Welsh Government

Ectoparasitiaid defaid: Clafr Defaid

Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Negeseuon i’w cofio:

  • Mae’r clafr yn cael ei achosi gan widdon sy’n byw ar groen y ddafad, gan achosi briwiau, cosi difrifol, colli gwlân ac yn y pen draw colled o ran cynhyrchu.
  • Rhaid i bob dafad sydd â’r clafr gael ei thrin, ond rhaid cael diagnosis cywir yn gyntaf i osgoi camddehongli’r symptomau a all fod yn llau, a gall y driniaeth fod yn wahanol ar ei gyfer.
  • Mae nifer o driniaethau ar gael, dylech ymgynghori â’ch milfeddyg bob amser cyn ei drin.
  • Gall y clafr gael ei reoli yn effeithiol a’i atal trwy gamau bioddiogelwch caeth fel cadw defaid sy’n cael eu prynu i mewn ar wahân.

Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn nodi’r cynllun ar gyfer gwelliannau parhaus a pharhaol yn safonau iechyd a lles anifeiliaid sy’n cael eu cadw, gan hefyd helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyfrannu at yr economi a’r amgylchedd.  Mae’r Clafr yn flaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru 2016/17. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael yn www.wales/ahwframework.

Beth yw clafr defaid?

Mae’r clafr yn ectoparasit heintus ac yn bryder mawr o ran iechyd a lles. Mae clafr heb ei drin yn cael effeithiau difrifol ar gynhyrchu ac felly mae effeithlonrwydd y ddiadell yn lleihau. Achosir yr heintiad gan widdon nad yw’n turio o’r enw Psoroptes ovis, sy’n treulio pedwar cyfnod ei gylchred bywyd ar y defaid. Gall un gwiddonyn arwain at heintiad sy’n gwasgaru trwy’r ddiadell ac mae ei ddatblygiad yn y defaid yn gyflym iawn, gyda’r croen yn edrych yn goch 1 awr ar ôl iddo gyrraedd ato. Mae gwenwynau yn ysgarthion y gwiddon yn achosi ymateb alergaidd yng nghroen y defaid sy’n debyg i dermatitis mewn pobl. Mae’r ardal sy’n dioddef yn llidiog iawn a bydd yn effeithio yn ddifrifol ar yr haen gyntaf o groen, sy’n hanfodol ar gyfer peirianweithiau amddiffyn yr anifail.

Gall y gwiddon fyw ar yr anifail heb unrhyw dystiolaeth o’r afiechyd, yn aml yng nghorn y glust, gan arwain at ymosodiad disymwth yn y dyfodol. Yn ychwanegol, gall gwiddon hefyd fyw oddi ar y defaid yn yr amgylchedd am hyd at 17 diwrnod. Felly, er mai’r prif gyfrwng trosglwyddo yw cyswllt uniongyrchol o ddafad i ddafad, os yw’r gwiddon yn bresennol yn yr amgylchedd, ar ffensys neu yn y siediau, bydd yr heintiad yn parhau yn y ddiadell. Felly sut allwn ni reoli’r parasit hwn?

 

 

Diagnosis

Gallwch ganfod y clafr trwy weld arwyddion clinigol, fel cosi difrifol, colli gwlân, rhwbio, llyfu, briwiau neu grafiadau ar y croen (sy’n cael eu gwaethygu gan facteria sy’n manteisio ar y cyfle). Gall defaid sy’n dioddef o’r clafr hefyd ymateb os cyffyrddir â’u croen trwy dynnu eu tafod a blewynna, mewn achosion difrifol gall hynny achosi trawiadau a’u lladd. Mae llawer o’r arwyddion sy’n gysylltiedig â’r clafr yn debyg i ymosodiad gan lau, felly ni ddylid trin ar sail yr hyn a welwch yn unig. Mae diagnosis cywir yn holl bwysig i arbed amser, arian, defnydd diangen o gynhyrchion ac i atal rhagor o niwed i iechyd yr anifail. Defnyddir crafion o’r croen i gadarnhau presenoldeb y gwiddon trwy eu harchwylio dan ficrosgôp. Mae prawf diagnostig ELISA a ddatblygwyd yn ddiweddar yn canfod presenoldeb gwrthgyrff i un o wenwynau’r gwiddon ac felly, mae’n ddefnyddiol i roi diagnosis o’r clafr cyn i’r arwyddion clinigol ddatblygu, neu ar gyfer heintiadau is-glinigol lle mae’r gwiddon yn llai tebygol o gael eu canfod trwy grafu’r croen. Bydd hyn yn arwain at driniaethau cyflymach sydd wedi eu targedu’n well. Mae Moredun hefyd yn ymchwilio i ddatblygu prawf i’w gynnal yn y gorlan i gael diagnosis cyflym.

Triniaeth

Dylai’r holl ddefaid mewn grŵp neu yn yr ardal leol gael eu trin ar yr un pryd, yn arbennig y rhai sy’n pori tir comin. Dylai’r ddiadell gyfan gael ei thrin am y clafr os oes gan un anifail y gwiddon. Gall hyn fod yn anos ar ffermydd yr ucheldir lle gall defaid grwydro ac y gellir methu 10% o’r ddiadell wrth eu hel fe amcangyfrifir. Dylid ystyried ble y bydd y defaid yn cael eu rhoi ar ôl eu trin – a fyddant yn cael cyswllt â siediau neu ffensiau y mae defaid heb eu trin wedi cael cyswllt â nhw yn yr 17 diwrnod diwethaf? Os felly, efallai bod gwiddon yn dal yn yr amgylchedd ac felly rhaid i’r driniaeth a ddewisir barhau i atal y gwiddon rhag cyrraedd y defaid sydd newydd eu trin. 

Y triniaethau sydd ar gael i drin gwiddon clafr yw naill ai fformiwleiddiad lactôn macrogylchaidd (ML) y gellir ei chwistrellu neu dip defaid diazinon. Mae’r ML yn anthelmintigau eang eu sbectrwm, a ddefnyddir hefyd ar gyfer llyngyr. Rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio rhag i’r gwiddon a’r llyngyr fagu gwrthedd. Mae nifer o ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddewis triniaeth, y mae rhai ohonynt yn cael eu hamlinellu yn Nhabl 2. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am driniaeth, dylech drafod beth i’w ddefnyddio gyda’ch milfeddyg bob amser.

Dylid ystyried cyfnodau cilio mewn cig hefyd a chadw atynt, gall y cyfnodau cilio gael eu dyblu i gynhyrchwyr organig, gwiriwch gyda’ch corff ardystio cyn eu defnyddio. Felly, mewn systemau organig, mae rôl bioddiogelwch ac atal y clafr yn fwy pwysig fyth. Ym mhob achos, hyd yn oed os mai dim ond un ddafad sydd â’r clafr, dylai’r ddiadell gyfan gael ei thrin ar yr un pryd.

 

 

Camau rheoli posibl yn y dyfodol

Nid yw’r dulliau presennol, yn chwistrelliad na dip yn gynaliadwy oherwydd datblygiad gwrthedd, felly mae angen i ni feddwl am driniaethau gwahanol neu frechiadau. Gwelwyd cynnydd sylweddol o ran datblygu brechiad, ond mae angen rhagor o ymchwil a threialon cyn y gellir dod ag unrhyw gynnyrch i’r farchnad. Gall gwaith ar ddewisiadau gwahanol o ran triniaeth ganolbwyntio ar sylweddau i atal twf y gwiddon neu gael rheolaeth fiolegol arnynt trwy olewau hanfodol neu ffwng. Yn y cyfamser rhaid i ni ganolbwyntio ar gamau bioddiogelwch i leihau’r risg o wasgaru neu gael y gwiddon.

 

Rheoli/Atal

Gwnewch yn siŵr bod atal y clafr yn cael ei ymgorffori yng nghynllun iechyd eich diadell, y dylech ei ddatblygu gyda’ch milfeddyg. Cofiwch bod atal yn well na cheisio ei wella. Bydd gweithredu cynllun bioddiogelwch da yn helpu i ddiogelu rhag y clafr. 

Mae camau bioddiogelwch da yn holl bwysig i reoli’r clafr ar bob fferm, os oes gennych heintiadau cyson neu ar gyfnodau ac yn arbennig os oes gennych ddiadell organig. Y ffactorau risg ar gyfer clafr parhaus yw ffensys gwael a defaid sy’n cael eu prynu i mewn. Dylid sicrhau bod yr holl ffensys yn atal stoc er mwyn atal stoc o ffermydd cyfagos rhag cymysgu, ffensys dwbl sydd orau pan fydd hynny’n bosibl. Wrth feddwl am dir comin sydd â hanes
o’r clafr, mae’n hanfodol i’r cymdogion drefnu i drin yr anifeiliaid i sicrhau bod yr holl ddefaid yn cael eu trin ar yr un pryd. Rhaid hefyd symud defaid dieithr o ardaloedd lle bydd pori ar y cyd.

Dylai defaid sy’n cael eu prynu i mewn gael eu trin a’u cadw ar wahân bob amser cyn eu cymysgu â’r brif ddiadell. Nid yw hyn yn digwydd ar lawer o ffermydd, ond dyma’r arfer gorau i atal afiechydon dirifedi rhag cyrraedd eich diadell. Gofynnwch i’ch milfeddyg am gyngor am y ffordd orau i drin a chadw defaid wedi eu prynu i mewn ar wahân. Ar gyfer y clafr yn benodol, ar ôl rhoi’r driniaeth addas, dylai’r anifeiliaid gael eu cadw ar wahân am 17 diwrnod o leaif a’u gwylio am unrhyw arwydd o’r clafr.

Cofiwch y gall y clafr fyw oddi ar yr anifail am hyd at 17 diwrnod, boed ar ddarnau o wlân neu ar ffensys, yn y siediau, ar offer, lorïau, trelars, llwybrau sganio neu lefydd eraill yn yr amgylchedd. Yn ddelfrydol, os bydd defaid sydd wedi eu prynu i mewn neu rai sydd â’r clafr yn cael eu symud neu eu trin, dylai unrhyw beth y mae’r defaid wedi ei gyffwrdd gael ei lanhau a’i adael am 17 diwrnod cyn i ddefaid wedi eu trin neu heb eu heintio gael mynd yno. Er enghraifft, os byddwch wedi cludo defaid sydd wedi eu prynu i’r ardal wahanu ar eich fferm, dylech lanhau’r cerbydau a’r trelars y cludwyd y defaid ynddynt yn drylwyr. Ar ôl y cyfnod ar wahân hwn, dylech wedyn lanhau’r siediau a’u gadael yn wag am isafswm o 17 diwrnod.

Mae Gorchymyn Clafr Defaid y Deyrnas Unedig 1997 yn ei gwneud yn anghyfreithlon gadael y clafr heb ei drin ac yn atal symud defaid sy’n dioddef. Byddai o fudd i ffermydd weithio gyda’i gilydd yn eu hardaloedd i wneud rheoli’r parasit hwn yn fwy rhesymol ac yn llawer haws. Mae’r Clafr yn flaenoriaeth yng Nghymru trwy Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, cynhaliwyd arolwg o ffermwyr yng Nghymru yn 2016 i ymchwilio i amlygrwydd y clafr yng Nghymru. O’r arolwg hwn, bydd ardaloedd daearyddol sydd â risg uchel o’r clafr yn cael eu dynodi ac yn cael rhagor o gyngor ar reoli gwiddon. Bydd rhagor o waith yn cael ei gwblhau trwy’r Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid i ddiweddaru’r argymhellion presennol i reoli’r clafr.

 

Am ragor o wybodaeth am y clafr gweler SCOPS a llyfryn yr HCC Rheoli Ectoparasitiaid Defaid yn Effeithiol. Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn nodi’r cynllun ar gyfer gwelliannau parhaus a pharhaol yn safonau iechyd a lles anifeiliaid sy’n cael eu cadw, gan hefyd helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyfrannu at yr economi a’r amgylchedd.  Mae’r Clafr yn flaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru 2016/17. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma