Ni fu erioed amser gwell i fwyd a diod Cymreig, gyda’r nifer o gynhyrchion sy’n derbyn statws enw bwyd gwarchodedig Ewropeaidd bron â dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, a’r nifer o enwebiadau am wobrau mawreddog Great Taste Awards yn cyrraedd y nifer mwyaf erioed.
Cwmnïau bwyd o Gymru yn teithio i Dubai yn chwilio am gyfleoedd allforio newydd
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd yn Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig rhwng 18 a 22 Chwefror. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Dubai, bydd Gulfood yn denu dros 97,000 o ymwelwyr dros y pum diwrnod, ac yn croesawu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 120 o wledydd gan arddangos cynhyrchion ar draws 8 sector marchnad sylfaenol.
‘Adduned’ y diwydiant bwyd a diod i hybu sgiliau
Bydd strategaeth sgiliau newydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach yr wythnos yma wrth i aelodau blaenllaw o’r diwydiant bwyd a diod geisio hybu sgiliau a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Wrth i werth y sector barhau i dyfu, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi ymgynghori’n eang ar gyfer creu’r strategaeth sgiliau gyntaf dan arweiniad y diwydiant er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd ar y gorwel yn sgîl gweithlu sy’n heneiddio, anhawster...
Ymweliad Datblygu Masnach Copenhagen, Denmarc a Stockholm, Sweden
Hoffwn groesawu'ch cwmni i gyfranogi mewn Ymweliad Datblygu Masnach yn Denmarc a Sweden a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru.
Gweithdy Paratoi ar gyfer Buddsoddwyr
Bydd y gweithdy undydd hwn yn addysgu’r gofynion allweddol i chi o ran denu sylw buddsoddwyr, gosod eich hun ar wahân i’r gystadleuaeth, a chodi cyfalaf yn llwyddiannus. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Buddsoddi mewn Sgiliau : Buddsoddi mewn Twf
Mae’r gynhadledd hon yn dilyn y Gynhadledd Buddsoddi mewn Sgiliau yng Nghaerdydd ble wnaeth cwmnïau bwyd a diod, darparwyr hy orddiant a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at y ddadl sgiliau, gan amlinellu syniadau ar gyfer strategaeth sgiliau i’r dyfodol ar gyfer y sector. Cliciwch yma am fwy o fanylion
Gulfood 2018
Mae recriwtio bellach wedi cau. Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Gulfood, Dubai 18 Chwefror - 22 Chwefror 2018. N odwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r Medi 27, 2017. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â'ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin