Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer gweithdy Meistr ar Ffrwythlondeb nawr ar agor.
(Ffermwyr Llaeth)
A ydych yn awyddus i ddysgu ac i fabwysiadu'r technegau rheoli ffrwythlondeb mwyaf diweddar i wella lles a pherfformiad gwartheg a chynyddu proffidioldeb?
Cynhelir y gweithdy fel dwy weminar gyda’r nos (13 a 15 Chwefror 2023) ac un diwrnod ymarferol ar-fferm (1 Mawrth 2023) yng Ngholeg Gelli Aur.
Bydd y gweithdy yn ymdrin â’r amcanion canlynol:
- Datblygu dealltwriaeth fanwl o ffrwythlondeb gwartheg a'r ffactorau pwysig i'w cael yn gyflo.
- Nodi'r paramedrau ffrwythlondeb cywir i'w mesur a'u monitro ar gyfer eich math o fuches a'ch system reoli.
- Datblygu cynllun i wella perfformiad ffrwythlondeb eich buches, yn seiliedig ar eich system, data ac amcanion eich hun.
- Cynorthwyo gyda’r pethau ymarferol sy’n berthnasol i’ch fferm eich hun, gan gynnwys:
- Rheoli maeth, gan gynnwys sgorio cyflwr corff
- Dulliau canfod a yw buwch yn gofyn tarw
- Trin semen ac amseriad AI
- Trin di-straen a chynyddu cyfraddau cenhedlu
- Protocolau gorau cyn bridio ac ar gyfer canfod beichiogrwydd
- Cael y gorau o ymweliadau ffrwythlondeb milfeddygon.
Cwblhewch y ffurflen gais isod erbyn 03/02/2023, am gyfle i fynychu gweithdy Meistr ar Ffrwythlondeb.
Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Meistr ar Ffrwythlondeb ar agor! Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen gais.
(Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 12yp ar 3ydd o Chwefror 2023)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenan Evans ar 07985 379819 / gwenan.evans@menterabusnes.co.uk