Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Gwella’r nifer o ŵyn sy’n goroesi

Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


  • Gall cynllun rheoli wedi ei strwythuro, penodol i’r fferm wella’r nifer o ŵyn sy’n goroesi yn llwyddiannus.
  • Maint yr oen yw un o’r ffactorau risg mwyaf o ran gallu ŵyn i oroesi. Mae gallu ŵyn sy’n cael eu geni yn rhy fach i gadw yn gynnes a sugno yn llai, ond mae’r rhai sy’n rhy fawr ar eu genedigaeth yn wynebu’r tebygolrwydd y bydd trafferth wrth eu geni.
  • Dylid annog y berthynas rhwng y famog a’r oen cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl ŵyna i sicrhau ei bod yn cymryd yr oen.
  • Mae’n holl bwysig cael digon o weithwyr wedi eu hyfforddi’n dda dros y cyfnod ŵyna i sicrhau bod unrhyw broblemau yn cael eu canfod a’u trin cyn gynted â phosibl.
  • Bydd ymchwil yn y dyfodol yn pwysleisio ar eneteg yr ŵyn sy’n goroesi orau i gynorthwyo i ddatblygu dethol am y nodwedd hon mewn rhaglenni bridio.

Bu adolygiad gwyddonol Ewropeaidd yn ddiweddar yn gwerthuso’r ymchwil sydd ar gael o ran gwella goroesiad ŵyn. Mae’r adolygiad yn edrych ar sut yr aeth yr ymchwil yma, a gellir ei gysylltu yn ôl ag arfer ar ‘fferm wirioneddol’ i wella’r rheolaeth ar famogiaid ac ŵyn ac yn y pen draw leihau cyfraddau marwolaeth yr ŵyn.

Ychydig iawn y mae cyfraddau marwolaeth ŵyn wedi newid dros y degawdau diwethaf gan aros ar tua 15%, ac o’r rheiny mae 50% yn digwydd yn y 24 awr cyntaf ar ôl y geni. Ond, mae ymchwil diweddar yn awgrymu ei bod yn bosibl i farwolaethau ŵyn beidio bod yn uwch na 5% ar ffermydd. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, rhaid sylweddoli nad oes yr un dwy fferm yn union yr un fath, ac felly dylai’r cynlluniau rheoli ar gyfer y cyfnod ŵyna fod yn benodol ar gyfer ffermydd unigol. Ond mae’r prif egwyddorion yn aros yr un fath ac maent wedi eu gwreiddio yng ngofynion ffisiolegol, ymddygiadol, maethol ac iechyd yr oen a’i fam cyn ei eni ac wedyn.

Gall y ffactorau risg o ran marwolaethau ŵyn gael eu dosbarthu i bedwar categori: trawma wrth eni; y famog ddim yn cymryd yr oen; datblygiad afiechydon a ffactorau anghyffredin fel ysglyfaethu. Bydd y system reoli a ddefnyddir yn cael effaith mawr ar y mathau o ffactorau risg sydd fwyaf amlwg. Mae ŵyna allan yn fwy tebygol o weld mwy o farwolaethau yn gysylltiedig â hypothermia a llwgu, ond mae ŵyna dan do yn fwy tebygol o weld cyfraddau uwch o afiechydon heintus yn gwasgaru. Mae hyn yn pwysleisio, er ei bod yn holl bwysig bod yn ymwybodol o’r holl risgiau i ŵyn yn eu dyddiau cyntaf, y dylech ganolbwyntio ar dargedu eich cynllun rheoli yn ôl eich system.

Ffisiolegol

Gall proses eni hir oherwydd anawsterau arwain at ddiffyg ocsigen a marwolaeth yn y pen draw os na fydd yn cael ei reoli yn iawn. Dylai’r staff sy’n cael eu cyflogi ar gyfer ŵyna fod wedi eu hyfforddi’n dda ac yn gallu delio ag amrywiol broblemau yn briodol. Mae rhagor o wybodaeth am reoli ŵyna ar gael gan NADIS. Mae cyfraddau marwolaeth is mewn diadelloedd sy’n cael eu goruchwylio’n well, fel diadelloedd bychain dan do. Ond dylid bod yn ofalus nad ydych yn gor-oruchwylio gan amharu ar y berthynas rhwng y famog a’r oen.

Wrth adael y groth, mae’r ŵyn yn profi gostyngiad mewn tymheredd. Mae ŵyn llai yn ei chael yn anos cadw tymheredd eu cyrff oherwydd bod ganddynt gymhareb uchel rhwng arwynebedd y corff a’u pwysau. Oherwydd hyn mae’r ŵyn bach yn colli gwres yn llawer cyflymach ac felly maent yn fwy tebygol o ddioddef hypothermia. Mae’r swm o fraster brown sydd gan oen wrth ei eni yn holl bwysig yn yr ychydig oriau cyntaf. Mae braster brown yn cynhyrchu gwres yn annibynnol oddi wrth gryndod yr oen ac felly mae’n hanfodol i helpu’r oen gynhyrchu gwres yn yr ychydig funudau cyntaf o’i oes i godi tymheredd ei gorff.

Yn ogystal â nodweddion colostrwm o ran imiwnedd, mae hefyd yn hanfodol i ŵyn sugno’r braster a’r egni sydd mewn colostrwm i helpu i gynhyrchu mwy o wres. Ond, mae ŵyn llai yn llai effeithiol wrth sugno ac felly nid ydynt yn gallu sugno’r cyfanswm gofynnol o golostrwm. Mae hyn yn fwy fyth o broblem mewn ŵyn sy’n cael eu geni allan, sydd, oherwydd y tymheredd is, angen mwy o golostrwm mewn cymhariaeth ag ŵyn sy’n cael eu geni dan do. Gall gefeilliaid waethygu’r broblem ymhellach, nid yn unig am eu bod yn aml yn cael eu geni yn llai, ond fel arfer mae llai o golostrwm i bob oen mewn cymhariaeth ag ŵyn sengl.

    

 

 

 

 

       

 

Ymddygiad

Mae’n bwysig deall ymddygiad mamogiaid ac ŵyn cyn ac ar ôl ŵyna i sicrhau bod perthynas dda rhwng y famog a’r oen yn cael ei llunio.

Cyn i ŵyna ddigwydd, mae mamogiaid yn chwilio am le addas i ŵyna ynddo, un cysgodol os yn bosibl i gynorthwyo gallu’r oen i reoli gwres. Felly, wrth benderfynu ble y bydd mamogiaid yn ŵyna, boed dan do neu allan, gwnewch yn siŵr bob amser bod digon o fannau, o ran maint y ddiadell, sydd wedi eu cysgodi a lle gall mamogiaid symud oddi wrth weddill y ddiadell. Os nad oes digon o fannau ŵyna, mae mamogiaid yn fwy tebygol o ŵyna yn agos at ei gilydd ac fe all yr ŵyn gymysgu a gall y safleoedd gael eu llygru. Bydd darparu cysgod cyn ŵyna yn sicrhau bod y mamogiaid yn arfer â nhw ac yn debygol o gynyddu eu defnydd.

Sicrhewch bob amser nad oes gan y mamogiaid ddiffyg cobalt cyn mynd at yr hwrdd ac yn eu beichiogrwydd cynnar. Mae cobalt yn hanfodol o ran ffurfio fitamin B12 ac mae fitamin B12 yn angenrheidiol o ran datblygiad cynnar y ffoetws. Dangoswyd bod mamogiaid sy’n cael eu cymell i gynhyrchu llawer o wyau ar borfa sy’n brin o gobalt yn cynhyrchu ŵyn llai symudol, mewn cymhariaeth â mamogiaid sy’n derbyn y lefel a argymhellir o gobalt. Bydd gwella bywiogrwydd yr oen yn helpu i ddatblygu’r berthynas rhwng y famog â’r oen.

Er mwyn rhoi digon o amser i’r berthynas ddatblygu, dylai’r famog aros yn yr ardal ŵyna. Dylai’r famog ddatblygu’r gallu i adnabod arogl ei hŵyn yn yr hanner awr cyntaf ar ôl ŵyna. Bydd y broses o lunio’r berthynas yn cychwyn trwy lyfu’r hylifau geni a sychu’r oen. Os na fydd y berthynas yma’n datblygu bydd yr oen yn methu sugno gan na fydd y famog yn ei adnabod fel ei hoen ei hun.

Dangoswyd bod gwella bywiogrwydd oen trwy ddethol genynnol yn rhywbeth y gellir ei etifeddu i ryw raddau, ac felly gellid ei ddewis fel nodwedd i wella’r nifer o ŵyn sy’n goroesi. Trwy wella bywiogrwydd, bydd ŵyn yn ei chael hi’n haws i sefyll yn gynnar, a bydd hyn yn helpu i leihau faint o wres sy’n cael ei golli, ond hefyd mae’n gam cyntaf tuag at fedru mynd at y pwrs i sugno. Cyntaf yn y bydd y bydd yr oen yn cyrraedd y pwrs a sugno, y mwyaf tebygol yw o oroesi. Os yn bosibl, dylai’r oen sugno am y tro cyntaf cyn pen 2 awr ar ôl ei eni.

Iechyd

Mae ar ŵyn angen imiwnedd goddefol gan eu mam trwy gymryd colostrwm yn y 24 awr cyntaf ar ôl eu geni. Nid oes gan y rhai nad ydynt yn yfed digon o golostrwm ddigon o wrthgyrff y mae’r colostrwm yn eu rhoi, sydd wedyn yn cael ei gysylltu â marwolaethau mewn ŵyn. Felly, mae cynhyrchu colostrwm o ansawdd da yn bwysig, fel y mae gallu’r oen i sugno.

Ac eto mae ansawdd colostrwm yn amrywio, o fewn y ddiadell hyd yn oed. Adroddir bod cymaint â 22% o famogiaid ar ffermydd yn cynhyrchu colostrwm nad yw’n ddigonol ar gyfer yr oen (<50 g/L immunoglobulin G). Mae nifer o ffactorau yn gysylltiedig â’r famog sy’n effeithio ar ansawdd colostrwm, ond y prif ffactor dan reolaeth y ffermwr yw’r maeth sy’n cael ei ddarparu tua diwedd y beichiogrwydd.

Dangosodd ymchwil diweddar ar ffermydd ei bod yn well i ŵyn sugno colostrwm eu hunain. Mae gan ddiadelloedd sy’n cael colostrwm trwy diwb gyfraddau marwolaeth uwch, y gellid eu tadogi i heintiadau sy’n cael eu trosglwyddo trwy’r tiwb. Os bydd angen i chi roi colostrwm trwy diwb, sicrhewch bod gennych ddigon o diwbiau yn barod a’u bod wedi eu diheintio yn iawn cyn eu defnyddio.

Rhaid i lanweithdra gael ei gynnal trwy’r cyfnod ŵyna i atal heintiadau rhag gwasgaru, yn arbennig mewn systemau dan do. Mae’n ymddangos y dylai’r prif bwyslais yn ystod y cyfnod hwn fod ar arferion rheoli, yn hytrach na’r siediau eu hunain, i leihau’r llwyth o bathogenau. Dylid rhoi deunydd glân bob dydd yn y corlannau ŵyna yn ystod y cyfnod newydd i’r ŵyn gael eu geni. Mae camau bioddiogelwch yn hanfodol yn ystod y cyfnod ŵyna i leihau’r nifer o bathogenau sy’n cael eu rhoi i’r ŵyn a’u mamau.

Maethiad       

Mae tan-borthi mamogiaid allan yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd oherwydd y diffyg porfa llawn maetholion yn ystod y gaeaf. Mae mamogiaid sydd dan eu pwysau cyn mynd at yr hwrdd yn llai tebygol o fedru ymdopi â diffyg maeth yn ystod y beichiogrwydd, gan bod ganddynt lai o fraster wrth gefn i dynnu arno. Felly mae sgorio cyflwr corff cyson o gwmpas y cyfnod troi at yr hwrdd yn bwysig. Mae gwaith ar ddangosyddion perfformiad allweddol yn AHDB Beef and Lamb yn cynghori anelu at sgôr cyflwr corff wrth droi at yr hwrdd o 2.5 i ddefaid mynydd; 3 i’r ucheldir 3.5 i’r tir isel, bydd hyn hefyd yn cynyddu pwysau’r ŵyn wrth eu diddyfnu. Ond mae adolygiad diweddar o lenyddiaeth wyddonol wedi dod i’r casgliad, os bydd mamogiaid yn dioddef tanfaethiad yn nhraean olaf y beichiogrwydd, byddant yn gyson yn cynhyrchu ŵyn sy’n pwyso llai wrth eu geni. Ond, os byddant yn dioddef tanfaethiad yn nau draean cyntaf y beichiogrwydd, ni welir effaith cyson ar bwysau’r ŵyn wrth eu geni. Mae bridiau sydd wedi addasu’n well i fyw allan mewn tywydd garw yn gallu ymdopi â thanfaethiad ar ddechrau’r beichiogrwydd mewn cymhariaeth â bridiau sy’n cael eu dewis o ran eu tyfiant. Dylai’r math yma o wybodaeth fod yn sail i reolaeth ar ffermydd wrth benderfynu a ddylid defnyddio ŵyna dan do neu allan.

Ystyriaeth arall yw effaith maethiad ar ansawdd y colostrwm sy’n cael ei gynhyrchu. Gall proffilio metabolig dair wythnos cyn ŵyna fod yn ddefnyddiol i ymchwilio i gyflwr y mamogiaid o ran maeth. Ar dair wythnos mae digon o amser o hyd i addasu’r maethiad i wella’r colostrwm.

Gall fod yn demtasiwn gor-borthi i sicrhau bod y mamogiaid yn cael y maeth y mae arnynt ei angen i geisio cael pwysau ŵyn gwell wrth eu geni. Ond, nid yw hyn yn wir gan fod problemau hefyd o or-borthi. Mae’n ymddangos hefyd bod amrediad pwysau gorau a bod mwy o risg y bydd ŵyn sy’n cael eu geni y naill ochr neu’r llall i’r amrediad yn marw. Mae hyn yn benodol i frîd, er enghraifft, dangosodd prosiect yn yr Alban, i ddafad ben-ddu’r Alban, mai’r pwysau gorau yw rhwng 3 a 5kg. Mae’r rhai sy’n cael eu geni yn drymach na hyn yn fwy tebygol o gael problemau wrth eu geni.

Beth am eneteg?

Mae dewis o ran goroesiad ŵyn yn helpu i wella lles anifeiliaid ar y fferm, ond, mae digon o dystiolaeth nad yw'r nodwedd goroesiad ŵyn ei hun yn un sy’n cael ei hetifeddu yn rhwydd. Ac eto mae rhai nodweddion na fydd yn helpu i gynyddu goroesiad yr oen ond hefyd gallant ofyn am ymyrraeth yn ystod y cyfnod ŵyna. Bydd hyn yn cynyddu cynhyrchiant, gan leihau costau llafur hefyd. Mae nodweddion o’r fath yn cynnwys bywiogrwydd yr oen a rhwyddineb ŵyna. Mae ymchwil yn cael ei gynnal i eneteg goroesiad ŵyn, gyda’r bwriad o ddatblygu gwerthoedd bridio genomig, er y bydd yn rhaid i’r rhain fod yn benodol i frîd. Bydd ymchwil o’r fath yn gallu cynyddu’r budd genynnol yn y sector defaid i helpu i leihau’r nifer o farwolaethau ymhlith ŵyn.

Wrth ddatblygu cynllun iechyd diadell gyda’ch milfeddyg, ystyriwch y problemau a drafodwyd yn yr erthygl hon. Cofiwch gysylltu â’ch milfeddyg i gael cyngor neu wybodaeth am unrhyw broblemau o ran iechyd ŵyn ac afiechydon.

Am ragor o wybodaeth gweler llyfryn yr HCC Making every lamb count’.