Rhagori ar Bori - Lefel Canolradd – Meistr ar Borfa
*Mae'r ffenest ymgeisio nawr ar gau.*
Rhaglen ddeuddydd i ffermwyr gwartheg bîff, defaid neu wartheg llaeth sy’n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol ar gyfer rheoli porfa yw MEISTR AR BORFA. Mae’n gyfuniad o waith dosbarth, gwaith ymarferol yn y maes ynghyd ag arhosiad dros nos gan roi cyfle ichi gymdeithasu a chyfarfod â ffermwyr o’r un un anian â chi.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau er mwyn gweithredu a rheoli system bori gynhyrchiol, effeithlon sydd wedi’i dylunio’n dda ar eich fferm eich hun. Ar ôl cwblhau’r lefel Meistr ar Borfa a meithrin profiad ymarferol, byddwch yn gallu ymgeisio am y Lefel Uwch.
Gwartheg bîff a defaid
Diwrnod 1:
- Ymarferol – Dulliau gweledol o asesu iechyd y pridd
- Ymarferol – Adnabod rhywogaethau planhigion
- Theori – Ffrwythlondeb pridd a cyfrifo'r gofyniad maetholion
- Theori – Sefydlu gwndwn newydd; beth, pam a phryd
- Theori – Dylunio system bori
Ymweliad â fferm aelod Uwch Rhagori ar Bori, pryd o fwyd ac aros dros nos
Diwrnod 2:
- Theori – Ffensys trydan ac offer dŵr ar gyfer systemau pori
- Ymarferol – Gosod ffens drydan – dros dro a pharhaol
- Ymarferol – Mesur porfa
- Ymarferol – Meddalwedd rheoli porfa
- Theori – Cyfrifo galw’r anifeiliaid
- Theori – Rheoli pori – cydweddu’r cyflenwad â’r galw
Llaeth
Diwrnod 1:
- Theori – Gwerth glaswellt
- Theori – Sut mae glaswellt yn tyfu
- Ymarferol – MOT i’r borfa a’r pridd – beth allwn ni ei ddysgu o 10 munud mewn cae
- Theori – Cymysgeddau hadau, strategaethau ail-hadu, opsiynau gwella
- Ymarferol – Mesur/dyrannu/monitro
- Ymarferol – Pwysigrwydd isadeiledd da – padogau, adwyon, dŵr a thraciau
Ymweliad â fferm aelod Uwch Rhagori ar Bori, pryd o fwyd ac aros dros nos
Diwrnod 2:
- Theori – Mesur glaswellt – y conglfaen i well rheoli
- Theori – Rheolau euraidd pori
- Ymarferol – Defnyddio meddalwedd porfa (Agrinet)
- Ymarferol – Clustnodi glaswellt y gwanwyn
- Theori – Creu cynlluniwr cylchdro i’r gwanwyn
- Theori – Defnyddio lletem laswellt
Ffurf
Bydd sesiynau rhanbarthol Meistr ar Borfa yn cael eu cynnal mewn colegau a/neu ffermydd. Dyddiadau a lleoliadau i’w cadarnhau, ond ein nod yw cynnal sesiynau Llaeth yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2022, a Bîff a Defaid yn ystod Mai a Mehefin 2022.
Gofynion mynediad
- Cwblhau rhaglen Lefel Mynediad yn llwyddiannus.
NEU
- 2 flynedd o brofiad o weithio â da byw mewn system bori.
Bydd angen i bob cyfranogwr gadarnhau bod gan eu busnes Gynllun Rheoli Maetholion dilys (heb fod dros 5 mlwydd oed).*
(Mae cyllid ar gael i wneud Cynllun Rheoli Maetholion. Cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol i gael rhagor o wybodaeth.)
A oes gennych chi ddiddordeb? Ewch ati i lenwi'r ffurflen gais isod. Bydd manylion llawn y rhaglen, gan gynnwys dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd ar gael ar ôl i’r ffenestr ymgeisio gau.
Cliciwch yma i ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio.