Fel arfer yn gwrs hyfforddiant 1 i 3 diwrnod o hyd. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd y cwrs hyfforddiant hwn yn trafod y rhesymau dros gloffni mewn gwartheg a sut all y rhain effeithio ar les a chynhyrchiant eich buches. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i adnabod symptomau’r gwahanol glefydau a chyflyrau sy’n arwain at gloffni. Mae hwn yn gwrs hyfforddiant ymarferol. Gan ddibynnu ar y darparwr, mae sawl cwrs ar gael, yn amrywio o gwrs undydd ar hanfodion sylfaenol trimio traed hyd at gwrs trimio mwy cynhwysfawr megis dull 5 cam yr Iseldiroedd neu Ddull Llinell Wen Atlas o Ganada ar gyfer trimio traed gwartheg.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: