Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

A ellir teilwra arferion amaethyddol presennol i ymladd yn erbyn newid hinsawdd?

Gan, William Stiles, IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr megis carbon deuocsid a methan o ganlyniad i weithgaredd dynol wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghrynodiadau carbon yn yr atmosffer, sydd wedi addasu cylchrediadau carbon naturiol. Gall newidiadau o’r fath yn y gylchred garbon ddylanwadu ac altro nifer o systemau byd-eang. Er enghraifft, gall cynnydd mewn carbon yn y môr, sy’n cael ei amsugno o’r atmosffer, gael effaith asideiddio wrth i garbon deuocsid hydoddi i’r dŵr i greu asid carbonig, gan newid pH presennol y môr, a allai fod yn niweidiol i fywyd morol. Yn fwy adnabyddus, mae’n bosib i grynodiadau carbon atmosfferig ddylanwadu ar systemau hinsawdd gan fod cynnydd yn lefelau’r nwyon tŷ gwydr hyn yn cynyddu’r newid yn y cydbwysedd ymbelydrol, gan gynyddu tymheredd byd-eang.

Does dim amheuaeth erbyn hyn bod hinsawdd y byd yn cynhesu. Mae hyn yn cael ei arwain gan newidiadau i’r cydbwysedd presennol rhwng ynni sy’n dod i mewn ar ffurf ymbelydredd yr haul a’r gyfran o’r ynni hwnnw sy’n cael ei ddychwelyd i’r gofod. Mae ymbelydredd yr haul yn cael ei amsugno’n rhannol gan wyneb y Ddaear ac yn cael ei ail-ryddhau ar ffurf ymbelydredd isgoch (tonfedd hir). Mae cyfran sylweddol o’r ymbelydredd isgoch hwn yn cael ei amsugno gan nwyon tŷ gwydr atmosfferig penodol, sydd, yn eu tro, yn ail-ryddhau ymbelydredd i bob cyfeiriad. Mae’r ymbelydredd sy’n cael ei ail-gyfeirio tuag at i lawr yn cynhesu haenau isaf yr atmosffer ar wyneb y Ddaear, a gyfeirir ato’n aml fel yr ‘effaith tŷ gwydr’. O ganlyniad, wrth i grynodiad y nwyon tyˆ gwydr yma gynyddu, mae’r gyfran o ymbelydredd sy’n gallu dianc o’r atmosffer yn lleihau ac mae tymheredd byd-eang yn cynyddu yn unol â hynny.

Mae nwyon tŷ gwydr yn naturiol ac yn gydrannau hanfodol o’r atmosffer, sy’n rheoli hinsawdd fyd-eang ac yn sicrhau bod y Ddaear yn addas i gynnal bywyd. Fodd bynnag, mae newidiadau i grynodiadau nwyon tyˆ gwydr yn cael effaith sylweddol ar hinsawdd. Yn ddiweddar, aeth crynodiad carbon deuocsid yn yr atmosffer heibio i lefel 400 rhan i bob miliwn, sydd yn garreg filltir sylweddol ym marn nifer o wyddonwyr hinsawdd, ac yn cynrychioli lefelau sy’n uwch nag unrhyw gyfnod arall yn hanes dynoliaeth.

Mae ymatebion amgylcheddol i newid mewn crynodiad carbon atmosfferig yn anodd eu rhagweld yn fanwl oherwydd natur gymhleth ac anhrefnus y system hinsawdd ac oherwydd dylanwad ffactorau rhyngweithiol megis tymheredd môr dwfn, sy’n parhau i fod yn ffactor nad yw’n cael ei ddeall yn llwyr. Disgwylir i gynnydd mewn tymheredd byd-eang arwain at fwy o achosion o dywydd eithafol, a allai gael goblygiadau sylweddol ar gyfer diwydiannau megis amaethyddiaeth. Yn ogystal, gall y cynnydd mewn carbon deuocsid atmosfferig gael effaith annisgwyl ar dwf ac iechyd planhigion wrth i fwy o argaeledd gyflymu cyfraddau ffotosynthesis, ac felly cynhyrchiant cychwynnol, a elwir yn ffrwythloniad carbon. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yr effaith yn cael ei gyfyngu gan ei fod yn ddibynnol ar argaeledd adnoddau eraill megis maethynnau.

 

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes i’w gweld ledled y byd. O leihad eang mewn systemau creigres gwrel megis y Bariff Mawr yn Awstralia o ganlyniad i gynnydd mewn tymheredd ac asidedd y môr, i leihad mewn rhew morol a chyfartaledd byd-eang ar gyfer gorchudd iâ. Efallai bod y dangosyddion yma’n ymddangos yn bell iawn oddi wrth ecosystemau’r DU, ond maent yn ddangosyddion ar gyfer newid amgylcheddol byd-eang sy’n annhebyg i unrhyw ddangosyddion eraill. Yn agosach at adref, disgwylir i effeithiau newid hinsawdd gynnwys patrymau tywydd sy’n mynd yn anoddach i’w rhagweld, yn enwedig tymheredd uwch a newid i batrymau dyodiad. Mae hyn yn debygol iawn i gael dylanwad ffisegol ac economaidd ar amaethyddiaeth yn y DU.

At y dyfodol, mae angen dybryd i leihau crynodiadau carbon atmosfferig, trwy leihau allyriadau nwy yn ogystal ag wrth ddal a storio nwyon atmosfferig sydd eisoes yn bodoli. Wrth i dymheredd godi, bydd toddi llenni iâ ar dir a môr yn dod yn annatod, gan achosi lefel y môr i godi. Yn fwy o bryder o bosib yw potensial dulliau adborth positif i gynyddu’r gyfradd newid mewn systemau naturiol tu hwnt i’r hyn y mae dylanwadau dynol eisoes wedi’i wneud. Er enghraifft, gall priddoedd wedi’u rhewi’n barhaol (permafrost) sy’n toddi, sy’n gorchuddio cyfran sylweddol o ranbarthau lledredau uchel y byd, ryddhau swm sylweddol o fethan (sydd yn nwy tŷ gwydr cryfach na charbon deuocsid) o gronfeydd a fu wedi’u dal yn y pridd wedi’i rewi neu trwy bydredd deunydd organig wrth iddo ddadmer. Mae’r effaith hwn yn cynrychioli adborth positif gan fod tymheredd sy’n cynyddu yn arwain at fwy o ryddhad methan o bridd sy’n dadmer, sy’n arwain at gynnydd pellach mewn tymheredd. Mae gan hyd yn oed anwedd dŵr, sy’n un o’r nwyon tŷ gwydr pwysig er nad yw’n cael ei gydnabod cymaint, grynodiadau atmosfferig sy’n ddibynnol yn uniongyrchol ar dymheredd y Ddaear. Wrth i’r tymheredd godi, bydd mwy o anwedd dŵr yn cael ei greu o ganlyniad i anweddiad o’r môr, gan gynyddu’r effaith cynhesu.

Mae’r pwynt lle y bydd unrhyw un o’r dulliau uchod (mae mwy o ddulliau nad ydynt yn cael eu henwi yma, megis cynhyrfu ceryntau’r môr) yn cael eu cydnabod fel trobwynt, lle bod effeithiau newid hinsawdd yn cynyddu newid hinsawdd ymhellach, nes yn y pen draw y bydd trawsnewidiad di-droi’n ôl i gyflwr hinsoddol amgen, yn dal i fod yn bwnc trafod ddadleuol. Nid yw’n glir pa mor agos ydym ni at sefyllfa o’r fath, ond yr hyn sy’n bendant ar hyn o bryd yw bod posib osgoi’r canlyniad hwn pe byddai mesurau addas yn cael eu rhoi mewn lle.

 

Sut all amaethyddiaeth fod o gymorth?

Yn syml, mae angen i reolaeth ganolbwyntio at leihau crynodiadau carbon atmosfferig, ac ar yr un pryd i gyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ychwanegol. Mewn cyd-destun amaethyddol, gellir gwneud hynny trwy gynyddu mewnbwn carbon a lleihau colledion carbon o’r pridd, a thrwy wella dulliau o ddal a storio carbon mewn biomas llystyfiant byw trwy gynyddu llystyfiant ar y fferm megis gwrychoedd a choed.

Mae cynlluniau Grantiau Bychain Glastir a Chreu Coetir Glastir yn enghreifftiau o fentrau i gynyddu rôl y ffermwr wrth leihau crynodiadau carbon atmosfferig. Mae’r cynlluniau hyn wedi’u llunio i gynyddu’r potensial ar gyfer dal a storio carbon amaethyddol trwy gynyddu adnoddau coed a llwyni ar ffermydd, sy’n amsugno carbon deuocsid wrth dyfu, gan dynnu carbon o’r atmosffer a’i gynnwys mewn biomas llystyfiant.

Mae llystyfiant yn amsugno carbon o’r atmosffer yn ystod ffotosynthesis ac yn cadw’r carbon hwnnw yn y meinwe. Gall coed gynnwys oddeutu hyd at 3 tunnell o garbon, gan ddibynnu ar y rhywogaeth, ac er y gellir ystyried hynny’n isel iawn o’i gymharu â chyfraddau allyriadau carbon cyfredol y DU, wrth ystyried ochr yn ochr â manteision amgylcheddol ac ecolegol eraill cynllun o’r fath, mae’n cynnig cyfle i ddylanwadu ar newid hinsawdd trwy arferion rheoli cymharol syml a hawdd i’w gweithredu.

Mae’n bosib mai ymladd yn erbyn newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac wrth fynd i’r afael â’r mater hwn, mae potensial i’r diwydiant amaeth gymryd rôl arweiniol. Fodd bynnag, er bod plannu coed er mwyn dal a storio carbon yn bwysig, dim ond rhan o’r darlun ydi hynny. Yn y pen draw, er mwyn gallu gwneud ymgais wirioneddol i leihau neu waredu effeithiau newid hinsawdd, mae’n rhaid dechrau gyda lleihau’r allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer, o ddiwydiant i newid defnydd tir.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma