10 Ionawr 2020

 

Mae dau ffermwr llaeth ger Rhaglan, Sir Fynwy, yn cymryd rhan mewn prosiect EIP yng Nghymru sydd yn un o’r cyntaf o’i fath yn y DU i ymchwilio sut y gallai rheoli chwyn gan ddefnyddio techneg electroffisegol leihau ein dibyniaeth ar chwynladdwyr wrth reoli dail tafol. Gall dail tafol leihau ansawdd y borfa neu silwair yn sylweddol gan mai dim ond 65% o werth porthiant glaswellt sydd ynddynt. Mae hyn, ynghyd â’u gallu i feddiannu caeau yn gyflym, yn eu gwneud yn chwyn trafferthus iawn i ffermwyr glaswelltir. Mae mwy a mwy o angen i’r sector amaeth symud oddi wrth ddulliau cemegol o reoli chwyn o ganlyniad i’r pryderon ynglŷn ag effaith chwynladdwyr ar ein hamgylchedd ac iechyd dynol.

Yn y prosiect dwy flynedd hwn, mae dau gae wedi cael eu rhannu’n blotiau treialu 2m x 6m i gymharu effeithiolrwydd triniaeth drydanol gyda thrin yn y dull arferol gan ddefnyddio chwynladdwr. Mae’r ffermwyr yn gweithio gyda chwmni RootWave sy’n arloesi drwy ddefnyddio trydan fel triniaeth gynaliadwy ac organig yn hytrach na defnyddio chwynladdwr. 

Mae’r offer trin chwyn trydanol wedi ei ddylunio i yrru cerrynt foltedd uchel drwy’r planhigyn ac mae ymwrthedd naturiol y chwyn yn trawsnewid yr egni trydanol yn wres sy’n ei ferwi o’r tu mewn o’r gwraidd i fyny. Ar y plotiau arbrofol bychain sy’n rhan o’r prosiect, byddant yn defnyddio picell gyda chebl 20m wedi’i bweru gan eneradur petrol. Mae pob planhigyn tafol yn cael ei gyffwrdd gyda’r bicell am oddeutu 5-10 eiliad cyn symud ymlaen at y planhigyn nesaf. Dengys y canlyniadau o’r tymor tyfu cyntaf (Ffigwr 1 a 2) bod triniaeth drydanol wedi bod yn effeithiol wrth ladd y dail tafol, ond, gwelwyd bod angen ailadrodd y driniaeth i fod yr un mor llwyddiannus â chwynladdwr.

Dywed Stephen Jelley, Cyfarwyddwr Masnachol RootWave, “Ymysg manteision defnyddio trydan mae’r ffaith fod y system yn fanwl gywir ac yn lladd y dail tafol neu’r planhigion mae’n ei gyffwrdd yn unig. Mae’n gynaliadwy, nid yw’n gadael unrhyw waddod, ac nid yw’n amharu ar y pridd.” Ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael sy’n ddiogel i feillion o ran chwistrelli plaleiddiaid ar gyfer dail tafol, felly mae’r dechnoleg yn cynnig potensial gwych ar gyfer systemau organig a chonfensiynol.

Mae prisiau presennol yn golygu nad yw’r peiriant yn opsiwn ymarferol ar gyfer ffermydd llai, ond gallai fod yn fwy ymarferol pe byddai’n cael ei gontractio i mewn. Mae’r dechnoleg yn newydd iawn, ac fel unrhyw beth newydd, bydd datblygiadau’n arwain at wella effeithiolrwydd a gostwng y prisiau ymhen amser. 

“Mae’r dull unigryw hwn o reoli dail tafol yn cynnig potensial enfawr ar gyfer ffermwyr organig a chonfensiynol. Mae modd defnyddio’r dechnoleg ar raddfa ehangach a byddai modd defnyddio offer trydanol i reoli chwyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ar fferm,” meddai Will John, ADAS, y Brocer Arloesedd ar gyfer y prosiect.
 

Ffigwr 1

 

Ffigwr 2

 

Bydd yr arbrofion yn parhau yn 2020 lle bydd rhai addasiadau’n cael eu gwneud i amseriad y triniaethau a pha mor aml y cânt eu hailadrodd. 

Mae’r peiriant Rootwave Pro yn defnyddio generadur petrol a phicell gyda chebl hir (~20m).

 

Dŵr yn anweddu o feinwe’r planhigyn. Roedd pob planhigyn dail tafol yn y plot yn cael ei gyffwrdd â’r bicell drydanol am tua 5 -10 eiliad cyn symud at y planhigyn nesaf.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio