Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen
Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.
Mae nifer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%
Er mwyn cael budd o’r cyfan sydd ar gael, bydd raid i chi gofrestru am y rhaglen. Bydd angen i’r rhai oedd wedi cofrestru ar y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.
Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd, sydd wedi eu hehangu yn awr i gynnwys rhagor o ffermwyr a choedwigwyr gyda daliadau llai, a chategorïau newydd ar gyfer contractwyr hunangyflogedig a busnesau bwyd.
Gyda’n cefnogaeth ni gallech:
- gael budd o gefnogaeth fusnes cymhorthdaledig, wedi ei deilwrio i’ch anghenion busnes
- leihau taliadau allan a chynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o’ch busnes
- feincnodi eich perfformiad a gweithio tuag at gynnydd a thwf
- adnabod meysydd i’w gwella a dod o hyd i atebion i broblemau
- ddatblygu eich sgiliau fel rhan o’n rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu gydol oes
- gael gwybod am y datblygiadau technolegol diweddaraf trwy ddatblygiadau yn y diwydiant a’r prosiectau ymchwil diweddaraf
- rhannu arfer da a chael budd o wybodaeth ffermwyr eraill, arbenigwyr y diwydiant ac ymchwil academaidd
- gael eich ysbrydoli gan syniadau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a blaengar o weithio