Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Ffermwr o Gonwy yn arbed arian wrth ddefnyddio cnwd newydd ar safle ffocws Cyswllt Ffermio

Mae ffermwr arloesol o Gonwy yn arbed bron £6,000 y flwyddyn diolch i gefnogaeth gan arbenigwyr amaethyddol.

Mae Arthur a Menna Williams o Lannefydd, Conwy wedi derbyn gwybodaeth a chyngor sydd wedi arwain at lwyddo i ganfod cnwd porthiant mwy cynhyrchiol i fwydo’r gwartheg a’r defaid sy’n rhan o fenter fferm Carwed Fynydd.

Cafodd 7.5 erw o’r fferm fynydd ei hau gyda betys porthiant Robbos yn gynharach eleni  gyda’r nod o werthuso manteision cost a chynhyrchiant tyfu Betys Porthiant yn hytrach na Chêl, neu i weld a oedd cyfle i’r ddau gnwd gydweddu â’i gilydd.

“Rydym ni’n awyddus i leihau cost silwair a gwellt i’r gwartheg sugno yn ystod y gaeaf, eglurodd Arthur Williams, 37, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i wraig, Menna a’i rieni, Dilwyn a Marian Williams.

“Roeddem hefyd eisiau edrych ar leihau costau gaeafu defaid oddi ar y fferm. Rydym wedi cael ein synnu gan ganlyniadau’r prosiect, ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl i’r fferm ar y 11eg o Ragfyr i weld y canlyniadau eu hunain.”

Roedd costau bwydo, gwellt a’r gwaith oedd wrth y 120 o wartheg sugno Limousin a British Blue croes yng Ngharwed Fynydd yn rhywbeth roedd Arthur Williams yn benderfynol o’i ddatrys yn ogystal â lleihau costau anfon 600 o’r 800 o ddefaid Lleyn i Gaer, rhwng misoedd Hydref a Mawrth.

Fel arfer byddai Arthur yn bwydo’r gwartheg gyda system cêl a silwair dros y gaeaf sy’n un o fanteision y pridd sy’n draenio’n hawdd ar y fferm fynydd yn Llannefydd sydd 580 troedfedd uwch lefel y môr. Roedd yn amlwg o gymharu’r gost o dyfu betys porthiant gyda’r cnwd cêl oedd yn cael ei hau yn wreiddiol ar Carwed Fynydd, nad oedd unrhyw gostau ychwanegol a’i fod yn fwy ymarferol yn ariannol i’w dyfu na chêl. Mantais fwyaf y cnwd betys porthiant yw ei fod yn llawer mwy cynhyrchiol fel bwyd gwartheg a defaid felly mae angen llai o ddaear i dyfu’r bwyd gaeaf sydd ei angen ar y fferm. 

Mantais arall yng Ngharwed Fynydd yw’r elfen cylchdroi cnydau ar y safle gan nad yw betys porthiant yn gnwd bresych sy’n golygu nad yw’r fferm yn dueddol o fod â risg o’r clefyd chwydd gwraidd. Mae’n bosib hau betys porthiant, sy’n gnwd tymor llawn, yn yr ail flwyddyn ar ôl cnwd bresych yn barod i’w hau yn gynnar. Mae hyn yn golygu bod Carwed Fynydd yn arbed blwyddyn yn y cyfnod gorffwys sydd ei angen cyn hau’r cnwd bresych nesaf, a bydd hyn yn gwella’r cylchdro cnydau ar y fferm.   

Dywedodd Emyr Owen, Swyddog Technegol Cig Coch Gogledd Cymru gyda Cyswllt Ffermio sydd wedi gweithio gyda’r teulu o Lanefydd: “Rydym ni’n falch iawn bod y fenter ar fferm Carwed Fynydd yn adennill o dri i un ar y buddsoddiad mewn betys porthiant o’i gymharu â’r cêl gwreiddiol. Mae’r arbedion ariannol yn elfen allweddol. Mae cynhyrchu bwyd gwartheg a defaid ar lai na hanner y tir a gafodd ei ddyrannu yn wreiddiol yn fudd effeithlon.

“Eleni, bydd 20 heffer fagu yn cael eu gaeafu ar y cnwd betys porthiant dros tua 150 diwrnod a 500 o famogiaid beichiog yn pori ar ben arall y cae am tua 70 diwrnod. Bydd byrnau silwair yn cael eu cario i’r cae hefyd yn ystod misoedd garw’r gaeaf,” dywedodd.

Mae’r 120 o wartheg sugno Limosin a British Blue croes yn lloia dros gyfnod o dri mis yn dechrau o fis Ebrill. Mae 40 o’r gwartheg yn cael eu troi at darw Salers fel gwartheg cyfnewid a’r gweddill yn cael eu troi at darw Charolais fel gwartheg stôr. Tan yn ddiweddar roedd y rhain yn cael eu gwerthu ymlaen yn 20-22 mis oed fel gwartheg stôr i orffen pesgi, ond yn y dyfodol, byddan nhw’n cael eu gwerthu yn flwydd oed. Bydd hyn yn gwneud lle i  fwy o fuchod magu er mwyn cynyddu allbwn y fferm.

Mae’r teulu Williams yn cadw diadell o 800 o ddefaid Lleyn gyda 300 yn cael troi at hyrddod Aberfield ar gyfer eu cadw yn y dyfodol. Mae’r 500 o ddefaid hŷn yn cael eu rhoi i hyrddod Texel a Charollais ar gyfer cynhyrchu ŵyn terfynol. Mae gwerthiant ŵyn yn dechrau yng nghanol mis Mai.

Daeth Arthur Williams i gysylltiad gyda Cyswllt Ffermio trwy Grŵp Trafod Conwy lleol a sefydlwyd gan Guto Owen, Swyddog Datblygu Conwy, ar gyfer ffermwyr yr ardal. Mae’n meddwl bod rhannu syniadau a thrafod pynciau amaethyddol perthnasol o fantais i’r sector.

“Mae awydd Arthur i ymchwilio i dechnegau newydd ac edrych yn strategol ar ei fferm yn golygu bod adenillion gwell o’r fenter bîff a defaid. Erbyn hyn, mae’n gallu cynyddu niferoedd ei stoc, lleihau’r baich gwaith a gwella ôl troed carbon y fferm gan fod costau bwydo, gwellt a chludiant yn llai. Mae Carwed Fynydd yn enghraifft o sut y gallai cynhyrchwyr cig coch eraill wella ac ehangu menter y fferm,” meddai Emyr Owen.

Bydd digwyddiad safle ffocws Cyswllt Ffermio yn cael ei gynnal ar Fferm Carwed Fynydd, Llannefydd, Conwy LL16 5EH ar ddydd Llun 11 Rhagfyr 2017 o 2pm nes 4:30pm. Mae’n arweiniad ar aeafu defaid a gwartheg yn yr awyr agored ar fetys porthiant a chêl. Mae siaradwyr gwadd yn cynnwys: Charlie Morgan o Grassmaster a Mark Jones o ADAS. Bydd lluniaeth ar gael ac mae cofrestru o flaen llaw yn hanfodol. E-bostiwch emyr.owen@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch 07932 610697.