Cynllun Datblygu Personol (PDP)

…adnabod eich nodau hyfforddiant

 

Cwblhau PDP

Bydd eich PDP yn eich galluogi i adnabod y cyrsiau a fydd yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn eich helpu i ddatblygu eich busnes. Mae cydnabod eich nodau hyfforddi yn rhan bwysig o'r broses hon.

Bydd eich PDP yn eich cynorthwyo i wneud y canlynol:

  • Cofnodi cymwysterau a sgiliau cyfredol.
  • Canfod eich amcanion hirdymor a’ch nodau tymor byr.
  • Canfod pa gyrsiau hyfforddi all eich helpu i wella sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd.
  • Nodi pa amcanion hyfforddi y mae angen i chi eu cyflawni.

 

Ni allwch ymgeisio ar gyfer cyllid sgiliau heb gwblhau PDP. Dylech bob amser…

  • sicrhau bod eich PDP yn gyfredol
  • defnyddio eich PDP fel adnodd i’ch cynorthwyo i adnabod y sgiliau sydd arnoch eu hangen
  • sicrhau eich bod yn gosod nod perthnasol ar gyfer pob cwrs yr ydych yn ymgeisio ar ei gyfer

DS Unwaith y bydd eich PDP wedi cael ei greu, ni fydd angen i chi greu un newydd, dim ond diweddaru’r un sydd gennych eisoes.

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi llyfryn canllawiau ‘cam wrth gam’ defnyddio a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio, gan gynnwys mynediad i BOSS chwblhau PDP. Cliciwch yma neu cysylltwch â ni i archebu copi.

 

Sut i gwblhau PDP

  • Mewngofnodwch i BOSS neu cliciwch y botwm ‘Mewngofnodi i BOSS’ ar bennawd gwefan Cyswllt Ffermio.
  • (Am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer cael mynediad at BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma neu gwyliwch i fideo isod)
  • Dewiswch yr adran Cynllun Datblygu Personol ar y dudalen flaen
  • Cwblhewch bob maes yn y tab Trosolwg a'r tab Cyrsiau
  • Cliciwch “Ychwanegu cwrs
  • Dewiswch gategori ar waelod y dudalen
  • Cliciwch “Ychwanegu’r cwrs hwn” ar gyfer pob cwrs yr ydych yn dymuno ymgeisio ar ei gyfer (yna bydd yn ymddangos yn eich rhestr cyrsiau)
  • Cliciwch ar y cwrs i weld y disgrifiad a’r ddolen i dudalen y cwrs hyfforddiant perthnasol ar wefan Cyswllt Ffermio. Bydd y ddolen yn agor mewn tab newydd ar frig eich tudalen ac yn cynnwys yr holl fanylion angenrheidiol ar gyfer y cwrs/cyrsiau yr hoffech ymgeisio ar ei gyfer/eu cyfer
  • Cwblhewch bob maes yn y tab ‘Nodau’. Cliciwch ‘Ychwanegu nod’ fel y bo'n briodol
  • Cwblhewch bob maes gwelir isod. Cliciwch ‘Arbed’ rydych chi bellach wedi cwblhau eich nodau

 

PDP - cymorth un i un

Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau PDP a chyflwyno cais ar gyfer hyfforddiant wedi’i ariannu, gall eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio neu eich darparwr hyfforddiant o ddewis ddarparu cymorth dros y ffôn.

  • Am fanylion cyswllt swyddogion datblygu, cliciwch yma
  • I weld yr holl gyrsiau  sydd ar gael, cliciwch yma
  • Am fanylion cyswllt darparwyr hyfforddiant, cliciwch ar y cwrs hyfforddiant a ddewiswyd gennych

Related Pages:


Latest news and technical articles related to Skills and Training