Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

1. Effaith newid hinsawdd ar systemau amaethyddol sy’n seiliedig ar laswellt

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae newid hinsawdd yn creu sialensiau anferth i systemau cynhyrchu da byw'r Deyrnas Unedig.
  • Mae cynyddu’r defnydd o strategaethau addasu a lliniaru ar ffermydd i reoli effaith newid hinsawdd yn allweddol bwysig.
  • Mae diffyg gweithredu yn awr yn debygol iawn o arwain at gostau uchel yn nes ymlaen.

Disgwylir i newid hinsawdd gael effaith ar systemau cynhyrchu bwyd byd-eang a gwaethygu’r diffyg sicrwydd o ran bwyd mewn llawer o ranbarthau. Mae graddfa’r risg oherwydd newid hinsawdd heb ei reoli i sicrwydd bwyd yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop yn anferth. Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn nodios eir tu hwnt i allu systemau cynhyrchu bwyd Ewrop i gynnal digwyddiadau sioc, yna bydd yn ofynnol i’r rhanbarth fewnforio bwyd yn eithriadol’. Gall hyn fod yn bryder difrifol gan y gall costau mewnforio bwyd yn y dyfodol, ar adeg pan mae’r galw yn debygol o fod yn uchel a’r cyflenwad yn isel o bosibl, fod yn anferth.

Mae cynhesu’r system hinsawdd yn awr yn ddiddadl, gyda’r byd cyfan bron yn profi rhywfaint o gynhesu yn ei arwyneb. Yn y ganrif ddiwethaf (1880 i 2012), mae cyfartaledd tymheredd y Ddaear wedi cynhesu o 0.85°C, ffigwr sydd wedi codi’n sylweddol ers 1951 ar gyfradd o 0.12 °C y degawd. Bu’r cynhesu dros y 30 mlynedd diwethaf yn sylweddol, gyda’r cyfnod rhwng 1983 a 2012 yn cael ei gydnabod gan yr IPCC fel un sy’n ‘debygol iawn’ o fod y cynhesaf yn hemisffer y gogledd yn yr 800 mlynedd diwethaf ac yn ‘debygol ‘ o fod y cynhesaf yn yr 1400 mlynedd diwethaf.

 

Newid hinsawdd ac amaeth

Gyrrir newid hinsawdd gan allyrru nwyon tŷ gwydr, fel carbon deuocsid (CO2), methan (CH4) ac ocsid nitrus (N2O), o ganlyniad i weithgareddau dynol. Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at 

allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chynhyrchu da byw ar ei ben ei hun yn cyfrif, fe amcangyfrifir, am tua 14.5% (11.6% i gilgnowyr yn benodol) o allyriadau byd-eang. Yn y Deyrnas Unedig, cynhyrchodd gweithgareddau amaethyddol 49.1 miliwn o dunelli o CO2 cyfatebol yn 2014, sydd yn fras yn 9% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yng Nghymru, mae’r gyfran yn uwch gyda gweithgareddau amaethyddol yn cyfrannu tua 13% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. O’r ffigyrau hyn, mae tua eu hanner yn cael eu tadogi i gynhyrchu da byw, yn bennaf o allyriadau methan enterig neu o ganlyniad i arferion rheoli tail.

Mae systemau ffermio da byw, yn arbennig systemau cilgnowyr, yn cyfateb i gyfran sylweddol o gynhyrchiant amaethyddol yn fyd-eang, gan gyfrif am tua thraean o’r ddaear y gellir ei defnyddio, gyda thua 3.5 biliwn hectar yn cael eu pori. Mae hwn yn ystadegyn tebyg trwy Ewrop, lle mae 34% o’r tir yn laswelltir parhaol neu gaeau, ond mae’r ffigwr hwn yn llawer uwch yng Nghymru, lle mae glaswelltir yn cyfrif am 75% o’r defnydd tir. Mae felly yn hanfodol cryfhau gallu’r systemau yma i wrthsefyll newid amgylcheddol sylweddol er mwyn bodloni gofynion yn y dyfodol am gynhyrchu bwyd, gan fod Systemau amaethyddol Ewropeaidd  o bwysigrwydd byd-eang i sicrwydd bwyd yn y dyfodol.

Erbyn 2050, rhagwelir y bydd cyfraddau bwyta cig a chynhyrchion da byw yn dyblu. O’r cynnydd yma, bydd 31% o fwyta cig cilgnowyr a bydd 58% o gynnyrch llaeth ac wyau, yn bennaf oherwydd y cynnydd yn y galw o wledydd sy’n datblygu fel Tsieina ac India. Rhagwelir y bydd y cynnydd hwn mewn cyfraddau bwyta yn cyfateb i gynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o 32% i bob pen. Rhaid i systemau ffermio da byw felly gael eu llunio i fedru ymdopi â’r galw cynyddol am gynhyrchu bwyd, tra byddant hefyd yn gallu lleihau effaith amgylcheddol arferion amaethyddol presennol a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr, i leihau’r potensial am newid hinsawdd yn y dyfodol.

 

Cost newid hinsawdd

Rhagwelir y bydd costau cynhyrchu yn Ewrop yn cynyddu yn sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd. O ran amaeth cilgnowyr, disgwylir iddo achosi cynnydd sylweddol yng nghost cynhyrchion cig, a fydd i bîff, er enghraifft fe amcangyfrifir, yn cyfateb i gynnydd o 60% erbyn 2050.

Amcangyfrifwyd y bydd cyfanswm costau newid hinsawdd yn cyrraedd 4% o GDP erbyn diwedd y ganrif. Mae cost llifogydd yn unig, y disgwylir iddo fod yn un o brif effeithiau newid hinsawdd ar draws Ewrop, yn costio €5.5 biliwn y flwyddyn i’r UE, ond rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cyrraedd €98 biliwn y flwyddyn erbyn 2080. Mae’n arbennig o anodd rhagweld y costau sy’n gysylltiedig ag addasu i newid hinsawdd oherwydd y bylchau yn y dystiolaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae dulliau addasu yn hanfodol ac fe ddangoswyd, ar gyfer rhai effeithiau o leiaf, eu bod yn lleihau costau at y dyfodol o dros eu hanner.

Disgwylir i gostau lliniaru hefyd fod yn sylweddol ac maent yn debygol o gynyddu gyda phob blwyddyn o ddiffyg gweithredu. Dangosodd un astudiaeth yn ddiweddar petai strategaethau lliniaru byd-eang yn cael eu gweithredu yn awr, y byddai cost cadw newid hinsawdd dan 1.5oC yn $40 UDA y dunnell o CO2 a allyrrir. Os bydd hi’n cymryd 10 - 20 mlynedd cyn dechrau gweithredu, yna ni fyddai’r un costau ond yn atal cynnydd yn y tymheredd tu hwnt i 3 oC; sydd yn sylweddol uwch na’r targed o 2 oC yng nghytundeb newid hinsawdd Paris.

I’r gwrthwyneb, mae’r manteision posibl sy’n gysylltiedig â strategaethau lliniaru hefyd yn sylweddol. Er enghraifft, amcangyfrifir bod gwerth y manteision sy’n gysylltiedig â lleihau allyriadau methan, sy’n strategaeth liniaru allweddol, yn o ddeutu $700 i $5000 y dunnell fetrig. Mae potensial lliniaru’r sector da byw hefyd yn sylweddol ac mae’n cynrychioli tua 50% o botensial lliniaru amaethyddiaeth, coedwigaeth a defnydd tir gyda’i gilydd, gan wneud gweithredu strategaethau lliniaru technegol yn y sector hwn yn gyfle gwirioneddol i leihau dylanwad newid hinsawdd. Ond, ar hyn o bryd, oherwydd y cyfraddau mabwysiadu isel, nid yw’r cyfle hwn wedi cael ei wireddu.

 

Crynodeb

Bydd effaith newid hinsawdd ar systemau amaethyddol y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn aml haenog ac yn cynnig sialensiau sylweddol i systemau cynhyrchu da byw. Yn ychwanegol at hyn, rhagwelir y bydd y galw am gynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn cynyddu o tua 60% erbyn 2050, o ganlyniad i gynnydd yn y boblogaeth fyd-eang.

Ar hyn o bryd mae gweithgareddau amaethyddol yn y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am gynhyrchu llawer iawn o nwyon tŷ gwydr. Ond, trwy addasu dulliau rheoli gall fod yn bosibl lleihau cyfraniad cynhyrchu da byw at newid hinsawdd, ac, o bosibl, lleihau effaith newid hinsawdd yn gyffredinol.

Felly, bydd cynyddu’r defnydd o arferion amaethyddol effeithiol, sydd wedi eu dylunio i fod yn gadarn o ran y newidiadau hinsawdd sydd ar y ffordd, sy’n lleihau effaith amgylcheddol ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac sy’n cynyddu cynhyrchiant yn gynaliadwy i fodloni’r galw cynyddol a ragwelir am gynhyrchion cig a llaeth yn hanfodol bwysig.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma