Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Cysylltwch â ni ar 08456 000 813

Rhaglen TG Cyswllt Ffermio

Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau TG?

 

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu hyfforddiant cyfrifiadurol wedi’i ariannu’n llwyr ar gyfer busnesau ffermio a choedwigo cymwys sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio. 

Rydyn ni’n byw mewn oes ddigidol! Mae'r busnesau ffermio a choedwigo mwyaf blaengar yn elwa ohoni - ond dim ond os oes ganddyn nhw’r sgiliau TG iawn!

Waeth beth yw lefel eich sgiliau, gallai hyfforddiant cyfrifiadurol eich helpu chi i...

  • reoli eich adnoddau'n fwy effeithlon
  • lleihau eich gwaith papur
  • arbed amser ac arian

Ar gyfer dechreuwyr heb unrhyw sgiliau cyfrifiadurol blaenorol

  • Cwrs hyfforddiant chwe wythnos o hyd, wedi’i ddarparu ar ffurf sesiwn ddwy awr wythnosol 
  • Chwe modiwl cyfrifiadurol wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau TG sydd eu hangen arnoch chi yn eich busnes
  • Dosbarthiadau cyfeillgar sy’n addas i bawb, wedi’u darparu ledled Cymru gan diwtoriaid colegau amaethyddol lleol ar lefel a chyflymdra sy’n addas i bawb

Gallwch ddysgu sut mae:

  • Defnyddio Microsoft Word
  • Creu a rheoli taenlenni
  • Creu a rheoli negeseuon e-bost
  • Defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer eich busnes
  • Cysylltu eich busnes drwy'r cyfryngau cymdeithasol
  • Canllaw i wefan Llywodraeth Cymru a chrynodeb o'r modiwl 

 

Tiwtora un-i-un ar gyfer y rheini â sgiliau TG sylfaenol

  • Hyd at ddau ymweliad dwy awr o hyd â’ch cartref, wedi’u hariannu’n llwyr, gan diwtoriaid TG arbenigol 
  • Hyfforddiant wedi’i deilwra i’ch gofynion sy’n canolbwyntio ar unrhyw broblemau neu fylchau yn eich gwybodaeth

Gallwch ddysgu sut mae:

  • Cael mynediad at wefannau defnyddiol sy’n berthnasol i’ch busnes
  • Defnyddio unrhyw becynnau meddalwedd rydych chi wedi’u prynu
  • Datrys unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â TG ar eich dyfais bersonol eich hun (e.e. cyfrifiadur personol, gliniadur, tabled, ffôn symudol)

 

Gweithdai ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddysgu am y dechnoleg TG ddiweddaraf

Yn y gweithdai sydd wedi’u hariannu’n llwyr, byddwch yn dysgu sut mae integreiddio'r dechnoleg TG ddiweddaraf o fewn eich busnes eich hun. 

Caiff y gweithdai eu trefnu gyda’r nos mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru. Cliciwch yma i weld y pynciau, dyddiadau a lleoliadau diweddaraf.

 

Gallwch ddysgu sut:

  • Gall technoleg gael ei defnyddio yn eich busnes ffermio a choedwigo chi
  • Mae technoleg yn cael ei defnyddio a sut mae busnesau modern eraill yn elwa ohoni

I gael mynediad at hyfforddiant TG wedi'i ariannu'n llwyr, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. 

 

Er mwyn gweld ein Hysbysiad Preifatrwydd, cliciwch yma.

 

I ddatgan eich diddordeb mewn hyfforddiant TG cliciwch yma.