Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Annog ffermwyr Cymru i fabwysiadu technegau trin gwartheg yn ddiogel er mwyn lleihau’r peryg o golli bywyd neu anafiadau difrifol

Yn y deng mlynedd diwethaf, mae 388 o ffermwyr, aelodau’r teulu neu weithwyr y fferm wedi cael eu lladd ar ffermydd Prydain tra bod miloedd mwy wedi dioddef anafiadau difrifol ac iechyd gwael o ganlyniad i’w gwaith.

“Mae’r ystadegau yma’n frawychus oherwydd mae pob marwolaeth, anaf a salwch yn un yn ormod ac yn gallu cael effaith trychinebus sy’n newid bywydau teuluoedd ffermio,” dywedodd Brian Rees, cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a hyfforddwr uchel ei barch ym Mhrydain ar ddiogelwch fferm.

Mae WFSP yn gydweithrediad rhwng y mudiadau amaethyddol allweddol yng Nghymru ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o beryglon gweithio ar fferm er mwyn lleihau’r perygl o anafiadau a damweiniau i bobl yn benodol ond ar gyfer yr anifeiliaid hefyd.

Yn ddiweddar, mae WFSP wedi trefnu cyfres o weithdai 20 munud gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio gyda Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn mynychu un o’r gweithdai hefyd. Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno gan ddau hyfforddwr Lantra - John Hughes a’i fab Jimmy sy’n ffermio gyda’i gilydd ger Llandrindod. Yn yr hyfforddiant, dysgodd ffermwyr a myfyrwyr amaeth ledled Cymru'r technegau cyfredol ar gyfer trin gwartheg yn ddiogel.

“Roeddwn i’n arbennig o falch bod gymaint o ffermwyr ifanc a myfyrwyr amaeth wedi mynychu sy’n profi ein bod ni’n darparu negeseuon pwysig iawn i’r diwydiant ar ddechrau eu gyrfaoedd,” dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet a glywodd pa gamau y gallai ffermwyr eu cymryd er mwyn lleihau’r peryglon a’r damweiniau ar y fferm yn uniongyrchol oddi wrth Mr Rees a’r ddau hyfforddwr.

“Gallai’r hyn ddysgon nhw achub bywydau rhai ohonyn nhw ac rwy’n hyderus y byddan nhw’n rhoi’r technegau a gafodd eu dangos a’u dysgu ar waith,” dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet.

Eglurodd Mr Rees bod yna bob amser perygl o anafu wrth drin gwartheg trwy wasgu, cicio, ergydio a chornio.

“Dangosodd ein gweithdai fod yna ffyrdd o leihau’r perygl o ddamweiniau ac anafiadau i chi, eich teulu a’ch gweithwyr neu i unigolion sy’n ymweld â’ch stoc, fel milfeddygon.

“Mae’r perygl yn cynyddu os nad yw’r anifeiliaid wedi cael eu trin yn aml fel yr anifeiliaid ar fynyddoedd neu rostiroedd, gwartheg sugno, neu wartheg sydd newydd loia. Ond mae ceisio gwneud gwaith stoc gyda gwartheg sydd heb eu ffrwyno neu gydag offer dros dro yn arbennig o beryglus. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud cymaint fedrwn ni er mwyn deffro ffermwyr i’r peryglon a cheisio eu rhwystro rhag peryglu eu bywydau neu eu hiechyd,” dywedodd Mr Rees.

Yn ogystal â phwysleisio’r angen am gynllunio o flaen llaw wrth drin anifeiliaid, mae cyngor Mr Rees yn cynnwys y canlynol:

  • Peidiwch byth â diystyru’r perygl wrth wartheg, yn enwedig greddf buwch sydd newydd ddod â llo, hyd yn oed gyda rhagofal diogelwch yn eu lle
  • Defnyddiwch gyfleusterau trin anifeiliaid sydd mewn cyflwr da bob tro
  • Defnyddiwch redfa a chraets sy’n addas ar gyfer yr anifeiliaid rydych chi’n eu trin
  • Ystyriwch bolisi difa llym ar gyfer anifeiliaid anwadal
  • Ceisiwch osgoi gweithio ar eich pen eich hun, ond os fyddwch chi’n gwneud hynny, cadwch eich ffôn wrth law

“Mae ystadegau’n dangos eich bod chi chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd yn gweithio ar fferm nag ar safle adeiladu, felly, mae sicrhau eich bod yn ymwybodol o holl agweddau diogelwch fferm yn hanfodol bwysig i ffermwyr o bob oedran.

“Mae cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant ar gael, felly, bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i ddarbwyllo ffermwyr i wneud y mwyaf ohono,” ychwanegodd Mr Rees.

Mae ffermwyr sy’n gymwys ac wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn medru cwblhau modiwl e-ddysgu ar Iechyd a Diogelwch y fferm, sydd yn rhagofyniad os ydych am wneud cais am hyfforddiant defnyddio offer. Mae mwy o wybodaeth ar bob agwedd o ddiogelwch y fferm ar gael yn www.hse.gov.uk/agriculture