26 Tachwedd 2020

 

Angen help gyda chynllun busnes, cyngor am ychwanegu gwerth i’ch busnes trwy edrych ar eich da byw, tir neu gyfleoedd arallgyfeirio, neu arweiniad i ganfod unrhyw broblemau a allai fod yn atal eich busnes rhag gweithredu mor effeithlon a phroffidiol â phosibl?

Ydych chi'n ffermwr neu'n goedwigwr sy’n disgwyl yn bryderus i weld sut y caiff eich busnes ei effeithio ar ddiwedd y cyfnod pontio? Neu a ydych chi’n cymryd rheolaeth dros eich tynged, gan gymryd camau i baratoi eich busnes ar gyfer beth bynnag sydd o'n blaenau?

Mae Cyswllt Ffermio yn annog pob busnes fferm a choedwigaeth i wneud cais am gyngor arbenigol a fydd yn eu helpu i gynyddu effeithlonrwydd a hybu elw. Mae £1.875 miliwn yn ychwanegol wedi ei ddarparu, a bydd hyn yn sicrhau parhad y Gwasanaeth Cynghori ar gyfer busnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. 

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sydd ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod y cyhoeddiad diweddar am gyllid ychwanegol yn golygu y gall busnesau cymwys wneud cais am gyngor cyfrinachol, wedi'i deilwra i'w hanghenion, i'w helpu i redeg eu busnes ar y lefel uchaf bosibl ar draws pob maes gwaith.

"Mae ein diwydiant yn wynebu cyfnod o newid digynsail a gyda phob busnes ar y tir yn cael eu hannog i leihau eu hôl troed carbon, mae'n anochel y bydd y ffordd y mae'r busnesau hyn yn gweithredu yn wahanol.

Mae wyth ymgynghoriaeth wledig flaenllaw wedi'u cymeradwyo i ddarparu'r Gwasanaeth Cynghori. Mae cyngor un-i-un wedi’i ariannu hyd at 80%, ac mae cyngor fel grŵp, sydd ar gael i rhwng tri ac wyth unigolyn, yn cael ei ariannu'n llawn hyd at uchafswm o €1,500 (ewro) fesul cais.

Mae cynllunio busnes yn un o nifer o gategorïau sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Cynghori, gan roi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus geisio cyngor cyfrinachol ac annibynnol a fydd yn eu helpu i arfarnu eu busnes a diogelu ei ddyfodol. Mae eraill yn cynnwys gwelliannau i'r seilwaith; rheoli pridd, glaswelltir a chnydau, rheoli a pherfformiad da byw, materion amaeth-amgylcheddol a rheoli coetiroedd.  

"Pa sector bynnag yr ydych ynddo, bydd nodi meysydd i'w gwella a dod o hyd i atebion i heriau yn hanfodol i fusnesau sydd angen cystadlu yn y farchnad fyd-eang newydd," meddai Mrs Williams. 

I gael gwybodaeth fanylach am y Gwasanaeth Cynghori, cliciwch yma. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456000 813 neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen