Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen

Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.

Mae nifer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%

Er mwyn cael budd o’r cyfan sydd ar gael, bydd raid i chi gofrestru am y rhaglen. Bydd angen i’r rhai oedd wedi cofrestru ar y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.

Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd, sydd wedi eu hehangu yn awr i gynnwys rhagor o ffermwyr a choedwigwyr gyda daliadau llai, a chategorïau newydd ar gyfer contractwyr hunangyflogedig a busnesau bwyd.

Gyda’n cefnogaeth ni gallech:

  • gael budd o gefnogaeth fusnes cymhorthdaledig, wedi ei deilwrio i’ch anghenion busnes
  • leihau taliadau allan a chynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o’ch busnes
  • feincnodi eich perfformiad a gweithio tuag at gynnydd a thwf
  • adnabod meysydd i’w gwella a dod o hyd i atebion i broblemau
  • ddatblygu eich sgiliau fel rhan o’n rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu gydol oes
  • gael gwybod am y datblygiadau technolegol diweddaraf trwy ddatblygiadau yn y diwydiant a’r prosiectau ymchwil diweddaraf
  • rhannu arfer da a chael budd o wybodaeth ffermwyr eraill, arbenigwyr y diwydiant ac ymchwil academaidd
  • gael eich ysbrydoli gan syniadau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a blaengar o weithio

| Fideos
Rhithdaith Ryngwladol - Ffermio adfywiol - Iechyd pridd - 17/03/2023
Ffermwr organig yng Nghernyw yw Tom Tolputt. Dros y 25 mlynedd diwethaf mae wedi bod ar daith i…
| Fideos
Rhithdaith Ryngwladol - Sut mae ffermio yn y Basg yn debyg i Gymru? - 17/03/2023
Dyma Bryn Perry, ffermwr cenhedlaeth gyntaf a ffermwr llaeth defaid yn Sir Benfro yn rhannu’r…
| Newyddion
Menter a Busnes i benodi 100 o fentoriaid ar gyfer rhaglen newydd Cyswllt Ffermio
17 Mawrth 2023   Prosesu bwyd a chigyddiaeth, trin cŵn defaid, gwinwyddaeth a ffermio…
| Newyddion
Rheolaethau biolegol yn haneru niferoedd pryfed niwsans mewn uned foch yng Nghymru
16 Mawrth 2023   Mae pla o bryfed niwsans a phryfed brathu mewn uned foch yng Nghymru wedi…

Digwyddiadau

There are currently no events available.

Fwy o Ddigwyddiadau
Skip to content