Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio - Ymgeiswyr Llwyddiannus 2016/2017

Abi Reader, Bro Morgannwg

Mae Abi Reader yn ffermwr llaeth ym Mro Morgannwg.   Bwriad y cyn aelod o’r Academi Amaeth hon yw ymweld â Sweden, Iwerddon a’r Alban i ddysgu rhagor am waredu BVD.

Mae Abi yn awyddus i gael amrywiaeth eang o syniadau o ran rheoli afiechydon a bioddiogelwch ar y fferm ac mae am ddysgu sut y mae gwledydd eraill yn ymdrin â chyfathrebu a’u cynlluniau rheoli. Ei nod yw dysgu beth yw’r ffordd orau i werthu’r cynllun i ffermwyr yng Nghymru trwy ddod o hyd i’r gymysgedd orau o sianeli a all gynnwys cyfarfodydd, cyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd, prynwyr llaeth ac ati. Mae’n gobeithio y bydd ei harbenigedd hi ei hun ynghyd â’r gwersi ychwanegol o’r ymweliad cyfnewid hwn, yn gadael iddi ddod yn fentor yn Rhaglen Waredu BVD Cymru. 

Dei Davies, Treffynnon, Sir y Fflint

Ffermwr llaeth yw Dei Davies sy’n bwriadu mynd ar ymweliad cyfnewid gyda ffermwr yn Iwerddon sydd hefyd yn gweithredu system laeth sy’n lloea mewn blociau. Mae Dei am ddysgu rhagor am y gwahanol ddewisiadau i gael y fuches i gymryd tarw yn well, yn arbennig yn yr ail rownd, fel ei fod yn gallu gwella ei lefelau elw ei hun.

Cred mai un o’r prif yrwyr o ran elw ar fferm laeth yw bylchau rhwng lloeau a rhaid i fuches sy’n lloea mewn blociau, yn ei hanfod, gadw at 365 gan mai dyma sy’n cael ei ystyried fel y bwlch gorau i fedru cadw mewn bloc.

Mae’n gobeithio dysgu rhagor am ddulliau sy’n gwella cyfraddau cyfebu i lefel sy’n sicrhau eu bod yn gallu cael cyfraddau lloea ar 90% ar 9 wythnos neu well heb ddefnyddio teirw. Byddai hyn yn cynyddu proffidioldeb ei fuches o £4 y dydd am bob buwch sy’n gallu cadw at y bwlch lloea 365 diwrnod.

Eurig Jenkins, Talsarn, Ceredigion

Ffermwr llaeth yw Eurig Jenkins. Rheoli glaswelltir a gofalu am yr amgylchedd yw ei ddiddordebau arbennig. Mae hefyd yn awyddus i ddysgu rhagor am reoli staff. 

Dymuniad Eurig yw cyfnewid gyda ffermwyr profiadol, blaengar sy’n cyflogi staff ac yn cadw buches sy’n pori. Ei nod yw dysgu gan eraill sydd wedi darganfod sut i fod yn gystadleuol mewn cymhariaeth â chynhyrchwyr llaeth eraill. Mae’n credu hefyd y byddai o fudd iddo fynd i Gynhadledd ‘Positive Farmers’ yn Iwerddon lle mae’n gobeithio clywed am y datblygiadau diweddaraf o ran arloesedd ac ymchwil. 

 

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Eurig

Hugh Brookes, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin

Mae Hugh Brookes yn cadw defaid, moch a dofednod. Ei obaith yw ymweld ag Awstria i weld busnes moch arbenigol, Arche De Wiskentale, a fydd yn rhoi cyfle iddo ddysgu am fridio dethol, magu a chigydda’r brîd moch Mangalitza.

Mae’n awyddus i weld croes fapio ar y modd y gall ffynonellau maeth i foch, sy’n cynnwys cynnyrch gwastraff fel grawn bragwyr, maidd, caws a ffrwythau a llysiau dros ben, gael ei deilwrio i gyd-fynd â’r arfer gorau o ran strategaethau porthi, yn ôl oedran a diben y mochyn.

Bydd y wybodaeth a geir yn canolbwyntio i gychwyn ar Mangalitza, ond gobeithio y bydd iddi oblygiadau ehangach i fagu moch yng Nghymru, gan leihau gwastraff bwyd a thirlenwi o bosibl. Un rheswm am y gostyngiad mewn cadw moch yng Nghymru, yn yr un modd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yw’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i drafod pa fath o wastraff bwyd dynol y gellir ei roi i dda byw. Bydd gwybod pa wastraff y gellir ei ddefnyddio a hefyd sut i’w ddefnyddio yn effeithiol fel porthiant yn fantais ar sawl ffrynt gwahanol.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Hugh

James Powell, Llandrindod, Powys

Mae James Powell yn ffermwr bîff a defaid sy’n ffermio ger Llandrindod.  Gobaith James yw ymweld ag uned loeau yn Toledo, Sbaen i weld y ffordd y mae’r diwydiant lloeau yn gweithio a dywed bod y wyddoniaeth y mae Sbaenwyr yn ei defnyddio o ran iechyd, lles ac effeithlonrwydd twf cynnar eu lloeau yr orau yn y byd.  Mae’n edrych ymlaen at weld uned fodern sy’n cael ei hawyru yn awtomatig ac yn cael ei rheoli gan orsaf dywydd.

Ei obaith yw dysgu rhagor am y wyddoniaeth yn y diwydiant magu lloeau, y manteision iechyd o ran awyru a sut i gyflawni’r llif aer delfrydol a sicrhau bod y lloeau yn gyfforddus. Mae hefyd am ddeall integreiddio’r model busnes o’r porthiant cynnar a gynhyrchir, iechyd a lles hyd at fagu’r lloeau, i ddosbarthu’r cynnyrch terfynol ar y silffoedd adwerthu. 

John Yeomans, Y Drenewydd, Powys

Ffermwr bîff a defaid o’r Drenewydd yw John Yeomans. Gobaith John yw ymweld â Gogledd Iwerddon, Y Ffindir a’r Almaen yn ystod ei ymweliad cyfnewid i ehangu ei wybodaeth am reoli glaswelltir a dosbarthu carcasau. 

Ei nod yw dysgu am wneud gwell defnydd o laswellt a gwneud defnydd sydd wedi ei dargedu i raddau pellach o fewnbynnau eraill er mwyn lleihau faint o borthiant sy’n cael ei brynu i mewn. Bydd dysgu rhagor am strategaethau rheoli glaswelltir gwahanol yn ei alluogi i bennu pa ddulliau y gellid eu defnyddio ar ei fferm ei hun.

Cred John y byddai cael golwg ar ddosbarthu carcasau yn Iwerddon, y Deyrnas Unedig a’r Almaen yn helpu i symud pethau ymlaen yng Nghymru tuag at system ar sail cynnyrch. 

Rhodri Owen, Caernarfon

Mae Rhodri’n gweithio fel Rheolwr Fferm a Choedwigaeth yng Ngholeg Glynllifon. Mae’n gobeithio ymweld â gwledydd sy’n ymdrechu i wneud y defnydd gorau posibl o laswellt a geneteg da byw. Mae hefyd yn awyddus i ymweld â gwlad lai datblygedig er mwyn gweld a oes marchnad ar gyfer allforio geneteg o Gymru. 

Mae Rhodri’n credu y bydd y gyfnewidfa yn gyfle gwych i weld dulliau arloesol o ddefnyddio glaswellt a phorthiant a allai fod o fudd i’n system ffermio. Mae’n edrych ymlaen at rannu syniadau a gwybodaeth newydd gyda phobl eraill o’r un anian mewn gwledydd eraill yn ogystal â gwneud cysylltiadau newydd.

Mae gan Rhodri hefyd ddiddordeb mewn dysgu am y datblygiadau diweddaraf o ran pori a bwydo cnydau porthiant dros y gaeaf mewn gwledydd gwahanol. Mae hefyd yn gobeithio asesu’r farchnad posibl ar gyfer stoc bridio o Gymru, gan ganolbwyntio ar dda byw Cymreig cynhenid megis gwartheg Duon Cymreig, Moch Cymreig a mamogiaid bridio Llŷn. Mae Rhodri’n bwriadu rhannu ei brofiad a’i ganfyddiadau gyda staff a myfyrwyr yng Ngholeg Glynllifon a thu hwnt.

Richard Roderick, Scethrog, Powys

Fferm gymysg bîff, defaid a thir âr sydd gan Richard Roderick ger Aberhonddu. Ei fwriad yw ymweld â busnesau bîff arbennig yn yr Alban ac Iwerddon, lle mae’n dweud, er bod  cynhyrchu bîff yn debyg i Gymru, mae’n credu bod y ffermwyr yn arwain y ffordd o ran gorffen bîff ar gnydau pori yn y ddwy wlad.

Mae Richard yn awyddus iawn i ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ei fenter bîff ei hun a dywed y bydd ymweld ag amrywiaeth o’r buchesi sy’n perfformio orau yn ei alluogi i bennu’r rhain. 

Cred Richard y bydd proffidioldeb buchod magu yn y dyfodol yn dibynnu ar ffrwythlondeb, effeithlonrwydd o ran porthiant a’r eneteg gorau ac y bydd yn seiliedig ar system cnydau porthi. Mae am ddeall sut y mae’r ffermydd mwyaf llwyddiannus yn cofnodi data ac yn cael y wybodaeth berthnasol o’u meddalwedd rheoli fferm i’w galluogi i wneud y penderfyniadau gorau h.y. rhaglenni bridio, trefn borthi, cynlluniau iechyd anifeiliaid a dewis y cynnyrch terfynol a’i farchnata.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Richard

Robb Merchant, Y Fenni, Powys

Mae Robb Merchant yn tyfu ffrwythau a chynhyrchu gwin ac mae yn awyddus i gael dysgu rhagor am ychwanegu gwerth at ei gynnyrch a marchnata yn uniongyrchol. Mae Ffrainc a’r Almaen yn flaengar iawn o ran cynhyrchu gwin gyda llawer o winllannau llai yn llwyddo i gynhyrchu grawnwin eithriadol a gwinoedd o safon anhygoel.

Dros y blynyddoedd nesaf mae Robb yn gobeithio tyfu ei fusnes trwy gynyddu’r erwau o winwydd sy’n cael eu plannu, ac i sicrhau bod y gwinoedd o safon y mae ei fusnes yn adnabyddus amdano yn cael eu cynhyrchu yn barhaus i’r safonau uchaf posibl. Byddai’r ymweliad cyfnewid hwn yn rhoi cyfle i ddysgu am yr ystyriaethau ehangach o ran tyfu gwin o’r radd flaenaf, ond hefyd cynhyrchu gwin a’i gymysgu ar raddfa fechan mewn rhanbarth daearyddol penodol.

Ei obaith yw y bydd yr ymweliad cyfnewid yn dangos iddo beth mae cynhyrchwyr bach yn ei wneud yn eu gwinllannoedd i gynnal a chynyddu safon eu grawnwin a’u gwinoedd.  Mae’n awyddus hefyd i gael gwybod sut y mae gwinllannoedd bach yn gweithredu fel busnesau unigol neu mewn cwmni cydweithredol fel model busnes gwahanol. 

Tom Cowcher, Llandysul, Ceredigion

Cadw daliad cymysg bîff, defaid a thir âr yng Ngheredigion y mae Tom Cowcher, ac mae’n awyddus i weithio gyda’i fab sy’n bwriadu datblygu’r fferm.

Ymweld â’r Alban yw bwriad Tom i ddysgu sut y mae Amaeth-goedwigaeth yn cael ei ddefnyddio ac i ddysgu rhagor am reoli coetiroedd yn gynaliadwy. Mae amaeth-goedwigaeth yn gysyniad newydd sy’n cynnig manteision cyffrous.

Pwyslais tymor hir Tom yw gwella’r defnydd tir o ran coedwigaeth a thrwy ymweld â’r Alban, bydd yn gweld sut y gall coed fod yn gnwd gyda llu o fanteision, i wella da byw a chnydau tir âr.

Bydd yn awyddus iawn hefyd i ddysgu am gynnyrch heblaw coed fel ffrwythau, cnau a gwenyn mêl. Ar ôl cwblhau’r ymweliad cyfnewid, mae’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth a gaiff i wella’r rheolaeth ar goetir ar y fferm a gwneud gwell defnydd o’r holl adnoddau. 

David Jones, Llanofer, Y Fenni

Mae David Jones yn cadw fferm laeth, bîff a thir âr gymysg yn Llanofer.

Ei obaith yw ymweld â Vetvice, Canolfan Hyfforddi Arwyddion Gwartheg yn yr Iseldiroedd sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol a dibynadwy am siediau i wartheg llaeth a hwsmonaeth i ffermwyr llaeth trwy’r byd. Ystyrir Vetvice yn arweinydd byd-eang yn y maes hwn.

Ar hyn o bryd mae David yn y broses o ehangu buches laeth y fferm sy’n cynnwys trosi ysgubor fawr yn siediau llaeth gyda pheiriannau godro robotig.

Nod yr ymweliad yw mynd ar gwrs dylunio ysgubor ac i gael budd o gyngor dylunio ysgubor ar y fferm a fyddai’n galluogi ei fusnes i sicrhau iechyd y fuwch trwy lanweithdra, llai o bwysedd oddi wrth heintiadau a lleihau’r bygythiad oddi wrth afiechyd.

Mae hefyd am sicrhau bod y buchod mor gyfforddus â phosibl i wella eu lles, hyd eu hoes a’u cynnyrch.   Bwriad David yw rhannu ei ganfyddiadau gydag aelodau Grŵp Trafod Ffrwythlondeb Llaeth Cyswllt Ffermio trwy ddiwrnod agored ar y fferm gydag ymgynghorwyr Vetvice.

Alwyn Phillips, Bethel Road, Caernarfon

Sector: Bîff a Defaid

Manylion y gyfnewidfa:

Rwy’n dymuno ymweld â Sweden, Denmarc a’r Iseldiroedd i ddysgu rhagor am fanteision AI Ceg y Groth a semen wedi rhewi mewn defaid. Mae'r dechneg hon wedi datblygu ymhellach ac yn fwy eang yn y gwledydd hyn nag yn y Deyrnas Unedig. Hoffwn hefyd edrych ar gynhyrchu defaid a systemau cofnodi perfformiad yn y gwledydd hyn.

Pam gwnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am AI ceg y groth, semen wedi rhewi a gweld y dechnoleg ar waith, gan ddysgu sut y mae gwledydd eraill yn cael cymaint o lwyddiant. Mae gweld rhywbeth ar waith yn well na darllen amdano.

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Rwy’n gobeithio dysgu am wella cyfraddau cyfebu trwy ffrwythloniad ceg y groth i famogiaid gan ddefnyddio semen wedi rhewi.

Mae’r holl ffrwythloni ar famogiaid yng Nghymru gan ddefnyddio semen wedi rhewi trwy ffrwythloniad Laparoscopi, sy’n gorfod cael ei wneud gan filfeddyg ac mae’n ddrud ac yn ymyrryd llawer ar yr anifail. Gall AI Ceg y Groth gan ddefnyddio semen wedi rhewi gael ei wneud ar y fferm gan y ffarmwr a hynny am gostau llawer is. Byddai defnydd datblygedig a hygyrch o AI ceg y groth gan ddefnyddio semen wedi rhewi yn chwarae rôl allweddol i wella genomau defaid a gwella ansawdd y carcas a nodweddion mamol. Bydd gwella'r cysylltiadau rhwng diedyll a chynyddu cywirdeb cymharu EBV rhwng diedyll yn arwain at gyfradd gyflymach o enillion genetig.

Rwyf yn gobeithio casglu gwybodaeth am eu technegau, arbenigedd a’u hoffer arbenigol penodol a dod â’r wybodaeth a’r sgiliau adref fel eu bod yn cael eu rhannu er budd ehangach y diwydiant defaid yng Nghymru.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Alwyn

John Ceiriog Jones, Derwen, Corwen

Sector: Bîff a Defaid

Manylion y gyfnewidfa:

Ymweld ag Iwerddon i ymchwilio i’r defnydd o Cobalt i gynhyrchu defaid yn broffidiol trwy ymweld â ffermydd sy’n ymwneud â ‘Mayo Healthcare’ yn Westport County Mayo, Iwerddon, ynghyd â’r awdurdod Amaethyddiaeth a Datblygu Bwyd Teagasc, y ddau yn arweinwyr o ran datblygiadau blaengar yn y sector bwyd-amaeth. Ymweld hefyd â’r cynllun sicrhau ansawdd Gwyddelig ‘Bord Bia’.

Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Er mwyn ehangu fy ngwybodaeth am gynhyrchu defaid proffidiol ar ffermydd yr ucheldir yng Nghymru, a chael gwell dealltwriaeth o safonau sicrhau ansawdd yn Iwerddon.

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Rydym wedi dechrau edrych ar effaith defnyddio Cobalt ar y ddiadell yn Cilgoed a hefyd cneifio ŵyn yn 12 wythnos oed, i wella’r cynnydd pwysau byw dyddiol a lleihau’r defnydd o driniaethau cemegol i reoli pryfed. Rwyf yn hyderus y gall y sgiliau y byddaf yn eu dysgu yn rhai y gellir eu defnyddio i gynllunio at y dyfodol ar y fferm, a bod iddynt fwy o bosibiliadau i’r busnes.

Bydd gweld Teagasc yn monitro ffermydd a Mayo Healthcare Ltd yn fy ngalluogi i ddysgu am bynciau sy’n cael eu harchwilio yma ar hyn o bryd. Byddai’r wybodaeth a gaf yn galluogi ein busnes i weithredu syniadau newydd blaengar trwy eu rhoi ar waith, adeiladu ar y treialu cychwynnol ar folysau Cobalt, cneifio ŵyn a dewis cnydau.

Trwy ymweld â Bord Bia dwi’n gobeithio cymharu’r safonau rhwng Iwerddon a Chymru ar sicrhau ansawdd, ansawdd cynhyrchu bwyd a’r cyflenwad i’r farchnad. 

Gethin Owen, Betws-yn-Rhos, Abergele

Sector: Bîff a Defaid

Manylion y gyfnewidfa:

Cyfnewidfa i Ffrainc, y wlad gyda’r sector amaethyddol mwyaf ei faint a mwyaf amrywiol yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddo rai o’r sefydliadau ymchwilio amaethyddol gorau yn yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â thraddodiad o hybu arloesi a mynediad i’r diwydiant i bobl ifanc.

Pam wnaethoch chi ymgeisio am y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Rwy’n chwilio am gyfle i ddysgu mwy am amaethyddiaeth yn Ffrainc a dod i ddeall mwy am yr hyn sy’n ganolog i’r system, dysgu beth sy’n gwneud busnes llwyddiannus yno a gweld syniadau newydd y gallaf eu gweithredu adref.

Beth ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Ymweld â ffermwr blaengar sy’n awyddus i rannu gwybodaeth ac sydd â chysylltiadau da yn y rhwydwaith amaethyddol yng Nghanolbarth Ffrainc.

O bosib weithredu’r system ‘Charpentier’ ar ffermydd cymysg yng Nghymru sydd â chnwd gorchudd parhaol yn y cylchdro, y gellir ei defnyddio i besgi gwartheg a defaid. Rwy’n tyfu ŷd a meillion cochion yn rhan o gylchdro’r fferm, ond mae’r dull confensiynol o drin y tir yn dod â chostau uchel a pherygl o ddirywiad yn y pridd.

Hoffwn ddysgu sut i wneud cynhyrchu cig coch yng Nghymru’n fwy effeithiol drwy eneteg, rheoli glaswelltir a systemau cynhyrchu.

Mae meddylfryd cydweithredol cryf yn Ffrainc, felly bydd hwn yn gyfle i weld sut mae gwahanol fodelau o gydweithio’n gweithio, megis marchnata a rhannu peiriannau, ac i ganfod yr hyn y gallwn ei ddysgu gan y Ffrancwyr i gydweithio’n well yng Nghymru

I ddysgu am weithgareddau strategol sy’n hybu arloesedd mewn amaethyddiaeth yn Ffrainc.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Gethin

Lucy Allison, Rhoshill, Aberteifi

Sector: Llaeth

Manylion y gyfnewidfa:

Mae Iwerddon wedi buddsoddi llawer mewn ymchwil yn y diwydiant llaeth. Credaf y gallwn ddysgu llawer ganddynt, gan bod ganddynt hinsawdd ac amodau tebyg i ni.

Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth?

Mae’n gyfle gwych i deithio a dysgu am y diwydiant yr wyf yn angerddol amdano. Mae hefyd yn cynnig cyfle i drosglwyddo gwybodaeth yn ôl i ffermydd yng Ngorllewin Cymru, a all gael budd o’r ymchwil a wneir yn Teagasc.

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Yn ystod fy ymweliad rwy’n gobeithio deall dangosyddion perfformiad allweddol penodol sydd wedi cael eu gweithredu ar fferm laeth a’r canlyniadau a welwyd. Mae’r prosiect yn edrych ar roi’r sgiliau a’r dechnoleg angenrheidiol i ffermydd llaeth teuluol i greu elw ariannol boddhaol ar yr adnoddau a ddefnyddir ar y ffermydd ac i ddarparu adnoddau technegol iddynt a’r hyder i ymestyn y busnes llaeth yn broffidiol.

Mae’r targedau penodol i edrych arnynt yn cynnwys cynnydd yn y solidau llaeth a gynhyrchir gan bob buwch, i bob hectar ac i bob fferm, proffidioldeb cyffredinol y fferm, defnyddio amcangyfrif o werth bridio uchel o ran geneteg, rhaglenni rheoli iechyd y fuches a defnyddio nodiadau rheoli wythnosol. O’r wybodaeth hon rwy’n gobeithio gwella elw a chynhyrchiant y busnes fferm yn gynaliadwy.

Cliciwch yma i ddarllen blogs Lucy 

Michael Houlden, Sanclêr, Sir Gar

Sector: Defaid, Llaeth a Choedwigaeth

Manylion y gyfnewidfa:

Mae Ffrainc yn arwain y blaen o ran cynnyrch organig. Mae yno fusnesau cydweithredol sydd wedi hen sefydlu sy’n cynhyrchu tanwydd coed a chynnyrch coetir mewn ffordd gynaliadwy.

Pam gwnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

I gael profiad o weld sut mae cynhyrchwyr coetir llai eraill yn gweithio gyda’i gilydd yn gydweithredol i farchnata ac ychwanegu gwerth at goed. Hefyd i werthuso sut y gall coetiroedd bach gynhyrchu incwm ychwanegol i fusnes y fferm yn gyffredinol

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Hoffwn ddeall sut i sefydlu a datblygu busnes fel un cydweithredol a gweld technegau rheoli coetir a gwrychoedd newydd. Hefyd, dwi’n gobeithio dysgu mwy am y dechnoleg, prosesau a’r offer a ddefnyddir i gynhyrchu cynnyrch coetir, yn ogystal â datblygu sgiliau marchnata a deall y marchnadoedd posibl ar gyfer y cynnyrch. Rwyf yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a geir i wneud y mwyaf o’r potensial incwm o’m coetir a gwrychoedd fy hun mewn modd cynaliadwy. Cynllun arall yw rhannu fy ngwybodaeth gyda ffermwyr lleol ac archwilio’r posibilrwydd o sefydlu cwmni cydweithredol i gynhyrchu a gwerthu cynnyrch coetir.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Michael

Sonia Winder, Llansadwrn, Llanwrda

Sector: Coedwigaeth

Manylion y gyfnewidfa:

Bydd ymweliad cyfnewid â’r Almaen yn cynnig y cyfle i weld sut y mae tyfu coed yn digwydd yno a dysgu rhagor am reoli coed yn gynaliadwy.

Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth?

I ddysgu gwersi am dyfu coed yn yr Almaen y gallaf eu dwyn yn ôl i Gymru. Mae hefyd yn gyfle gwych i weithiwr proffesiynol o’r Almaen weld sut mae’r diwydiant coedwigaeth yn gweithio yng Nghymru.

Be ydych chi yn gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Gyfnewidfa Rheolaeth? 

Mae’r Almaen yn falch o’i rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd, a hynny’n haeddiannol, ac mae wedi bod yn rheoli coetiroedd am gannoedd o flynyddoedd tra mai dim ond am ganrif y mae Cymru wedi bod yn gwneud hynny ar raddfa fawr. Gan fod y rhan fwyaf o goedwigoedd yn y Deyrnas Unedig yn mynd trwy gyfnod o newid, rwyf am edrych ar goedwigoedd parhaus aeddfed a gweld sut y mae’r Almaen yn tyfu coed llydanddail o safon uchel fel ffawydd, derw a rhywogaethau eraill sy’n casglu carbon, tra’r ydym ni’n ei chael hi’n anodd eu sefydlu yng Nghymru.

Rwyf am weld sut y mae bioamrywiaeth yn cael ei gadw a sut y mae adfywio naturiol ar byrwydd a ffynidwydd yn cael eu hannog, a sut y maent yn ymdrin â’r bygythiadau oddi wrth blâu ac afiechydon.

Er mwyn gwneud ein fforestydd yn fwy gweithredol yn economaidd a chefnogi gwaith lleol, rwyf am gael gwybod sut y gallwn farchnata cynnyrch heblaw coed yn well o fforestydd Cymru fel cig carw, mwsogl, dail a ffwng. Hefyd rwyf am gymharu priddoedd fforestydd a rheoli dŵr yng Nghymru gyda’r Almaen.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cyfnewidfa Rheolaeth Sonia