Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

3. Newid hinsawdd mewn systemau amaethyddol sy’n seiliedig ar laswellt: dulliau lliniaru

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae newid hinsawdd yn creu sialens anferth i systemau amaethyddol yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond gallai hefyd gynnig cyfleoedd i leihau effaith newid hinsawdd.
  • Mae addasu arferion amaethyddol cyfoes i liniaru effeithiau newid hinsawdd felly o bwysigrwydd anferth.

Mae lleihau effaith newid hinsawdd, trwy leihau’r ffactorau sy’n gyrru newid hinsawdd, yn creu sialensiau pwysig i ddiwydiant amaeth y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd mae amaethyddiaeth, cynhyrchu da byw yn arbennig, yn gyfrannwr o bwys at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond mae gan y diwydiant y potensial i leihau’r allyriadau yma a hyd yn oed dynnu carbon (C) o’r atmosffer trwy gynyddu’r cyfraddau o garbon sy’n cael eu dal a’u storio yn y llystyfiant a’r pridd. Felly, gallai addasu’r dulliau presennol o reoli tir chwarae rôl hanfodol wrth reoli a lleihau effaith newid amgylcheddol yn y dyfodol.

Mae’r polisi ar newid hinsawdd wedi canolbwyntio yn bennaf ar ostyngiadau yn y defnydd o danwydd ffosil, gan bod hyn yn yrrwr sylweddol o ran allyriadau carbon deuocsid (CO2) anthropogenig. Ond, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i leddfu effaith newid hinsawdd. Efallai bod amaethyddiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang, ond mae’n hanfodol i gynhyrchu bwyd. Wrth i boblogaeth fyd-eang barhau i gynyddu, rhagwelir y bydd y galw am gynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn cynyddu o tua 60% erbyn 2050. Am y rheswm hwn, rhaid datblygu systemau cynhyrchu amaethyddol a all gynyddu allbwn i ddarparu ar gyfer poblogaeth sy’n cynyddu, gan wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i leihau’r effaith amgylcheddol presennol a chynyddu’r potensial i leddfu newid hinsawdd.

 

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae lleihau allyriadau methan (CH4) ac ocsid nitrus (N2O) o weithgareddau amaethyddol yn ymwneud â

chilgnowyr yn allweddol bwysig i unrhyw strategaeth i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Methan yw’r ail nwy tŷ gwydr mwyaf toreithiog ar ôl CO2, gyda dylanwad llawer cryfach ar orfodi ymbelydrol ac felly’r effaith tŷ gwydr (28 gwaith yn fwy na CO2). Gall lleihau’r allyriadau methan gynnig y cyfle gorau ar hyn o bryd i leihau effaith gorfodi ymbelydrol ar hinsawdd y byd, gan fod i’r nwy tŷ gwydr hwn oes lawer llai na CO2 (~9 mlynedd), gan roi cyfle i gael ymateb cyflymach o ran gostyngiadau yn y potensial am gynhesu byd-eang. Yn ychwanegol, mae lleihau allyriadau methan ar hyn o bryd yn bwysig i gyfyngu ar ddylanwad nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol, gan y gall crynoadau cynyddol o fethan yn yr atmosffer weithredu i gynyddu oes y nwy tŷ gwydr hwn, ac felly ei botensial o ran cynhesu byd-eang.

Mae strategaethau lliniaru a ddyluniwyd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn canolbwyntio ar ddwy ffynhonnell: methan o dda byw (o eplesu enterig) a methan ac allyriadau N2O o dail. Methan enterig yw’r prif ffynhonnell methan amaethyddol yn Ewrop. Gall y ffynhonnell hon gael ei lleihau trwy addasu’r diet i dda byw. Mae’r strategaethau yn cynnwys dylanwadu ar y rwmen, ychwanegu ategion dietegol neu fetabolynnau eilaidd at ddwysfwyd, neu wella ansawdd y porthiant. Dangoswyd bod porthi deunydd gyda llai o ffibr a mwy o garbohydrad toddadwy, neu gynnwys codau, yn effeithiol i leihau allyriadau methan. Yn ychwanegol, gall defnyddio glaswelltau llawn siwgr leihau allyriadau methan enterig o tua 20%. Gall gwell cynhyrchiant trwy fridio gofalus hefyd chwarae rôl i liniaru yn y dyfodol, gan fod dewis tueddiadau cynhyrchu yn y gorffennol wedi arwain at ostyngiadau yn y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar raddfa o tua 1% y flwyddyn, trwy gynyddu effeithlonrwydd. Felly, mae dewis gwartheg llaeth gydag effeithlonrwydd uchel o ran defnyddio ynni a chynhyrchiant llaeth yn strategaeth effeithiol i leihau allyriadau methan enterig.

Gall rheoli allyriadau nwyon tŷ gwydr o dail gael ei gyflawni trwy well isadeiledd, fel lagŵnau slyri wedi eu gorchuddio, neu trwy ddefnyddio technoleg fel treulwyr anaerobig, sy’n cynaeafu’r methan a gynhyrchir mewn amgylchedd wedi ei rheoli i gynhyrchu ynni. Gellir gostwng yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o dail hefyd trwy addasu’r diet. Cysylltir gostwng cynnwys protein craidd diet da byw â llai o nitrogen (N) mewn ysgarthion ac wrin, a all leihau allyriadau N2O. Gellir lleihau allyriadau ocsid nitrus hefyd o laswelltir trwy gymedroli o ran y defnydd o N fel gwrtaith, trwy gynyddu effeithlonrwydd llystyfiant y gwndwn i ddefnyddio N, trwy amseru ychwanegu gwrtaith N yn iawn, trwy newid o wrtaith nitrad i wrtaith amoniwm, a thrwy ddefnyddio atalyddion cemegol nitreiddiad.

Awgrymwyd hefyd y dylid cael cyfyngiad ar y nifer o gilgnowyr mewn amaethyddiaeth fel strategaeth liniaru, gan fod anifeiliaid monogastrig, fel moch a ieir, yn cynhyrchu llawer llai o methan. Mae’r ôl troed nwyon tŷ gwydr yn sylweddol uwch ar gyfer cynhyrchu cilgnowyr na phlanhigion llawn protein (19 – 48 gwaith yn uwch) neu anifeiliaid monogastrig (~4 gwaith yn fwy). Yn ychwanegol, yn gysylltiedig â bwydydd i anifeiliaid, mae gan fwydydd ar sail planhigion (codau) allyriadau is o nwyon tŷ gwydr y gram o brotein (~250 gwaith yn llai na chig cilgnowyr). Mae hyn yn ystyriaeth bwysig yn y cyd-destun presennol, ond bydd y galw am y cynhyrchion hyn yn rheoli eu cynhyrchu, felly tra bydd y galw yn parhau yn gyson (ac yn wir rhagwelir y bydd yn cynyddu) yna rhaid sefydlu systemau da byw glaswelltir a all leihau neu ddiddymu’r effaith.

 

Storio carbon

Pridd yw’r storfa ddaearol fwyaf o C, ac mae ganddo rôl bwysig i’w chwarae o ran lliniaru newid hinsawdd, fel storfa ar gyfer C a gadwyd ac a storiwyd o’r blaen ac fel man i storio nwyon tŷ gwydr atmosfferig yn y dyfodol. Yn gyffredinol, mae effaith newid hinsawdd ar C pridd yn gymhleth. Bydd cynnydd mewn tymheredd yn cynyddu gweithgaredd microbaidd, a thrwy hynny’r gyfradd bydru a’r C a gollir, ond efallai y gall hyn gael ei gydbwyso gan gynnydd yn y mewnbwn C i bridd o gyfraddau uwch o gynhyrchiant cynradd net (NPP).

Gall systemau glaswelltir storio a dal llawer iawn o C, ond mae gan ddwyster y rheolaeth amaethyddol y potensial i leihau’r stoc presennol a chyfyngu ar y potensial i ddal a storio yn y dyfodol. Gwelwyd bod yr effaith hwn yn sylweddol yn ddiweddar, ar ddyfnder llawer dyfnach nag oedd yn cael ei gydnabod yn y gorffennol. Bydd rheolaeth i gynyddu stoc C yn y pridd yn ceisio lleihau amharu ac erydu pridd, cael y swm mwyaf posibl o weddillion cnwd yn dychwelyd i’r pridd, a gwella effeithlonrwydd y defnydd o ddŵr a maetholion wrth gynhyrchu cnydau. Gall hyn gael ei gyflawni trwy leihau amlder aredig y tir neu ail-hadu, cynyddu effeithlonrwydd y defnydd o dail anifeiliaid, a chael y swm mwyaf posibl o C i ddychwelyd trwy’r tail. Mae cyfradd y mewnbwn o faetholion hefyd yn ffactor allweddol, gan y gall cyfraddau uchel o wrtaith arwain at bydru ar gyfraddau uwch.

Gall lleihau dwyster y rheolaeth fod yn gynnig dadleuol, gan fod hyn yn aml yn cael ei gysylltu â gostyngiad yn y cynnyrch, a thrwy hynny, y potensial economaidd. Ond, dangosodd ymchwil y gall y cynnyrch gael ei gynnal trwy reoli glaswelltir i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion, gan fod perthynas bositif rhwng cynhyrchiant ac amrywiaeth. Yn ychwanegol, gall y dull hwn leihau’r angen am fewnbwn o wrtaith a felly costau cynhyrchu, gan gynyddu bioamrywiaeth ar y fferm (yn uniongyrchol, trwy gynyddu’r cyfoeth o rywogaethau o flodau, ac yn anuniongyrchol, trwy gynyddu’r potensial ar gyfer ffawna cysylltiedig). Mae hyn yn eithriadol o bwysig ar hyn o bryd, gan fod bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer gweithrediad yr ecosystem amaethyddol yn y dyfodol a chyflawni gwasanaethau ecosystem, yn arbennig o ystyried y sialensiau a ddisgwylir o newid hinsawdd.

Mae gwell rheolaeth ar bridd yn strategaeth liniaru allweddol i gynyddu’r C sy’n cael ei storio dan ddaear, yn arbennig ar gyfer systemau glaswelltir. Yn ychwanegol at hyn, gall cynyddu’r storio C ar wyneb y ddaear hefyd gynnig strategaeth liniaru hyfyw. Bydd ymgorffori amaethgoedwigaeth mewn systemau glaswelltir Ewropeaidd yn arwain at gynnydd yn y gyfradd y bydd COyn cael ei ddal a’i storio. Gall y cyfanswm hwn o C fod yn sylweddol er gwaethaf yr arwynebedd bychan o dir sy’n ofynnol ar gyfer amaethgoedwigaeth (e.e. tua 3% o gae ar gyfer cysgod i gnwd/da byw) oherwydd y cyfraddau uchel o C sy’n cael eu dal a’u storio i bob uned o arwynebedd. Gall y dull hwn hefyd gynnig manteision ychwanegol o ran rheoli da byw a phridd.

 

Newid yn y defnydd o dir

Gall trosi tir i’w ddefnyddio gan amaeth gael dylanwad sylweddol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn y Deyrnas Unedig, gall trosi o fawndir i dir âr neu laswelltir ryddhau llawer iawn o CO2 i’r atmosffer. Yn y gwledydd sy’n datblygu, mae trosi fforestydd, yn arbennig fforestydd neo-drofannol, yn rhyddhau llawer iawn o CO2, oherwydd colli llystyfiant ac o amharu ar bridd fforestydd trofannol, sy’n llawn o ddeunydd organig. Mae datgoedwigo o’r fath yn cael ei yrru yn rhannol gan y galw o wledydd gorllewinol am ddwysfwyd i anifeiliaid yn llawn protein fel blawd ffa soia. Felly, trwy gynyddu argaeledd cyflenwadau wedi eu tyfu gartref, bydd y galw hwn (a thrwy hynny y golled o ran yr adnoddau naturiol yma) yn lleihau. Mae’r dull hwn yn bwysig hefyd o ran sicrwydd bwyd yn Ewrop yn y dyfodol, gan bod angen lleihau’r ddibyniaeth ar ffynonellau bwyd anifeiliaid tramor.

Ystyrir bod trosi systemau cynhyrchu da byw, sy’n cyfeirio at y symudiad tuag at systemau cymysg cnydau-da byw, yn offeryn addasu i reoli effeithiau newid hinsawdd, ond dangoswyd hefyd bod y system hon yn offeryn lliniaru trwy ganiatáu dwysau cynaliadwy, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a’r galw i drosi tir naturiol. Gall y dull hwn arwain at ostyngiadau sylweddol mewn nwyon tŷ gwydr, yn bennaf trwy osgoi newid angenrheidiol mewn defnydd tir yn y dyfodol, ond hefyd trwy newid cyfansoddiad diet da byw i gynnwys mwy o rawn, gan fod allbwn methan uwch o borthiant pan fydd yn cael ei gymharu â systemau ar sail grawn. Yn ychwanegol, mae’r dull hwn yn cynrychioli llai o faich o ran costau o ran addasu i newid hinsawdd, a all gynorthwyo i annog busnesau amaethyddol i ddewis dulliau o’r fath.

 

Crynodeb

Mae lleihau cyfraniad gweithgareddau amaethyddol presennol at newid hinsawdd, a chynyddu’r defnydd o arferion rheoli a all leihau effeithiau’r newid amgylcheddol hwn, yn allweddol bwysig.

Mae dulliau sy’n cynnig dull integredig o wynebu sialensiau niferus yn strategaethau lliniaru allweddol, gan y gellir cyflawni nifer o nodau ar yr un pryd. Dangosir hyn yn yr enghraifft o amaeth-goedwigaeth uchod, lle bydd mwy o goed yn gallu cynyddu y C yn yr atmosffer sy’n cael ei ddal a’i storio, lleihau straen gwres ar dda byw, gwella’r rheolaeth ar bridd a lleihau’r potensial am lifogydd. Gallai addasiadau cymharol syml o’r fath i reolaeth tir gynyddu gwytnwch yr ecosystem amaethyddol i newid amgylcheddol, gan gyflawni’r camau lliniaru ac addasu angenrheidiol. Mae hyn felly yn cynnig sefyllfa lle gall un newid yn y dull rheoli yrru llu o fanteision ar y fferm.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma