Mae hwn yn gwrs hyfforddi undydd gydag asesiad integredig. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Llygod cydfwytaol yw’r rhai sy’n byw yn agos at bobl. Trwy’r cwrs cewch ddysgu am lygod a’r bywleiddiaid a ddefnyddir i’w rheoli. Bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy’r ddeddfwriaeth allweddol a materion diogelwch. Byddwch yn dysgu am fioleg ac ymddygiad llygod.
Mae’r cwrs hwn yn fwy addas i fusnesau fferm a all fod wedi arallgyfeirio ac ati, sydd â busnes yn ymwneud â bwyd ac a all fod yn ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd (gwiriwch y manylion gyda’ch darparwr).
Bydd sesiynau’r cwrs yn cynnwys: deddfwriaeth sy’n effeithio ar reoli plâu, termau cyffredin wrth ddefnyddio bywleiddiaid, labeli cynnyrch iechyd cyhoeddus bywleiddiaid, storio a chludo a gwaredu bywleiddiaid yn ddiogel, cadw cofnodion bywleiddiaid, deddfwriaeth benodol ac arfer gorau ar gyfer rheoli llygod mawr a bach, rhywogaethau a dargedir a rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu, arolygon safle, gwerthuso dewisiadau rheoli a rhaglenni rheoli.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: