Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Ffactorau sy’n effeithio ar goetiroedd a diwydiant coedwigaeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd: Rhywogaethau o blâu

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.


Am resymau daearyddol mae coed a choetiroedd y Deyrnas Unedig wedi cael eu diogelu rhag plâu a phathogenau’r cyfandir yn draddodiadol, ond wrth i symudiad pobl a’r fasnach fydeang mewn planhigion a choed gynyddu, mae symudiad nifer o blâu ac afiechydon niweidiol wedi cynyddu ar yr un pryd. 

Mae cludo plâu a phathogenau yn anymwybodol tu hwnt i’w cynefin naturiol, neu ymestyn eu cynefin trwy newid amgylcheddol, yn ffenomenon gyfredol sydd ag oblygiadau sylweddol i’r dyfodol i systemau coetir naturiol a’r rhai sy’n cael eu rheoli. Ar gyfer rhywogaethau sy’n gallu symud yn rhydd, fel pryfed sy’n gallu hedfan, efallai na fydd rhwystrau naturiol yn cyfyngu ar eu symudiad yn llwyr. Mewn enghreifftiau o’r fath, mae terfynau eu libart fel arfer yn cael eu rheoli gan ffactorau amgylcheddol fel hinsawdd. Felly, o ganlyniad i newid hinsawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y Deyrnas Unedig, gall cynefin coetir a fyddai wedi bod yn anaddas i rywogaethau o anifeiliaid y mae’n well ganddynt amodau mwy tymherus, yn awr fod wedi eu goresgyn.

Gall rhywogaethau sydd wedi eu cyflwyno gael dylanwad ar goetir yn y Deyrnas Unedig ac ar y diwydiant coedwigaeth, gan effeithio ar fioamrywiaeth a photensial economaidd. Daw’r bygythiadau yma o sbectrwm eang o organebau, o rywogaethau microsgopig i famaliaid mawr, sy’n effeithio ar goed yn unigol a hefyd trwy ryngweithio rhwng rhywogaethau. Yn y cyd-destun hwn, mae pathogenau yn rywogaethau microsgopaidd (fel ffwng neu facteria) ac mae plâu yn organebau mwy a all ddylanwadu ar rywogaethau coed trwy eu gweithgareddau, fel bwyta yn arwain at golli dail. Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar y plâu.

 

Pryfed - gwyfynod

Yn ddiweddar mae pedair rhywogaeth o wyfyn wedi ymledu o dde a chanol Ewrop ar draws y cyfandir i’r Deyrnas Unedig. Mae’r rhywogaethau hyn, er eu bod yn meddu strategaethau a chylch bywyd gwahanol iawn, yn eithriadol o lwyddiannus yn y Deyrnas Unedig. 

Mae turiwr castanwydd y meirch Cameraria ohridella wedi gwasgaru yn eang trwy Ewrop gyfan ers cael ei ddisgrifio gyntaf fel rhywogaeth newydd yn 1986. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2002, ac fe’i gwelir trwy Gymru a Lloegr. Mae’n mudo yn rhwydd gan fod gan yr oedolion wrth ddod i’r golwg y gallu i symud o goeden i goeden, a gallant hyd yn oed gael eu gwthio ymhellach ar y gwynt. Yr unig gyfyngiad ar eu gwasgaru ar hyn o bryd yw cyfyngiad yr hinsawdd addas, a all esbonio pam bod y niferoedd yn dal yn brin yn yr Alban. Fel pryfyn sy’n turio i’r dail, mae’r larfa C. ohridella yn turio i feinwe’r ddeilen rhwng arwyneb y dail, gan dreulio ei holl gyfnod fel larfa yn neilen castanwydd y meirch. Mae hon yn strategaeth effeithiol gan fod y ddeilen yn eu diogelu rhag rheibwyr ac yn cynnig ffynhonnell fwyd sefydlog. Er bod larfae C. ohridella yn aml yn ymddangos fel petaent yn bresennol ym mron pob deilen ar goed sydd wedi dioddef, nid yw’n ymddangos bod hyn yn gwneud niwed o bwys i’r goeden heblaw colli’r gallu ffotosynthetig o bosibl. Ond gall hyn gyfyngu ar botensial y goeden i wrthsefyll yn y tymor hir, ac mewn ardaloedd lle mae cancr gwaedlyd y gastanwydden yn broblem, gall y straen ychwanegol oherwydd y gwyfyn hwn waethygu effeithiau’r afiechyd. Yn y tymor hir gall dylanwad C. ohridella ddod yn llai amlwg gan y profwyd bod parasitiaid naturiol ar gyfer y gwyfyn hwn yn cynyddu yn eu dwyster dros amser, wrth i barasitiaid cyffredinol sy’n ymddangos yn naturiol addasu i dargedu’r rhywogaeth mewn ardaloedd lle mae wedi bod yn bresennol am fwy na thair blynedd. 

Mae ymdeithiwr y derw Thaumetopoea processionea wedi bod yn bresennol ym Mhrydain ar ôl iddo gael ei gyflwyno ar ddamwain yn 2005, ac mae’n peri pryder o ran lles coed, pobl ac anifeiliaid. Yn ystod y cyfnod fel larfa, mae gan y gwyfyn hwn y potensial i ddad-ddeilio coed trwy fwyta’r dail, a all effeithio yn sylweddol ar berfformiad ac iechyd y coed, gan adael y goeden yn agored i niwed gan blâu ac afiechydon eraill, neu yn methu gwrthsefyll effeithiau amgylcheddol eraill, fel sychdwr. Mewn enghreifftiau pan fydd adnodd y dail derw yn mynd yn brin, neu yn brin beth bynnag, gall y rhywogaeth hon fwyta dail yn fwy cyffredinol ac fe’i gwelwyd yn defnyddio coed oestrwydd, cyll, ffawydd, castanwydd pêr a bedw. I bobl ac anifeiliaid, mae’r perygl yn y blew sy’n pigo sy’n gorchuddio’r larfa ac sy’n cynnwys thaumetopoein, sylwedd a all achosi ymateb alergaidd yn amrywio o frech ar y croen i anhawster resbiradol. Mae’r blew yma yn dod yn rhydd yn rhwydd os cyffyrddir yn y larfae neu gallant gael eu gollwng yn fwriadol ac maent yn ddigon mân i gael eu gwasgaru gan y gwynt, gan olygu bod y larfae yma yn gallu achosi problemau neilltuol, yn enwedig mewn lleoliadau trefol. 

Mae larfae siobyn y sipsi Lymantria dispar hefyd yn gallu dad-ddeilio coed llydan-ddail yn sylweddol a gallant achosi straen fawr i goed a all eu gwneud yn fwy agored i ymosodiadau mwy difrifol gan blâu eilaidd a phathogenau. Gall y rhywogaeth hon hefyd fwyta dail coniffer pan fydd dail llydan-ddail wedi mynd yn brin. Ar hyn o bryd mae L. dispar wedi ei gyfyngu i Lundain yn y Deyrnas Unedig lle’i canfuwyd yn 1995, ond yn fwy diweddar fe welwyd rhai yn Swydd Buchkingham a Dorset sy’n awgrymu y gall wasgaru yn ehangach.

Gwelwyd llabed pinwydd Dendrolimus pini mewn safleoedd yn yr Alban o gwmpas Inverness ers 2004, ond hyd yn hyn ni chofnodwyd ei bresenoldeb parhaus yn unrhyw leoliad arall. Ar hyn o bryd derbynnir mai hinsawdd yw’r rheswm pam nad yw’r organeb hon wedi gwasgaru trwy’r Alban, ond wrth i’r hinsawdd gynhesu dros y blynyddoedd a’r degawdau nesaf, gall y potensial iddo ymledu gynyddu o ran tebygolrwydd. Petai hynny’n digwydd, mae gan y gwyfyn hwn y potensial i gynnig bygythiad sylweddol i blanhigfeydd pîn a’r hen goedwigoedd pîn yn yr Alban, gan y gall ymosodiad barhau am flynyddoedd gan arwain at ddad-ddeilio eang sy’n gallu amharu ar iechyd y goeden a chynyddu cyfradd marwolaethau’r coed, gan ymyrryd yn ecolegol ac economaidd. 

 

Pryfed - chwilod 

Yn naturiol mae gan rywogaethau o chwilod lai o botensial i wasgaru na’r gwyfynod uchod, er bod rhai rhywogaethau yn gallu hedfan pan fydd yr amodau yn addas. Mae eu gwasgariad yn fwy cyffredin oherwydd dylanwad pobl, naill ai trwy gludo coed neu fel teithiwr digroeso ar gerbydau neu beiriannau trin coed.

Mae chwith y rhisgl Platypus cylindrus yn ymosod ar goed derw sydd eisoes wedi cael eu gwanhau gan blâu ac afiechydon eraill yn bennaf, ond fe’i gwelwyd yn ymosod ar goed caled eraill hefyd fel ffawydd a’r gastanwydden bêr. Tyfodd maint poblogaeth y chwilen hon yn y Deyrnas Unedig dros y degawdau diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i’r cyflenwad cyson o goed derw yn dioddef o golli eu dail a dirywiad, sy’n cynnig llety delfrydol i’r chwilen. Mae’r oedolion yn turio i’r goeden i’r rhuddin, ond nid ydynt yn bwyta’r pren ei hun. Yn hytrach, defnyddir y twneli i dyfu ffwng ambrosia, y mae’r oedolion a’r larfae yn ei fwyta. Er nad ydynt yn uniongyrchol gyfrifol am farwolaeth coed, gall y pla yma effeithio ar werth masnachol coed ar ôl ymosod arnynt, gan y gall y tyllau a wnaed wrth greu twneli ddifetha ymddangosiad y cynnyrch pren yn y pen draw.

Mae’r gwiddonyn pinwydd Hylobius abietis, yn wahanol i’r hyn mae’r enw yn ei awgrymu, yn bwyta cymysgedd o blanhigion pren neu lysieuol. Mae’r oedolyn yn bwyta rhisgl a gall wneud difrod sylweddol yn arbennig i blanhigion ifanc. Mae coed yn cael eu lladd pan fydd y rhisgl yn cael ei dynnu yn llwyr oddi ar ddarn o’r coesyn (a elwir yn wregysu neu ddirisglo) gan atal llif dŵr a maetholion i ran uchaf y planhigyn. Yn nodweddiadol mae gan y rhywogaeth yma gylch bywyd o ddwy flynedd, ond gall fyw am hyd at bedair blynedd a gall fod yn broblem ar unrhyw adeg yn y flwyddyn pan fydd digon o gynhesrwydd i bryfed fod yn weithredol. Gall y boblogaeth o’r chwilen hon fod yn sylweddol, gyda’r amcangyfrif am y niferoedd i bob hectar hyd at 150 mil o oedolion. Gall hyn arwain at ddifrod sylweddol i goed trwy eu bwyta. Mae maint y boblogaeth o oedolion yn ddibynnol yn uniongyrchol ar argaeledd bonion coed coniffer sydd yn allweddol ar gyfer llwyddiant wrth fridio. Gall hyn wneud planhigfeydd coedwigaeth ar ôl eu clirio yn ffynhonnell sylweddol ar gyfer y pla hwn a gall arwain at fwy o farwolaethau ymhlith y coed ifanc sydd wedi eu trawsblannu i’r safle i’w ail stocio. 

Cyflwynwyd y chwilen rhisgl pyrwydden Dendroctonus micans yn ddamweiniol o gyfandir Ewrop yn yr 1980au a bydd yn ymosod ar bob rhywogaeth o byrwydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r coed yn cael eu difrodi gan weithgaredd y chwilen hon yn ystod ei gyfnod fel larfa, gan fod y larfae yn bwyta haenau mewnol y rhisgl, gan wanhau ac weithiau ladd y goeden. Ond, gan na wneir unrhyw ddifrod i’r pren mewnol nid yw’n effeithio, o angenrheidrwydd, ar ansawdd y pren, cyn belled bod y goeden yn cael ei defnyddio cyn iddi farw neu yn fuan wedyn. Bydd y chwilen yn symud rhwng coed trwy gropian, ond gall hedfan weithiau os bydd y tymheredd yn uwch na 22.5 oC. Gellir rheoli’r pla hwn trwy gyflwyno chwilen reibus (Rhizophagus grandis) o’i diriogaeth naturiol, sydd yn hoff iawn o D. micans, ac yn meddu ar allu eithriadol i ganfod ei ysglyfaeth. Gwelwyd bod hyn mor llwyddiannus fel bod y rheibiwr yma yn cael ei ystyried fel dull o ganfod presenoldeb D. micans mewn safleoedd newydd ar gyrion ei diriogaeth wrth iddi ymledu. 

 

Mamaliaid 

Mae gan rywogaethau cynhenid a heb fod yn gynhenid y potensial i effeithio ar goetir yn y Deyrnas Unedig. Yn aml bydd rhywogaethau o famaliaid nad ydynt yn gynhenid sy’n cyrraedd yma yn manteisio ar yr adnoddau newydd a’r rhyddid rhag rheibwyr. Gall hyn arwain at bwysau ar rywogaethau naturiol sy’n arwain at weld y rhywogaethau yn cyfnewid lle trwy gystadlu. 

Cyflwynwyd y wiwer lwyd Sciurus carolinensis o Ogledd America i leoliadau amrywiol yn y Deyrnas Unedig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif fel ychwanegiad ffasiynol ar diroedd stadau. Ers eu cyflwyno maent wedi ymledu yn eang ac maent yn cael eu cydnabod yn awr fel un o’r rhywogaethau heb fod yn gynhenid mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig. Bu llwyddiant y wiwer lwyd yn y Deyrnas Unedig ar draul y wiwer goch gynhenid (Sciurus vulgaris), y mae’n cystadlu â hi yn llwyddiannus am adnoddau ac sy’n agored i frech y gwiwerod sy’n cael ei gario gan S. carolinensis. Mae gwiwerod llwyd yn broblem arbennig o ran coetir a chynhyrchu pren gan eu bod yn aml yn difrodi coed trwy dynnu’r rhisgl, yn bennaf pan fydd y boblogaeth yn uwch na phum wiwer i bob hectar. Gall hyn fod yn angheuol i goed lle mae tynnu rhisgl mewn gwirionedd yn arwain at wregysu, gan leihau potensial economaidd coetiroedd a reolir a phlanhigfeydd. Gall hyn hefyd effeithio ar fioamrywiaeth a chynaliadwyedd lle mae’r weithred yn arwain at golli gwerth rhywogaethau coed bregus fel ffawydd, derw neu fasarn.  

Ar ôl bod yn absennol am 300 mlynedd, mae moch gwyllt wedi cael eu hailgyflwyno i goetir y Deyrnas Unedig yn ddiweddar. Er nad yw’n glir yn union sut yr ailgyflwynwyd yr anifeiliaid yma, mae’r boblogaeth o’r mamal mawr hwn yn llwyddiannus ac mae’n cynyddu. Amrywiol yw’r adroddiadau am ddosbarthiad y moch gwyllt yn y Deyrnas Unedig, ond yn sicr maent yn magu yn Swydd Gaerloyw/Swydd Henffordd, Caint a Sussex. Ar hyn o bryd mae effaith y moch gwyllt ar goed yn ddadleuol. Gall coed gael eu difrodi pan fyddant yn cael eu defnyddio i rwbio, neu trwy dyrchu, sy’n aml yn digwydd wrth fonion coed a gall ddifrodi gwreiddiau mawr. Gall y gweithgaredd yma arwain at gyfraddau heintio uwch gan bathogenau ffwngaidd, neu fedru defnyddio llai o ddŵr neu faetholion. Byddai angen rhagor o ymchwil i ragweld graddfa’r effeithiau yma wrth i’r boblogaeth o foch gwyllt dyfu, sydd yn annhebygol ar hyn o bryd.

Gall rhywogaethau mamaliaid hefyd amharu ar goetir y Deyrnas Unedig trwy bori eithafol mewn sefyllfaoedd lle mae’r boblogaeth yn tyfu yn anghynaladwy, oherwydd absenoldeb rheibwyr mawr neu brif reibwyr o ecosystemau coetir y Deyrnas Unedig. Heb y pwysau o’r brig i lawr gan reibwyr, rhaid rheoli niferoedd mawr o lysfwytawyr i osgoi gorbori. Gall rhywogaethau o geirw, cynhenid a heb fod yn gynhenid, roi pwysau sylweddol ar goetir y Deyrnas Unedig, yn arbennig pan fydd y boblogaeth yn cyrraedd dwyster mawr. Bydd rheolaeth ar y pwysedd hwn yn dibynnu ar naill ai ostwng y niferoedd trwy ladd, diogelu’r coed yn ffisegol gyda ffensys neu warchodwyr, lleihau effaith y difrod trwy or-blannu i gymryd y colledion, neu blannu rhywogaethau coed sy’n llai deniadol i geirw.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma