Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at eich paratoi i dderbyn y drwydded IPPC. Bydd y cwrs yn rhoi arweiniad ynghylch gofynion yr IPPC er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r effeithiau amgylcheddol posibl, a phwysigrwydd lleihau’r effeithiau hyn. Byddwch hefyd yn deall gofynion allweddol a chyfreithiol, er mwyn eich galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol cyn y gallwch ymgeisio am y drwydded IPPC. Byddwch yn trafod arbed a monitro adnoddau, lleihau a monitro gwastraff a llygredd, cynlluniau ar gyfer y safle, archwilio a chynnal a chadw.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

 

Nodwch gall Jimmy Hughes Services Ltd gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.

Jimmy Hughes Training Services Ltd

Enw cyswllt:
Rachel Hughes


Rhif Ffôn:
01597 850080


Cyfeiriad ebost:
jhsltd@btinternet.com


Cyfeiriad gwefan:
www.jimmyhughesservices.co.uk


Cyfeiriad post:
Dolswydd, Penybont, Llandrindod, Powys LD1 5UB


Ardal:
Cymru gyfan

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cneifio Defaid ar lefel Uwch
Dyma gwrs hyfforddi deuddydd gydag asesiad integredig. Rhoddir
Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn Argyfwng
Cwrs undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus
Rheoli eich Llif Arian
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl