Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Defnyddio ymddygiad buwch odro i adnabod clefyd yn gynnar

Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth 


Negeseuon pwysig:

  • Mae yna newidiadau mewn ymddygiad pan fo anifeiliaid yn sâl y gellir eu cysylltu â salwch penodol, er enghraifft, yn ystod yr wythnos cyn diagnosis mae gwartheg â chloffni aciwt yn treulio llai o amser wrth y cafn bwydo. 
  • Hefyd gellir adnabod newidiadau mewn ymddygiad ar gyfer rhai mathau o salwch cyn bod unrhyw arwyddion clinigol 
  • Mae technoleg sy’n cael ei wisgo gan dda byw yn meddu ar y potensial i ddatblygu systemau rhybudd cynnar cadarn gan ddefnyddio’r newidiadau mewn ymddygiad i adnabod datblygiad clefyd yn gynnar iawn. 

Mae’r risg o ddioddef clefyd yn cael effaith mawr ar economeg fferm, trwy dalu am driniaethau a diffyg cynhyrchiant gan yr anifeiliaid wedi’u heintio, yn ogystal ag effaith ar les anifeiliaid. Felly, beth petai’n bosibl i chi adnabod bod clefydau cyffredin ar fin taro cyn bod unrhyw symptomau’n weladwy? Mae’r cyfuniad o dechnoleg y gall gwartheg ei wisgo a dealltwriaeth o ymddygiad gwartheg godro yn golygu ein bod yn dechrau gallu gwneud hynny. 

 

Beth ydym ni’n ei wybod am ymddygiad clefyd?

Mae’n amlwg bod salwch yn effeithio ar ymddygiad anifeiliaid, yn union fel mewn pobl. Rydym ni’n gwybod y bydd anifeiliaid sy’n sâl yn fwy lluddedig fel arfer, yn cadw eu hunain ar wahân ac yn colli’r awch am fwyd. Mae newidiadau ymddygiad yn cael eu rheoli gan yr ymennydd mewn ymateb i salwch i helpu’r anifail wella. Yn aml gwelir newidiadau mewn sawl agwedd, yn cynnwys archwilio cymdeithasol. Er enghraifft, mae lloiau llaeth cyn eu diddyfnu yn llai tebygol o fynd at wrthrych dieithr os oes ganddynt glefyd resbiradol buchol.  Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd rhai o’r ymddygiadau mwy naturiol hyn yn cael eu ffrwyno mewn systemau dwys dan do.  Felly mae’r rhan fwyaf o’n gwybodaeth am sut mae salwch yn effeithio ar ymddygiad gwartheg llaeth wedi ei seilio ar eu gweithgarwch a’u hymddygiad bwydo. 

Mae’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â’r clefydau cynhyrchu mwyaf cyffredin mewn gwartheg llaeth eisoes wedi’u sefydli. Mae’n hysbys bod gwartheg cloff yn treulio mwy o amser yn gorwedd, newid eu dosbarthiad pwysau a cherdded yn arafach o’i gymharu ag anifeiliaid iach. Mae buchod godro gyda mastitis yn segura mwy ac yn treulio llai o amser yn gorwedd, bwydo, cnoi cil a thrin eu hunain. Hefyd awgrymir, gan ei bod yn ymddangos bod salwch cronig yn ysgogi mwy o newidiadau ymddygiad, gall monitro hyn ddangos a oes gan anifail salwch aciwt neu salwch cronig. 

 

A yw ymddygiad yn newid cyn adnabod clefyd yn weledol?

Gyda’r wybodaeth ymddygiadol hon yn eu cof, mae gwyddonwyr wedi bod yn pendroni a oes newidiadau bach yn ymddygiad da byw cyn i unrhyw symptomau clinigol y clefyd fod yn weladwy ac, os felly, pa mor hir cyn i anifail fynd yn sâl mae hyn yn dechrau? Gwnaed gwaith ymchwil o ran nifer o glefydau cynhyrchu clinigol i ddeall a all dangosyddion ymddygiad weithredu fel dangosyddion cynnar ar gyfer clefydau. Yn y rhan fwyaf o achosion yr edrychwyd arnynt mae ymddygiad bwydo yn ymddangos fel rhagfynegydd cymharol ddibynadwy ar gyfer clefyd ar ddechrau. 

Mae gwartheg â chloffni aciwt wedi dangos lleihad yn yr amser a dreulir wrth y bwydwr o tua 19 munud bob diwrnod am yr wythnos cyn i’r cloffni fod yn amlwg yn weladwy, ynghyd â lleihad yn nifer yr ymweliadau at y bwydwr. Mae gwartheg sy’n datblygu llid y groth (metritis) 7-9 diwrnod ar ôl cael llo yn treulio llai o amser wrth y bwydwr cyn iddynt loia hyd yn oed. Yn achos anifeiliaid â chetosis mae’n amlwg bod ymddygiad bwydo a gweithgarwch yn newid, gyda lleihad yn y bwydo yn y tridiau cyn diagnosis a chynnydd o 20% yn yr amser sefyll yn yr wythnos cyn lloia. Fodd bynnag, nodwyd amrywiaeth mawr o ran ymddygiad bwydo yn gysylltiedig â chlefydau’r gadair, ac felly ni fyddai’n rhagfynegydd da o ran datblygiad clefyd mastitis. Yn yr holl achosion nid yw’n hysbys a yw’r newidiadau ymddygiad hyn yn achos neu’n effaith datblygu salwch, ai’r lleihad yn y bwydo sy’n achosi’r clefyd, neu a yw hynny’n effaith cynnar y clefyd yn unig? Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall hyn, a gallai dealltwriaeth o’r fath ddylanwadu ar nodweddion dethol yn y dyfodol.   

 

Beth ddylwn i fod yn cadw llygad amdano?

Mae newidiadau mewn ymddygiad bwydo, fel lleihad yn yr amser a dreulir yn bwydo, yn ddangosyddion da bod anifail yn datblygu salwch. Ond, yn aml mae’r newidiadau hyn yn gynnil iawn, neu mae’n ofynnol gwylio a chofnodi ymddygiad anifeiliaid trwy’r dydd. Dyma pam fod datblygu technoleg y gall gwartheg ei wisgo yn mynd i fod mor ddefnyddiol.  

 

Sut allwn ni adnabod y newidiadau hyn?

Mae llawer o’r newidiadau hyn sy’n digwydd cyn y clefyd gweladwy yn gynnil iawn, ac yn anodd i’w adnabod yn ymarferol heb dechnoleg. Gyda’r cynnydd mewn ffermio da byw yn fanwl gywir mae llawer o ddyfeisiau y gall gwartheg eu gwisgo ar gael ar y farchnad sy’n adnabod newidiadau mewn ymddygiad, ymhlith newidynnau eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn mesur gweithgarwch trwy fesurydd cyflymu wedi’u gosod ar y goes neu’r gwddf, neu weithgareddau’r stumog trwy gyfrwng bolws electronig. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhain edrychwch ar erthygl dechnegol Cyswllt Ffermio a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gellir defnyddio dyfeisiau fferm fel synhwyrydd grym cerdded heibio (walkover force sensors) i asesu cysondeb cerdded hefyd. Mae llawer o’r dyfeisiau hyn wedi eu rhaglennu’n dda i adnabod newidiadau megis dod i estrws, er bod y rhan fwyaf yn llai adnabyddus am eu gallu i adnabod newidiadau mewn ymddygiad ar gyfer adnabod clefydau yn gynnar. Ac eto mae llawer o ddyfeisiau yn gallu adnabod salwch potensial ar lefel sylfaenol, tynnir sylw trwy roi rhybudd pan fo anifeiliaid yn dangos ymddygiad sy’n wahanol i weddill y fuches, yna mae’n ofynnol i rywun fynd i edrych ar yr anifail ac ymchwilio i’r hyn a allai fod o’i le. Gweler isod am beth gwybodaeth am waith ar y fferm y mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn. 

Er mwyn gwella’r gallu i adnabod clefyd penodol a chywirdeb y dyfeisiau hyn rhaid defnyddio’r ymchwil ymddygiad a gwblhawyd hyd yma i ddatblygu algorithmau rhagfynegi mathemategol. Yna bydd yr algorithmau hyn yn medru defnyddio a symleiddio’r data mae’r synwyryddion yn ei gasglu er mwyn darparu system hysbysu syml i dynnu sylw bod buwch yn debygol o ddatblygu salwch penodol yn fuan. Dylai hyn olygu fod y fuwch dan sylw yn cael ei monitro’n agos neu ei harchwilio yn fanylach i ddal y clefyd cyn i unrhyw symptomau gweledol ddatblygu. Er yr ymchwiliwyd i systemau i adnabod clefydau megis cloffni a mastitis, ni fydd unrhyw system yn wirioneddol ddefnyddiol i arferion bob dydd nes y gellir darpru ateb syml o ddyfnder y data a fydd yn angenrheidiol i benderfynu ar statws y fuwch.  

 

Gwaith Cyswllt Ffermio yn Fferm Arddangos Cae Haidd

Mae’r gwaith yng Nghae Haidd, un o 12 o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, wedi bod yn ymchwilio i ddefnyddio synwyryddion gwres yn y fuches sugno. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a ddarperir i’r ffermwr gan y dyfeisiau wedi cynorthwyo i wella lles trwy adnabod arwyddion cynnar materion iechyd gwaelodol rhai gwartheg yn y fuches. 

Mae’r dyfeisiau yn cofnodi’r canlynol yn bennaf: gweithgarwch (yn debyg i fesurydd camau), amser bwydo a chnoi a threulio i synhwyro gwres. Gwnaeth yr wybodaeth hon helpu’r ffermwr adnabod rhai materion iechyd a lles anifeiliaid trwy adnabod newidiadau mewn ymddygiad i ymddygiad arferol y fuches. Er enghraifft, hysbysir y ffermwr os oes newid megis lleihad yn lefel gweithgarwch yr anifail. Yn dilyn yr hysbysiad hwn gellir archwilio’r anifail a gweithredu fel bo’n briodol. Yng Nghae Haidd yn benodol nodwyd bod criw o wartheg yn bwydo am hanner yr amser a dreuliwyd gan weddill y fuches. Wedi ymchwilio canfuwyd fod gan y buchod hyn sgôr cyflwr corff is ond roedd eu hiechyd cyffredinol yn iawn. Er mwyn ymchwilio yn fanylach, gwahanwyd y gwartheg oddi wrth weddill y fuches a’u cadw dan do gyda’i gilydd yn eu grŵp bach eu hunain. Sylweddolwyd fod y grŵp yma o wartheg yn cael eu bwlio yn y system flaenorol. Gynted ag y cawsant eu cadw ar wahân a’u bod yn gallu cyrraedd y bwydwr, roedd eu patrwm bwydo yn cyfateb i weddill y fuches a gwelwyd gwelliant o ran eu cynnydd pwysau byw. Yn yr achos hwn gwnaeth gwybodaeth ychwanegol am ymddygiad y gwartheg ysgogi newidiadau rheoli a wellodd gynhyrchiant yr anifeiliaid hyn. Mae’r gwaith ar y prosiect hwn yn parhau yng Nghae  Haidd. Edrychwch am ddiweddariadau am y prosiect ar y Rhwydwaith Safleoedd Arddangos. 

 

Mae gwaith yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio i ddatblygu defnyddio system adnabod cynnar wedi’i seilio ar System Leoli Fyd-eang (GPS) i adnabod cloffni. Hyd yma mae’r prosiect wedi sefydlu model sy’n gallu rhagfynegi a yw gwartheg yn gorffwys, pori neu’n cerdded, gan ddefnyddio systemau GPS fforddiadwy. Bydd gwaith gyda Cyswllt Ffermio ar Safle Arloesedd Trawscoed yn mynd ymlaen i ddefnyddio’r model hwn yn awr i ganfod a ellir defnyddio’r system hon i adnabod newidiadau ymddygiad er mwyn dangos bod cloffni ar ddechrau. Edrychwch am ddiweddariadau ar y prosiect hwn wrth iddo ddatblygu.   

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl hon.