Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Ffynonellau protein gwahanol ar gyfer porthiant anifeiliaid: Bysedd y blaidd

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


  • Codlysiau llawn protein, llawn ynni, sy’n sefydlogi nitrogen yw bysedd y blaidd.
  • Fel cnwd, mae bysedd y blaidd yn cynnig dewis gwahanol i soia wedi ei fewnforio fel ffynhonnell protein llysiau sy’n cael ei dyfu yn y Deyrnas Unedig y gellir ei ddefnyddio fel rhan o borthiant pysgod ac anifeiliaid.
  • Gall gynnig ffynhonnell dda o brotein cost effeithiol, y mae ei gadwyn gyflenwi yn ddiogel.

Mae bysedd y blaidd (Lupinus spp.) yn genws o blanhigion blodeuog yn y teulu codlysiau (Fabaceae) sydd yn fwyaf enwog, efallai, fel ffefryn mewn gerddi, lle mae eu blodau mawr, lliwgar yn eu gwneud yn boblogaidd ymhlith garddwyr. Ond, mae dros 150 o rywogaethau gwahanol o fysedd y blaidd, rhai ohonynt yn addas iawn i’w cynhyrchu yn amaethyddol yn y Deyrnas Unedig, oherwydd eu natur fel codlysiau sy’n sefydlogi nitrogen sy’n datblygu hadau llawn protein a llawn egni, y gellir eu tyfu yn effeithiol mewn hinsawdd gogleddol. Ar hyn o bryd mae tair rhywogaeth o fysedd y blaidd o bwysigrwydd amaethyddol yn y Deyrnas Unedig: cul-ddail (L. angustifolius), gwyn (L. albus) a melyn (L. luteus).

 

Mae’r planhigion yma wedi bod o ddiddordeb fel cnwd posibl ers rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf. Yn 1928, darganfuwyd presenoldeb cellwyriad isel mewn alcaloid o fysedd y blaidd, a arweiniodd at ddatblygu bysedd y blaidd heb alcaloid neu rywogaethau melys. Rodd hyn yn cynnig posibiliadau newydd i’r cnwd hwn fel porthiant anifeiliaid. Trwy’r cynnydd dilynol a wnaed trwy ymchwil o ran bridio, cynhyrchu a defnyddio bysedd y blaidd, dechreuwyd gwireddu eu potensial fel cnydau codlysiau llawn protein y gellir eu tyfu yn llwyddiannus ac a allai fodloni’r galw am brotein wedi ei dyfu gartref i gynhyrchu da byw mewn modd cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Fel codlysiau, mae gan fysedd y blaidd y gallu i sefydlogi a defnyddio nitrogen atmosfferaidd sy’n golygu na fydd angen ychwanegu gwrtaith nitrogen, gan gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol. Mae gan rywogaethau o godlysiau berthynas symbiotig â bacteria Rhizobium, sy’n trosi nitrogen anweithredol (N2) yn amonia sy’n ddefnyddiol yn fiolegol (NH3), gan gyflenwi nitrogen y gellir ei ddefnyddio i’r planhigyn. Yn ychwanegol, gall y nodwedd hon o’r planhigyn wella cynnwys nitrogen y pridd a’i argaeledd, gan leihau’r angen am wrtaith i’r cnydau sy’n dilyn bysedd y blaidd mewn systemau cylchdro.
Mewn cymhariaeth â chnydau fel pys neu ffa, mae cynnwys protein blawd bysedd y blaidd yn gymharol uchel (hyd at 42%) a’i gynnwys olew, gyda chyfanswm cymharol uchel o Brotein Treuliadwy Heb Ddiraddio (DUP) yng nghyswllt Protein Treuliadwy Effeithiol yn y Rwmen (ERDP). O ran DUP, sy’n cael ei ystyried yn werthfawr iawn o ran cynhyrchu anifeiliaid, gall cynnwys grawn bysedd y blaidd fod cymaint â dwbl cnydau eraill fel pys. Felly, gall tyfu bysedd y blaidd ar gyfer porthiant anifeiliaid gynnig dewis gwahanol realistig i soia wedi ei fewnforio fel ffynhonnell protein llysiau wedi ei dyfu yn y Deyrnas Unedig.

Roedd prosiect LUKAA (Lupins in UK Agriculture and Aquaculture) yn fenter ar y cyd rhwng partneriaid: Alltech, Alvan Blanch, Birchgrove Eggs, Ecomarine, Germinal, Kelvin Cave, NIAB TAG, PGRO, Soya UK, Wynnstay Group PLC, Prifysgol Plymouth ac IBERS, Prifysgol Aberystwyth, ac fe’i sefydlwyd ar y cyd gan Innovate UK, asiantaeth arloesedd y Deyrnas Unedig. Nod y prosiect oedd archwilio potensial bysedd y blaidd fel cnwd i gynnig ffynhonnell ddiogel a chost effeithiol ar gyfer protein llysiau y gellid ei defnyddio ar gyfer cynhyrchu porthiant anifeiliaid. Roedd y prosiect hwn yn profi potensial y cnwd hwn i’w ddefnyddio mewn porthiant i gilgnowyr, dofednod a physgod ac mae wedi dangos canlyniadau ffafriol ym mhob categori.

 

Cilgnowyr

Roedd y treialon cynhyrchiant cilgnowyr a gynhaliwyd trwy’r prosiect LUKAA yn canolbwyntio ar rawn bysedd y blaidd o fysedd y blaidd culddail Boruta a gynaeafwyd gyda chynnwys lleithder yn uchel, ac yna ei grimpio, ei silweirio a’i drin gyda chadwolyn gyda sail o asid. Defnyddiwyd yr agwedd hon i sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ar ffermydd y Deyrnas Unedig, heb y gofyn am seilwaith newydd fel cyfleusterau sychu grawn. Mae grawn bysedd y blaidd wedi cael ei borthi i Ŵyn yn y gorffennol fel dwysfwyd mewn pelenni heb gael effaith niweidiol ar gynhyrchiant; ond mae’r dull hwn yn gofyn am gyfleusterau sychu grawn nad ydynt ar gael yn gyffredin ar ffermydd da byw.

Yn y treial hwn, roedd yr ŵyn naill ai yn cael pelenni pesgi ŵyn masnachol neu borthiant yn cynnwys bysedd y blaidd (27%) gyda barlys wedi crimpio (70.5%) a mwynau (2.5%). Dangosodd y canlyniadau bod y porthiant bysedd y blaidd/barlys wedi rhoi lefelau tebyg o brotein gyda mwy o egni na’r diet pesgi masnachol. Cyfrifwyd bod hyn yn cyfateb i arbediad mewn cost o 19% mewn cymhariaeth â’r pelenni masnachol. Daeth y treial hwn i’r casgliad bod diet bysedd y blaidd/barlys wedi crimpio wedi ei dyfu gartref yn ffynhonnell gost effeithiol, hyfyw i besgi ŵyn, nad yw’n cael effaith niweidiol ar gynhyrchiant na nodweddion y carcas.

 

Dofednod

Cynhaliwyd treial yn y maes yn cyflwyno bysedd y blaidd melyn a chulddail i ddiet ieir dodwy dros 18 wythnos (6 wythnos o’r cyfnod tyfu a 12 wythnos yn y cyfnod dodwy). Porthwyd y ddwy rywogaeth o fysedd y blaidd i ieir ar fin dodwy, naill ai yn gyflawn neu heb y plisg a gyda neu heb gynnyrch eplesu a ddyluniwyd i gynyddu argaeledd maeth, a diet rheoli o gymysgedd soia i ieir dodwy.

Dangosodd y canlyniadau o’r ymchwil nad oedd rhoi bysedd y blaidd culddail neu felyn i ieir sy’n dodwy yn achosi unrhyw niwed i berfformiad yr ieir nac ansawdd yr wyau. Ni welwyd unrhyw effaith anffafriol ar dwf yr adar na’u pwysau, o ran cynnwys sych na’r dŵr oedd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu wyau (nifer na phwysau), nac ar iechyd yr adar. Yn ychwanegol, gwelwyd bod cochni’r melynwy yn cynyddu’n sylweddol gyda diet yn cynnwys y naill rywogaeth o fysedd y blaidd neu’r llall, a gellid dadlau y byddai hynny o fantais o ran cynhyrchu wyau gan y byddai defnyddwyr yn ei weld yn fuddiol. Yn gyffredinol mae’r ymchwil wedi dangos, trwy roi bysedd y blaidd yn lle soia yn y diet sydd â chynnwys tebyg fel arall, y gellir cael perfformiad cyfatebol o ran cynhyrchu wyau ac ennill pwysau o fwyta ychydig yn llai, gan awgrymu’r potensial i gael enillion economaidd mwy trwy gyfrwng y dull hwn.

 

Pysgod

Defnyddiwyd tair rhywogaeth o bysgod i brofi potensial y ffynhonnell brotein hon mewn acwafeithrin: carp gloyw ifanc (Cyprinus carpio), tilapiaid du'r Nîl (Oreochromis niloticus) a brithyll yr enfys (Oncorhynchus mykiss). Yn y prawf ar garp gloyw, dangoswyd bod cyfnewid hyd at 25% o ddwysfwyd protein soia gyda blawd hadau bysedd y blaidd gwyn yn cael effaith sylweddol ar berfformiad o ran twf, y defnydd o borthiant a chyfansoddiad y carcas. Dangosodd y tri threial bod blawd bysedd y blaidd yn effeithiol fel defnydd yn lle soia mewn porthiant i bysgod.

Dangoswyd hefyd bod effeithlonrwydd bysedd y blaidd fel ffynhonnell fwyd mewn acwafeithrin yn cynyddu trwy ddefnyddio cynnyrch eplesu solid allanol (SynergenTM), y credir eu bod yn gwella bioargaeledd maetholion a thrwy leihau dylanwad ffactorau gwrth-faethol (ANF). Ychydig iawn o ffactorau gwrth-faethol a pholysacarid heb starts sydd mewn bysedd y blaidd; gall y rhain weithredu i leihau swm y porthiant a gymerir, tyfiant, treuliadwyedd y maetholion a’r defnydd ohonynt, a gwrthedd i afiechyd.  Mae canlyniadau’r ymchwil yn dangos gostyngiad yn y dylanwad hwn mewn treialon brithyll yr enfys a tilapiaid y Nîl trwy ddefnyddio SynergenTM, oedd yn cynyddu perfformiad y pysgod mewn cymhariaeth â blawd bysedd y blaidd ar ei ben ei hun.

 

Crynodeb

Dangoswyd bod bysedd y blaidd yn cynnig ffynhonnell ddiogel, gost effeithiol a diogel o ran y gadwyn gyflenwi i borthiant llawn protein i dda byw fel dewis gwahanol i borthiant sy’n cael ei fewnforio fel soia. Ond, beth bynnag am fanteision posibl bysedd y blaidd fel cnwd, fel y dangoswyd gan waith ymchwil, mae’r nifer sydd yn ei ddefnyddio ar ffermydd y Deyrnas Unedig yn brin. Er mwyn cael budd o’r manteision a ragwelir trwy ymwneud â’r cnwd hwn gan gynnwys y rhai yn ymwneud â diogelwch bwyd a’r effaith amgylcheddol llai trwy gadwyn gyflenwi fyrrach, yna rhaid i gyflenwyr a chynhyrchwyr porthiant weithio gyda’i gilydd i sefydlu llwyfan sefydlog er mwyn ei gynhyrchu. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma