Fedw Arian Uchaf, Rhyd Uchaf, Y Bala, Gwynedd

Prosiect Safle Ffocws: Cynhyrchu i’r eithaf ar fferm fynydd organig

Amcanion y prosiect:

  • Ceisio cynhyrchu’r mwyaf o ddeunydd sych ag sy’n bosibl o ardaloedd cynhyrchiol y fferm fynydd drwy edrych ar opsiynau cnydau porthiant a glaswellt, yn bennaf ar gyfer pori.
  • Nodi’r ardaloedd llai cynhyrchiol (llethrau serth a ger ffosydd) ac ystyried opsiynau fel plannu coed i greu cysgod a chynefinoedd ychwanegol.
  • Cael elw ar y buddsoddiad.

Beth fyddant yn ei wneud:

Ar ôl profi’r pridd, bydd cae 8 hectar gwndwn tymor byr yn cael ei rannu’n 3 rhan a’u plannu ddiwedd mis Awst/dechrau Medi â

  1. Westerwold
  2. Rhygwellt Eidalaidd
  3. Rhyg porthiant
     

Bydd faint o ddeunydd sych a gynhyrchir (drwy gewyll cau allan) ac ansawdd y glaswellt (anfon samplau i’w dadansoddi) yn cael eu monitro mewn 3 chyfnod gwahanol -  

  1. porfa diwedd hydref
  2. porfa dechrau’r gwanwyn
  3. cnwd silwair
     

Bydd Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio hefyd yn gwerthuso’r fferm ac yn creu cynllun rheoli coetir i amlygu ardaloedd lle gallai plannu coed fod yn opsiwn; bydd hefyd yn cynghori ar y mathau mwyaf priodol a sut i’w rheoli.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Market Hall
Prosiect Safle Ffocws: Brechiad Hunangenedledig - Mycoplasma
Penrallt
Llantwyd, Aberteifi, Sir Benfro Prosiect Safle Ffocws: Diogelu
Rhiwlas
Bala, Gwynedd Prosiect(au) Safle Ffocws: Rheoli Darbodus yn y