Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Potensial coed a gwrychoedd ar gyfer lleihau amlder ac effaith llifogydd yn y DU

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


  • Mae’r posibilrwydd o weld achosion o lifogydd yn cynyddu o ganlyniad i arferion rheolaeth amaethyddol a newid hinsawdd.
  • Gall plannu coed a gwrychoedd gynyddu cyfradd ymdreiddiad dŵr yn sylweddol i’r pridd, a’i storio wedi hynny.
  • Mae hyn yn lleihau’r potensial ar gyfer dŵr ffo a llif dŵr dros y tir, sy’n ffactor allweddol wrth leihau brig llifogydd.

Mae llifogydd wedi dod yn broblem ddifrifol i’r DU dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llifogydd difrifol iawn, a fu unwaith yn anghyffredin, bellach yn dod yn fwy a mwy cyffredin. Mewn ymateb i hynny, mae ymdrech sylweddol wedi cael ei wneud i ymchwilio a chanfod y ffactorau sy’n cyfrannu at yr effaith er mwyn gallu gweithredu strategaethau rheolaeth addas.

Y prif ffactorau sy’n cael eu derbyn i achosi cynnydd mewn perygl o lifogydd yn y DU yw newid hinsawdd ac arferion rheoli tir amaethyddol presennol. Mae rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn y DU yn dangos bod achosion o dywydd eithafol yn debygol o ddigwydd yn amlach. Disgwylir i batrymau glawiad newid yn benodol, gyda rhagolygon y bydd achosion o ddilyw yn dod yn fwy rheolaidd ac yn fwy difrifol gan arwain at fwy o siawns o lifogydd. Yn ogystal, mae newidiadau i reolaeth tir fel rhan o’r symudiad tuag at ddwysau amaethyddiaeth yn ystod hanner olaf yr 20fed Ganrif wedi arwain at gynnydd mewn draeniad tir, cyfraddau stocio da byw, a gwaredu gwrychoedd, er mwyn creu systemau caeau symlach a mwy o faint. Mae hynny yn ei dro wedi arwain at addasu tirlun y DU yn sylweddol.

 

Y rheswm dros lifogydd

Gall lleihad mewn ymdreiddiad dŵr a chynnydd mewn cyfraddau dŵr ffo ddigwydd pan fo cyfraddau stocio da byw yn uchel. Mae cyfraddau dŵr ffo lleol yn uwch o ganlyniad i leihad yng nghyfradd ymdreiddiad pridd, mandylledd, a dargludedd hydrolig, ynghyd â chynnydd mewn dwysedd swmp pridd, o ganlyniad i effeithiau cywasgiad. Yn ogystal, pan fo’r gyfradd pori’n uchel, gall lleihad yn y strwythur llystyfiant gyfyngu ar gyfradd storio rhyng-gipiad y canopi (pan fo dŵr yn glanio ar arwynebedd y dail, sy’n gallu bod cymaint â 10-25% o’r glawiad gros ar gyfer coed llydanddail) a gall absenoldeb rhywogaethau coed gyda gwreiddiau dwfn neu fawr leihau gallu prosesau naturiol i leihau effeithiau cywasgiad.

Gall draeniad tir gael dylanwad helaeth ar ba mor sydyn y mae dŵr yn cyrraedd systemau afonydd. Yng nghyd-destun cynhyrchu glaswelltir dwys, gall draeniau o dan wyneb y caeau effeithio ar brosesau hydrolegol naturiol yn ogystal â chynyddu effaith llif yn ei anterth, o ganlyniad i’r dŵr yn symud ynghynt o’r tir i’r afon. Mae effaith tebyg hefyd wedi cael ei nodi ar gyfer draeniad rhostir, sydd wedi cael ei gysylltu â chynnydd mewn amlder llifogydd. Fodd bynnag, mae’r dylanwad hwn yn llai pendant gan fod peth anghydweld ynglŷn â chanlyniadau rhwng gwahanol astudiaethau, sy’n debygol o fod o ganlyniad i wahaniaeth yn y mathau o bridd rhwng lleoliadau a lefelau lleithder cychwynnol y pridd.

Yn gyffredinol, mae adnoddau coetir (term sydd hefyd yn cynnwys plannu coed ar raddfa fechan megis lleiniau cysgod pan ddefnyddir y term yn y cyd-destun hwn) ar draws y DU wedi cynyddu ers dechrau’r 1900au. Ar ei isaf, roedd y gorchudd ar tua 5%, ac fe amcangyfrifir bod gorchudd bellach oddeutu 14% yng Nghymru a 13% ar gyfer y DU. Er bod coetir a gorchudd coed wedi cynyddu dros y ganrif ddiwethaf, mae Cymru a’r DU yn dal i fod ymysg y gwledydd gyda’r lleiaf o goedwigoedd yn Ewrop, lle mae’r gorchudd coed cyfartalog yn 37%. Yn ogystal â cholli coetiroedd a gwrychoedd, mae niferoedd coed mawr neu hen mewn caeau hefyd wedi lleihau gan nad oes llawer o rai newydd yn cael eu rhoi yn eu lle, ac mai prin iawn yw’r potensial i dyfu’n naturiol. Mae’n bosib mai colli llystyfiant mawr ar draws systemau amaethyddol, a’r dylanwad posib y gall hynny ei gael ar hydroleg, yn un o’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar y posibilrwydd o lifogydd.

 

Sut mae gwrychoedd ac adnoddau coetir yn lleihau effaith llifogydd?

Gall coetiroedd a gwrychoedd leihau uchafbwynt llif dŵr yn sylweddol mewn sawl ffordd gan gynnwys cynnydd mewn colledion  trwy anweddiad (yn enwedig ar ôl rhyng-gipiad yn y canopi), cynnydd yng ngallu’r pridd i storio dŵr o dan orchudd coed, cynnydd mewn potensial ymdreiddiad dŵr, a llai o ddwysedd swmp pridd o ganlyniad i dyfiant gwreiddiau.

Dangoswyd hyn trwy waith ymchwil a gynhaliwyd yn nalgylch Pontbren yng Nghymru, a fu'n canolbwyntio ar dirlun a fu'n cael ei reoli'n draddodiadol gan bori defaid, gyda choed a heb goed. Gwelwyd yma fod plannu llain gysgod o goed yn arwain at leihad o 40% ym maint brig llifogydd trwy gynyddu cyfradd ymdreiddad dŵr a ddangoswyd i fod drigain gwaith yn uwch lle'r oedd llain gysgod yn bresennol, gan leihau'r gyfradd llif dros y tir, sy'n cael ei ystyried yn allweddol o ran lleihau brig llifogydd.

Mae plannu gwrychoedd hefyd yn cynnig manteision tebyg ar gyfer lleihau effaith llifogydd. Mae gwrychoedd wedi’u profi i storio ac i ryddhau dŵr yn araf yn dilyn glawiad trwm iawn, gyda 50 metr o wrychoedd mewn cae 1ha yn gallu storio rhwng 150 a 375 metr ciwbig o ddŵr. Gall gwrychoedd a choed leihau cynnwys dŵr mewn pridd ar draws system cae waeth beth fo’r llethr, gan leihau cyfanswm y dŵr yn y tir yn yr ardal agosaf at wrychoedd neu leiniau cysgod. Mae hyn yn arwain at ddŵr yn cael ei dynnu o briddoedd cyfagos, gan gychwyn llif graddol tuag at y gwrychyn neu’r blanhigfa coed.

Mae rheolaeth a dyluniad yn bwysig iawn ar gyfer prosiectau plannu coed effeithiol. Gall patrwm y plannu effeithio’n sylweddol ar gyfradd ymdreiddiad, dwysedd swmp pridd a chyfradd rhyng-gipiad yn y canopi. Mae ymchwil wedi dangos y gallai plannu coed gyda’i gilydd mewn llwyn o 5-10 coeden gael effaith gadarnhaol ar gyfradd ymdreiddiad o’i gymharu â choed unigol sydd wedi eu plannu yng nghytbell. Gall presenoldeb da byw hefyd ddylanwadu ar raddfa’r effaith o ran lleihau llifogydd, o ganlyniad i effeithiau cywasgiad pan fo da byw yn ymgasglu wrth waelod coed ar gyfer cysgod. Gallai ymddygiad o’r fath leihau neu hyd yn oed waredu unrhyw effaith fanteisiol a ddaw trwy gynnydd yn nifer y coed, gan fod cyfraddau ymdreiddiad a dwysedd swmp pridd pan fo defaid yn bresennol yn debyg i ardaloedd heb orchudd coed. Mae hyn felly’n dangos bod angen ffensio o amgylch coed, boed wedi’u plannu gyda’i gilydd neu’n unigol, er mwyn cadw’r da byw oddi wrthynt. Gallai peidio â gwneud hyn fel rhan o unrhyw brosiect plannu coed at ddibenion rheoli llifogydd arwain at leihad sylweddol yn y manteision y byddech yn disgwyl eu gweld fel arall. Wrth gwrs, gallai hyn gyfyngu ar y cysgod a gynigir ar gyfer da byw rhag yr haul a’r glaw, ond gall barhau i gynnig cysgod rhag effeithiau oeri gyda’r gwynt.

 

Rheolaeth at y dyfodol

Mae gan y broses plannu lleiniau cysgod a gwrychoedd botensial i gynnig dull rheoli tir a fyddai’n gallu lleihau effaith llifogydd, gydag effaith bychan iawn ar gynhyrchiant amaethyddol, gan fod y raddfa blannu angenrheidiol ar gyfer sicrhau’r canlyniadau a amlygir uchod yn gymharol fychan. Yn ogystal, gall plannu lleiniau cysgod a gwrychoedd gynnig nifer o fanteision cysylltiedig o ran cynhyrchiant ac effaith amgylcheddol a ellir eu hystyried i fod o fudd. Hefyd, mae'n debygol y bydd y canlyniadau hyn yn cael eu gwireddu'n sydyn gan fod newidiadau yn y gyfradd ymdreiddiad we’i eu gweld i ddigwydd yn y tymor byr (2-6 blynedd o dwf planhigion), gan ddiogelu dalgylchoedd yn erbyn achosion o law mawr.

Yn ogystal â’r dull hwn, mae’n bosib y byddai strategaethau sy’n cynnwys y broses o blannu coed gyda phlannu rhywogaethau glaswellt megis Festulolium (glaswellt hybrid gyda system wreiddiau mawr a ddatblygwyd gan IBERS a Rothamstead Research, sy’n lleihau dŵr ffo yn effeithiol trwy wella’r gyfradd ymdreiddad dŵr), yn cynnig hyd yn oed mwy o botensial i gyfyngu ar yr effeithiau newid hinsawdd a ragwelir yn y dyfodol.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl hon.