Ffordd Bethel, Caernarfon

Prosiect Safle Ffocws: Trosi uned bori sefydlog bîff a defaid i system bori gylchdro

Nodau’r prosiect:

  • I ddangos y broses o drosi uned bori sefydlog bîff a defaid i system bori gylchdro a’r manteision cysylltiedig.
  • Bydd y prosiect yn amlygu’r holl ystyriaethau ymarferol wrth rannu’r fferm yn ddarnau a gosod y seilwaith perthnasol a chynnig patrwm ar gyfer gwaith trosi o’r fath.
  • Er gwaethaf y potensial y gall pori cylchdro wella’r defnydd o laswellt, ei dyfiant a’i ansawdd, eithriad yw’r systemau yma ar ffermydd bîff a defaid yn hytrach na’r drefn arferol. Bydd y prosiect yn ymdrin â her rheoli porthiant i ddefaid a gwartheg a chynnig atebion ymarferol i systemau cymysg.
  • Bydd cost yr hectar sefydlu system o’r fath yn cael ei gofnodi, ynghyd â chynnydd pwysau dyddiol yr ŵyn. Defnyddir data cofnodi perfformiad hanesyddol i werthuso pa effaith y bydd trosi o bori sefydlog i bori cylchdro yn ei gael ar berfformiad yr anifeiliaid.
  • Bydd tyfiant ac ansawdd y glaswellt yn cael eu monitro trwy gydol y prosiect a bydd yr elw ar y buddsoddiad yn cael ei asesu.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu