11 Mawrth 2026
Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir ffermwyr da byw i weithredu nawr a brechu eu stoc rhag Feirws y Tafod Glas (BTV). Achubwch y blaen ar dymor y gwybed ac amddiffynnwch eich anifeiliaid.
Mae'r tafod glas yn glefyd feirysol sy'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil megis defaid, gwartheg, geifr a cheirw, yn ogystal â chamelidau fel lamas ac alpaca.
Mae'n cael ei ledaenu'n bennaf gan frathiadau gan wybed (rhywogaeth Culicoides) ond weithiau gall gael ei drosglwyddo o fam heintiedig i epil neu yn ystod paru.
Mae'r neges gan filfeddygon ac arbenigwyr yn y diwydiant yn syml: Mae imiwnedd yn cymryd amser. Mae'n cymryd sawl wythnos i'r brechlyn rhag y Tafod Glas ddatblygu amddiffyniad mewn defaid a gwartheg. “Brechu yw'r unig offeryn sydd ar ôl yn y bocs nawr, nid oes triniaeth” meddai Phil Thomas BVetMed o Iechyd Da.
Realiti BTV-3
Nid problem iechyd yn unig yw'r Tafod Glas; mae'n ergyd enfawr i elw'r fferm. Hyd yn oed os yw anifeiliaid yn goroesi'r feirws, gall y difrod hirdymor fod yn ddinistriol:
- Colled o ran cynhyrchiant: "Gostyngiad sydyn a difrifol yn y llaeth a gynhyrchir" mewn buchesi llaeth
- Colli anifeiliaid: Lloi sy’n cael trafferth sugno/sefyll ayb, erthyliadau
- Problemau’n ymwneud â ffrwythlondeb: Gall hyrddod a theirw gael eu gadael yn anffrwythlon, gan ddifetha'r tymor bridio
- Argyfwng o ran lles: Mae chwydd, cloffni ac anawsterau anadlu yn achosi dioddefaint aruthrol
Perygl y Tafod Glas
- Gwybed lleol: ardaloedd lle mae clefyd eisoes wedi bod, e.e. ffiniau Cymru/Lloegr
- Gwybed y gellir cael eu chwythu ar draws y dŵr o ardaloedd heintiedig, e.e. o Ddyfnaint, Cernyw neu arfordir dwyreiniol Iwerddon
- Yna, gall da byw sy'n cario'r feirws yn eu gwaed heintio'r gwybed lleol yn eich ardal
Byddwch yn wyliadwrus gyda stoc sy’n gaeafu sy'n dychwelyd o ardaloedd heintiedig gan fod ganddyn nhw'r potensial i gario BTV i'ch fferm. Fel bob amser, mae'n bwysig dod o hyd i anifeiliaid yn gyfrifol a sicrhau nad ydych chi'n prynu mwy nag yr oeddech chi wedi bwriadu.
Pam fod hyn yn fater brys?
Mae feirws y Tafod Glas yn cael ei ledaenu gan wybed sy'n brathu yn hytrach na chyswllt ag anifeiliaid. Mae eich buches neu ddiadell mewn perygl hyd yn oed os oes gennych ddaliad caeedig llym.
Unwaith y bydd y tymheredd yn cyrraedd 12°C yn gyson, mae ymchwydd yn nifer y gwybed. Os byddwch chi'n aros i weld y pryfed neu glywed am achos lleol, mae eich da byw eisoes mewn perygl.
Cynghorodd Fiona Lovatt, sy’n filfeddyg gyda Flock Health ac yn arbenigo mewn iechyd a chynhyrchu defaid, “Pe bai gen i stoc werthfawr, byddwn yn bendant yn brechu fy ngwartheg a mamogiaid bridio. Mae angen eu hamddiffyn yn llawn o leiaf 3 wythnos cyn mis Mehefin ac, ar gyfer gwartheg, mae hynny’n golygu eu bod wedi cael y ddau ddos erbyn hynny.”
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud heddiw
- Ffoniwch y milfeddyg: Gwiriwch argaeledd brechlynnau a chael eich enw ar y rhestr.
- Cynlluniwch y calendr: Trefnwch eich amserlen dosio fel bod gan eich anifeiliaid imiwnedd llawn cyn y bydd nifer y gwybed ar eu huchaf.
Peryglon o ran symud a throsglwyddo
Mae angen gofal wrth symud da byw dros bellteroedd hir, gan y gall cludo anifail heintiedig i ardal neu ddaliad sy'n rhydd o BTV-3 heintio'r boblogaeth leol o wybed a sbarduno achos newydd.
Er mwyn atal lledaeniad mecanyddol ymhellach, mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio safonau hylendid uchel yn ystod gweithdrefnau milfeddygol. Gall BTV ledaenu trwy nodwyddau yn ystod pigiad; felly, yn ddelfrydol dylid newid nodwyddau rhwng pob anifail, yn enwedig mewn ardaloedd risg uchel neu yn ystod cyfnodau lle mae nifer y cludwyr ar eu huchaf.
Rheolaeth amgylcheddol a siediau anifeiliaid
Mae gweithgaredd gwybed fel arfer ar ei uchaf gyda'r cyfnos a'r wawr, felly gall cadw anifeiliaid dan do yn ystod yr amseroedd hyn leihau'r risg o haint.
Yn ogystal, dylai cynhyrchwyr sicrhau bod eu stoc mewn cyflwr iechyd perffaith, gan y gall clefydau cydredol (fel BVDv neu barasitiaeth) a maeth gwael wanhau system imiwnedd anifail a lleihau ei allu i ymateb yn effeithiol i frechiad.
Peryglon yn ymwneud â brechu?
Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i awgrymu bod rhoi’r brechlyn rhag y tafod glas yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu’r risg o erthyliad yn fwy na rhoi brechlynnau safonol eraill.
Mae Abi Reader o Fferm Goldsland, a llywydd NFU Cymru yn eiriolwr dros y brechiad rhag Feirws y Tafod Glas (BTV). Mae hi’n rheoli buches sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. “Roedd cyfran fawr o’n da byw mewn gwahanol gyfnodau o feichiogrwydd pan wnaethon ni frechu, ond ni wnaethom oedi,” eglurodd Abi. “Roedd y risg i’w hiechyd o’r feirws yn llawer mwy na risg y brechiad.” Yn dilyn llwyddiant y dull hwn, cadarnhaodd y byddant yn parhau â’r protocol wrth symud ymlaen.
Fodd bynnag, mae feirws y tafod glas wir yn peri bygythiad difrifol i dda byw oherwydd gall achosi erthyliadau, marw-enedigaethau, a genedigaeth lloi gwan.
Er mwyn sicrhau diogelwch ac iechyd eich anifeiliaid, dylech ymgynghori â milfeddyg i bennu’r amseriad mwyaf effeithiol ar gyfer brechu o fewn eich buches neu ddiadell. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar frechu yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar argaeledd brechlyn, gofyniad y dos, cyfnod imiwnedd a mwy ar gael yma a gwybodaeth am roi gwybod am eich defnydd o'r brechlyn rhag y Tafod Glas (BTV-3) yma!
Esboniodd Fiona Lovatt fod “Y Tafod Glas yn glefyd ofnadwy – ac yn anffodus rydym wedi’i weld yn achosi llawer o farwolaethau ymhlith defaid ledled Ewrop a phroblemau sylweddol gyda ffrwythlondeb gwartheg yn y DU hyd yn hyn. Mae’r feirws yn achosi i wartheg naill ai golli eu beichiogrwydd neu maent yn cynhyrchu lloi sydd methu sugno/sefyll ayb na allant oroesi. Brechu yw’r unig amddiffyniad dibynadwy yn erbyn y clefyd.”
Mae Phil Thomas yn annog ffermwyr i feddwl ymlaen llaw a gweithredu nawr, mae eich da byw angen cael y blaen ar y clefyd i feithrin imiwnedd llawn. “Mae brechu yn bolisi yswiriant, felly ceisiwch y warchodaeth gorau posibl.” I leihau eich risg, codwch y ffôn heddiw, siaradwch â'ch milfeddyg, ac amddiffynnwch eich stoc.
Mae'r Tafod Glas yn dal yn hysbysadwy, felly dywedwch wrth eich milfeddyg neu ffoniwch swyddfa'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych chi'n amau'r Tafod Glas ar 0300 303 8268. Mae cwestiynau ac atebion a rhagor o wybodaeth ar gael yma!