Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Manteision gwrychoedd a choed ar gyfer amaethyddiaeth

Gan William Stiles, IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Mae clytiau coetir a gwrychoedd yn gydrannau hanfodol o’r ecosystem-amaeth. Mae adnodd coed a gwrychoedd ar ffermydd wedi dirywio yn y DU yn yr ugeinfed ganrif, yn bennaf oherwydd dwysáu amaethyddol sydd wedi hyrwyddo creu systemau caeau mwy a symlach. Gallai’r golled hon leihau darpariaeth gwasanaeth ecosystem a bioamrywiaeth mewn systemau da byw ac âr, a gallai hefyd gael effaith negyddol o ran cynhyrchiant.

Prif swyddogaethau gwrychoedd yw er mwyn rheoli stoc neu i nodi ffiniau tir. Mae gwrychoedd hefyd yn cynrychioli adnodd cynefin sy'n arbennig o bwysig ar gyfer rhywogaethau yn yr ecosystem-amaeth, a fyddai'n cael trafferth i barhau mewn systemau caeau wedi'u rheoli. Fel y cyfryw, i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn, pasiwyd deddfwriaeth ym 1997 sydd wedi llwyddo i leihau tynnu gwrychoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae ailsefydlu neu amnewid gwrychoedd a chlytiau coetir ar ffermydd yn parhau i fod yn faes i'w ddatblygu, ond mae ganddo botensial mawr i ddarparu nifer o fanteision economaidd, ecolegol ac amgylcheddol.

Cysgod a bioddiogelwch

Gall y manteision sy'n deillio o argaeledd cysgod a lloches fod yn enfawr i dda byw. Mae eithafion gwres ac oerfel yn nodwedd o hinsawdd dymhorol y DU sy'n gallu effeithio ar gynhyrchiant. Gall cysgod gynyddu cyfraddau goroesi ŵyn trwy leihau effaith oerfel gwynt ac felly hypothermia, yn enwedig yn y cyfnod cynnar ar ôl genedigaeth, a gall leihau gofynion bwyd ym misoedd y gaeaf oherwydd bydd da byw sy'n agored i amodau oer angen mwy o fwyd i gadw'n gynnes. Ym misoedd yr haf, gall straen gwres leihau cynhyrchiant llaeth mewn buchesi godro a gall gael effaith andwyol ar nifer o swyddogaethau biolegol sy'n ymwneud â chynhyrchiant mewn defaid a gwartheg, gan gynnwys ffrwythlondeb. 

Hefyd gall iechyd anifeiliaid gael ei wella trwy ostyngiadau mewn dŵr sy'n sefyll o ganlyniad i gyfraddau ymdreiddio uwch sy'n gysylltiedig â mwy o orchudd coed a gwrychoedd. Yn ei dro, gallai lleihad mewn amodau llaith mewn caeau leihau nifer yr achosion o gloffni, sy'n cael ei achosi gan feddalu'r lle rhwng y bysedd gan arwain at fwy o heintiau traed, a llyngyr yr iau, trwy leihad ym mhresenoldeb malwod sy'n cludo'r parasitiaid.

Hefyd gall gwrych trwchus sy'n gwrthsefyll stoc gynnig rhwystr i ledaeniad clefyd oherwydd y bydd yn lleihau cyswllt anifail i anifail sef prif fector trosglwyddo clefydau rhwng ffermydd a rhwng da byw. Mae’n bosibl y gall plannu coed, hyd yn oed ar raddfa fach fel lleiniau cysgod, fod yn fwy effeithiol oherwydd y gwahaniad gwirioneddol mwy rhwng caeau, ac felly rhwng diadellau neu fuchesi. Wrth gwrs, dylid nodi nad yw hyn yn gyfystyr ag amddiffyniad llwyr rhag lledaeniad clefyd, ond mae'n un o blith nifer o ddulliau gweithredu sy'n gallu helpu i leihau nifer yr achosion o glefyd.

Gwell gwasanaethau ecosystem

Gall darpariaeth gwrychoedd a choetiroedd ar ffermydd gynyddu darpariaeth gwasanaethau ecosystem, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol: yn uniongyrchol, gall gwrychoedd a chlytiau coetir gynyddu'r potensial ar gyfer dal carbon a'i storio mewn biomas coediog, a thrwy wella cyfraddau ymdreiddiad dŵr i bridd, gan leihau'r potensial ar gyfer llifogydd; yn anuniongyrchol, gallant gynyddu'r cynefin sydd ar gael ar gyfer bywyd gwyllt hanfodol, gan gynnwys rhywogaethau sy'n ymgymryd â pheillio neu'n gweithredu fel rheolwyr naturiol ar rywogaethau pla arall.

Mae cynhyrchu bwyd o gnydau yn dibynnu ar beillio gan bryfed. Mae rhai cnydau fel afalau bron yn hollol ddibynnol ar beillio gan bryfed. Amcangyfrifwyd bod gwasanaethau peillio yn arbed rhwng £430 – 603 miliwn i'r DU bob blwyddyn (yn 2007/2010), ac er y dylid trin y ffigyrau hyn â phwyll oherwydd derbynnir eu bod yn amcangyfrifon ar eu gorau, mae'n debyg bod y manteision economaidd sy'n deillio o beillio gan bryfed yn sylweddol. Mae gwenyn mêl sy'n cael eu rheoli yn gydran hanfodol o beillio, fodd bynnag ar hyn o bryd mae poblogaethau'n agored i niwed gan fygythiadau o glefyd a defnydd o blaladdwyr, gan wneud poblogaethau peillwyr gwyllt yn gynyddol bwysig. Felly, mae angen ystyried y grwpiau hyn yn bwyllog wrth benderfynu ar ddulliau o reoli tir a allai ddylanwadu ar boblogaethau peillio gwyllt a rhai a reolir.

Ceir dylanwad cadarnhaol ar helaethrwydd ac amrywiaeth rhywogaethau a fyddai'n cyfrannu at reoli biolegol gan gyfleoedd cynefin amrywiol, fel y rheiny y mae gwrychoedd a chlytiau coetir yn eu cynnig. Felly gall cynyddu'r adnodd o wrychoedd a choetiroedd gynyddu poblogaethau o rywogaethau ysglyfaethwyr a gelynion naturiol plâu, sy'n gallu gwella'r potensial ar gyfer rheoli biolegol a lleihau'r angen am fewnbwn ffermwr neu ddefnyddio plaladdwyr. Mae rheoli biolegol yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan rywogaeth o adar tir fferm ac infertebratau ysglyfaethus, fel corynnod a chwilod ysglyfaethus, oherwydd bod y grwpiau hyn yn bwydo ar rywogaethau plâu, ac felly'n cyfyngu eu poblogaethau.

Mae cynhyrchu cynhyrchion fel pren hefyd yn wasanaeth ecosystem sy'n cael ei ddarparu trwy gynyddu'r adnodd o goetiroedd ar fferm. Felly ni fyddai unrhyw gynllun plannu coed yn gyfystyr â thir a gollwyd trwy gynhyrchu, oherwydd yn y pen draw gellir defnyddio'r biomas a gynhyrchwyd at ddibenion masnachol tanwydd neu gynhyrchu pren. O ganlyniad, ceir nifer o fanteision masnachol y gellir eu gwireddu trwy gynyddu'r adnodd o goetiroedd a gwrychoedd ar dir fferm.

Bioamrywiaeth

Gall adnoddau gwrychoedd a choed gynyddu cyfleoedd cynefin ac argaeledd porthiant ar ffurf blodau a ffrwythau ar gyfer grwpiau bywyd gwyllt pwysig, fel rhywogaethau peillio ac adar tir fferm. Mae gwelliannau yn argaeledd safle nythu neu adnoddau bwyd yn golygu bod poblogaethau mwy o rywogaethau yn y gadwyn fwyd drwyddi draw, oherwydd bod egni'n cael ei drosglwyddo o'r gwaelod i fyny i lefelau troffig uwch; neu'n symlach: mae mwy o flodau a phorthiant, yn golygu mwy o chwilod, yn golygu mwy o adar (neu anifeiliaid eraill).

Mae'r dylanwad hwn ar ei fwyaf mewn sefyllfaoedd lle mae gwrychoedd a chlytiau coetir yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau a mathau. Gallu plannu rhywogaethau cymysg gynnig amrywiaeth eang o borthiant, gyda gwahanol opsiynau bwyd ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys amrywiaeth mwy sefydlog o adnoddau. Gall hyn fod o fudd uniongyrchol o ran cynhyrchu tir fferm, trwy fuddsoddiadau yn y gyfradd peillio cnydau neu reoli naturiol ar rywogaethau plâu.

I wella argaeledd adnoddau ymhellach, dylid ymgymryd â rheolaeth megis torri gwrychoedd yn ofalus. Gall tocio gwrychoedd yn yr hydref dynnu adnoddau aeron a lleihau'r potensial ar gyfer porthiant ym misoedd y gaeaf, gyda chanlyniadau negyddol ar gyfer gaeafu rhywogaethau adar. Gellir osgoi hyn trwy oedi trefnau torri hyd fis Chwefror i fis Mawrth, erbyn hynny bydd y cnwd aeron wedi cael ei ddefnyddio a theneuo'n naturiol.

Ar raddfa dirwedd, mae'n bosibl bod cynyddu adnodd gwrychoedd a chlytiau coetir yn gwella'r cysylltedd rhwng clytiau o gynefin a oedd arfer bod yn ddi-dor. Mae cysylltedd cynefin yn angenrheidiol o ran bioamrywiaeth trwy gysylltu clytiau cynefino a chaniatáu symudiad rhywogaethau a allai, fel arall, fynd yn ynysig ac yn agored i niwed trwy ddirywio. Gall gwrychoedd weithredu fel coridorau y gall bywyd gwyllt symud ar eu hyd, gan leihau effaith darnio cynefin ac ynysu. Dyma gysyniad pwysig yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd lle gallai colli cysylltedd cynefin arwain at rwystrau i symudiad, sy'n atal gwasgaru rhywogaeth sydd angen symud (yn nodweddiadol) i'r gogledd wrth i'r hinsawdd newid.

Yn gyffredinol, gall coed a gwrychoedd ddarparu nifer o fanteision economaidd, ecolegol ac amgylcheddol. Disgwylir y bydd ecosystemau-amaeth yn destun i newid amgylcheddol sylweddol yn y blynyddoedd a’r degawdau sydd ar ddod. Ceir dadleuon economaidd cryf dros gynyddu presenoldeb ac argaeledd adnoddau gwrychoedd a choed, ar ffurf lleiniau cysgod a chlytiau o goetir, a allai gynyddu darpariaeth gwasanaeth ecosystem a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd. O ganlyniad bydd hyn yn hwyluso canlyniad sy’n hunan wasanaethu o leihau'r effaith amgylcheddol presennol, y disgwylir y bydd yn cael effaith sylweddol ar amaethyddiaeth y DU yn y blynyddoedd i ddod. Trwy blannu coed a gwrychoedd, mae gan reolwyr tir gyfle i fanteisio i'r eithaf ar ffordd syml a fforddiadwy o sicrhau bod tirweddau'n addas yn y dyfodol i wrthsefyll newidiadau o ran tywydd a hinsawdd, megis mwy o wlybaniaeth, a thrwy wneud hyn yn lleihau effeithiau amgylcheddol yfory wrth elwa o enillion economaidd mewn termau real heddiw.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma