*Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Master Regen wedi cau!*

Mae Cyswllt Ffermio yn gyffrous i gyhoeddi gweithdy newydd – MasterRegen 

 

Mae amaethyddiaeth adfywiol yn cael ei harwain gan egwyddorion, nid cadw at set o safonau. Mae’n ddull system gyfan, ragweithiol ac ni ellir ei gyflawni trwy fabwysiadu arferion adfywiol o fewn system ffermio gonfensiynol sy’n bodoli eisoes yn unig. Mae gwneud pethau'n iawn yn gofyn am wybodaeth newydd a newid meddylfryd. Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at unigolion ar ddechrau eu taith ag egwyddorion ffermio adfywiol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio llwybrau i gychwyn eich taith ffermio adfywiol, cwblhewch y ffurflen gais isod erbyn 20/01/2023, am gyfle i fynychu gweithdy MasterRegen.

Mae llenwi'r ffurflen gais yn orfodol a bydd yn cael ei defnyddio i ddewis ymgeiswyr llwyddiannus.

 

Dyddiad: 1/2/2023

Amser: 9:30-17:00

Lleoliad: Llandysul, Ceredigion

 

Nodau’r cwrs

  • Egluro cysyniadau amaethyddiaeth adfywiol a dwysáu cynaliadwy a'r effaith y gall y rhain ei chael ar systemau ffermio
  • Archwilio sut y gall amaethyddiaeth adfywiol helpu i leihau effeithiau amgylcheddol arferion fferm
  • Nodi pa sgiliau sydd eu hangen i roi technegau ffermio adfywiol newydd ar waith
  • Myfyrio ar yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu a sut y gall amaethyddiaeth adfywiol eu helpu i ddarparu cyflenwad bwyd diogel a chynaliadwy ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu
  • Asesu iechyd pridd
  • Datblygu cynllun gweithredu adfywiol ar gyfer eich fferm

 

Siaradwyr gwadd

Alex Brewster

Mae Alex Brewster, Fferm Rotmell, Swydd Perth yn ffermwr bîff a defaid adfywiol ac yn gynhyrchydd wyau maes organig, yn ffermio dros 1,000ha o dir pori uchel. Roedd o’n Ffermwr Pridd y flwyddyn 2020, yn ysgolor Nuffield ac mae’n gyfarwyddwr Powered Pasture Ltd. Mae’n frwdfrydig am bopeth sy'n ymwneud â phridd, microbioleg a phori symudol mewn grwpiau.

 

 

Rhys Williams 

Mae Rhys yn gweithio fel ymgynghorydd busnes fferm i Precision Grazing Ltd, sy'n arbenigo mewn cynghori ffermwyr da byw ar reoli pori. Yn 2016, ymunodd Rhys â chyfle menter ar y cyd yn Coed Coch Farms Ltd, busnes cynhyrchu defaid ar laswellt â mewnbwn isel sy’n rhedeg 2,200 o famogiaid Romney Seland Newydd ynghyd â stoc ifanc. Mae gan Rhys angerdd dros ddatblygu busnesau ffermio cynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi ymweld ac wedi siarad â llawer o fusnesau ffermio adfywiol ar draws y byd.

 

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Master Regen wedi cau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Menna Williams on 07399 849 148 / menna.williams@menterabusnes.co.uk


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Faeth Cymru
Mae maeth yn effeithio ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor –
Meistr ar Slyri Cymru
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a chontractwyr sy’n
Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich