Dyma gwrs hyfforddi ac asesu integredig undydd, a rhoddir tystysgrif cymhwysedd ar ôl cwblhau'r cwrs.
Galluogi dysgwyr i ddatblygu eu hymwybyddiaeth, dealltwriaeth a’u sgiliau wrth storio pob math o dail organig a’i wasgaru yn ddiogel e.e., slyri, sarn dofednod, gweddillion treuliwr anaerobig (digestate), biosolidau. Bydd y cwrs yn eich helpu chi i ddeall y buddion a ddaw o gael gofod storio digonol a chadw glaw allan, Cynlluniau Rheoli Maetholion a Mapiau Risg. Y canlyniadau a ddaw o beidio â storio a defnyddio tail organig yn iawn. Bydd y cwrs yn darparu manylion am yr anghenion deddfwriaethol a chyngor ar arfer da sy’n ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd. Bydd y cwrs yn cynnwys effeithiau amgylcheddol slyri a thail organig a sut allwn ni eu goresgyn. Sut i leihau allyriadau amonia yn ystod ei ychwanegu. Gweithio’n ddiogel ger cyrsiau dŵr a’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a gyflwynwyd yn 2021. Cadw cofnodion, storio diogel, trafnidiaeth a diogelwch, iechyd a diogelwch a delio â damweiniau.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: