Mount Joy, Hwlffordd, byddant yn edrych i fridio am effeithlonrwydd mewn buches laswellt sy'n lloia yn y gwanwyn.

Bydd pob llo yn cael ei genoteipio a bydd yr heffrod cyfnewid gorau ar gyfer system lloia bloc y gwanwyn yn cael eu dewis. 

Bydd pob llo’n cael ei dagio a bydd y rhai gorau’n cael eu dewis i gyd-fynd â gofynion y system ffermio.

Hefyd, bydd y prosiect yn craffu ar botensial profion genomig i hybu cynhyrchiant solidau llaeth.

Lle bo’n bosibl, bydd technoleg newydd ac arloesol yn cael ei threialu a’i harddangos. Er enghraifft, bydd porth LoRaWAN ar bob safle i helpu i gasglu data ar y fferm. Mae LoRaWAN yn un o nifer o dechnolegau Rhyngrwyd o Bethau (IoT) sy’n ddull syml, isel o ran costau a gwaith cynnal, i gysylltu nifer o fawr o “bethau” â’r rhyngrwyd er mwyn cael data gwell, mwy amserol.

Ar Fferm Pantyderi, cynhelir prosiect yn canolbwyntio ar wasanaeth sganio Dargludedd Trydan ar 40 hectar o borfa. Bydd y data a gesglir yn creu parthau i fapio pridd bob cae yn seiliedig ar newidiadau yn y math o bridd a geir drwy’r cae. Bydd y pridd yn cael ei brofi ym mhob parth, gan greu mapiau o fynegai maetholion ar draws y parthau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i edrych ar fanteision economaidd, amgylcheddol a chynhyrchiant yng nghyd-destun cynllun rheoli maetholion manylach yn seiliedig ar ddefnyddio cyfradd amrywiol o wrtaith a chalch. Hefyd ymchwilir i’r defnydd o feddalwedd benodol yn gysylltiedig â thechnoleg GPS peiriannau a thractorau, gan arddangos y canlyniadau.

 

Prosiectau eraill:

Cig coch

  • Gwella gwerth porthiant a dyfir eich hun o feillion
  • Rheoli’r newid o loeau sugno i fuchod llaeth
  • Iechyd a pherfformiad defaid

Llaeth 

  • Gallu buchod i symud
  • Gwella ffrwythlondeb lloia mewn bloc
  • Lleihau mewnbynnau gwrtaith a chynnwys gwyndwn cymysg

Dofednod

  • Integreiddio technoleg ar gyfer uned ddodwy

Tir âr

  • Defnyddio mapio a pharthau pridd i sicrhau effeithlonrwydd mewnbynnau maetholion ar dir âr
  • Defnyddio ffermio cyfradd amrywiol i dyfu cnwd o haidd gwanwyn

Coedwigaeth 

  • Ychwanegu gwerth i goetir fferm ar raddfa fechan
  • Technegau arfer gorau o ran gofalu a chynnal

 

Gall ffermwyr ddod o hyd i leoliad y Safleoedd Arddangos ar y map rhyngweithiol ar wefan newydd Cyswllt Ffermio.

Mae’r wefan ar ei newydd wedd ac wedi’i rhannu’n bedair adran - Busnes, Tir, Da Byw ac Ein Ffermydd - fel y gall defnyddwyr ddod o hyd i bynciau sydd o ddiddordeb yn hwylus.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint