20 Ionawr 2020

 

Bydd ffermwyr defaid sy’n rheoli maethiad mamogiaid yn wyth wythnos olaf eu beichiogrwydd yn cael eu gwobrwyo trwy dyfiant a datblygiad llwyddiannus yr oen cyn ei eni.

Mae maethiad mamogiaid yn bwysig ar bob cyfnod yn eu beichiogrwydd, ond dywedwyd wrth ffermwyr a ddaeth i weithdai ar atal colledion wrth ŵyna bod yr wyth i chwe wythnos olaf yn arbennig o bwysig.

Os yw’r maethiad yn wael, ni fydd gan yr ŵyn newydd-anedig ddigon o fraster brown, gan eu gadael yn oer a gwan, dywedodd y milfeddyg Miranda Timmerman, o ProStock Vets.

Y braster brown hwn yw’r unig ffynhonnell egni i’r oen newydd ei eni a bydd yn ei gadw yn fyw a bywiog am rai oriau ar ôl ei eni, dywedodd wrth ffermwyr a aeth i un o’r gweithdai yn Nanhyfer.

Mewn amgylchiadau arferol, mae hyn yn ddigon o amser i’r oen sychu a dechrau sugno’r colostrwm.

Rhan o gyfres sy’n cael ei chyflwyno ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra a NADIS ar y cyd â milfeddygon yw’r gweithdai colledion wrth ŵyna.

Cynghorodd Ms Timmerman y ffermwyr y bydd cadw golwg gyson ar sgôr cyflwr corff y mamogiaid yn sicrhau nad ydynt yn mynd yn rhy denau, neu yn wir yn rhy dew, ar unrhyw gyfnod.

“Bydd gan famog denau fwy o ddiddordeb yn yr hyn y mae eisiau ei fwyta, na rhoi llaeth i’w hoen,” dywedodd.

Dylai bridiau tir isel fel Texel fod ar sgôr cyflwr corff 3.5 wrth ŵyna a dylai bridiau’r ucheldir fod yn 2.5-3.

Mae’n cymryd wyth wythnos ar ddigonedd o borfa i ennill 1 gradd sgôr cyflwr corff.

Rhaid i famogiaid beichiog gael eu porthi yn ôl y nifer o ŵyn y maent yn eu cario, ac felly, mae sganio yn bwysig.

Dylai mamogiaid gydag un oen, gefeilliaid a thripledi gael eu rheoli mewn grwpiau ar wahân a chael cyfansymiau gwahanol o borthiant. 

Rhaid i unrhyw ddiffyg yn yr egni a’r cynnwys sych nad yw’n cael ei ddarparu gan y porthiant gael ei ddarparu trwy borthiant ategol. 

Bydd dadansoddi silwair a glaswellt yn rhoi gwybodaeth am lefel y porthiant ategol angenrheidiol. 

Mae ar ddefaid angen porthiant o’r ansawdd gorau cyn ŵyna. “Cadwch eich silwair yn iawn gan fod defaid yn llawer mwy sensitif na gwartheg i silwair o ansawdd gwaelach,” dywedodd Ms Timmerman.

Bydd camau ymarferol fel symud silwair sydd heb ei fwyta a rhoi porthiant ffres yn ei le yn cynyddu faint fydd yn cael ei fwyta.

Bydd porthi Dogn Cymysg Cyflawn (TMR) hefyd yn sicrhau eu bod yn bwyta mwy. 

Bydd rhoi ychydig o ddwysfwyd yn gyson yn osgoi asidosis, dywedodd Ms Timmerman. “Mae dwywaith y dydd yn eithaf cyffredin,” dywedodd.

Cadwch olwg ar faint sy’n cael ei fwyta i sicrhau eu bod yn bwyta yr hyn sydd wedi ei roi iddynt. Rhowch y lefel gywir o fwynau hefyd.

Gall ffermwyr fonitro maethiad gyda mesurydd cetonau – argymhellir bod y prawf ochr defaid hwn y cael ei wneud 2-3 wythnos cyn ŵyna gan ei fod yn rhoi cyfle i ganfod risg o glwy’r eira.

Mae’r gofynion egni uwch sydd ar famogiaid beichiog yn hwyr yn eu beichiogrwydd yn golygu y gallant golli eu cyflwr a dioddef yr afiechyd hwn.

Oherwydd y gofyn mawr am glwcos, mae’r famog yn dechrau torri ei braster corff ei hun i lawr yn gyflym ac mae hyn yn cynhyrchu cemegolion gwenwynig o’r enw cetonau, sy’n casglu’n gyflym yn y gwaed.

Er mwyn atal clwy’r eira, rhaid i ffermwyr lunio’r dognau cywir o faeth i famogiaid.

Gall ffactorau maethol hefyd achosi i famogiaid fwrw eu llawes goch; os bydd mamogiaid yn rhy dew neu wedi cael diet trwm llawn o borthiant yn hwyr yn eu beichiogrwydd, fe fyddant yn agored i hyn.

Gall rhoi’r maeth cywir i famogiaid atal iddynt fwrw eu llawes goch, dywedodd Ms Timmerman.

Rhaid i famogiaid sydd yn dioddef gael eu marcio yn glir a dylid cael gwared arnynt gan ei bod yn gyffredin i’r broblem ddigwydd dro ar ôl tro, argymhellodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol