Canlyniad gwych i allforion Cymru yn Siapan
Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi ar gyfer brwydr allweddol yfory (dydd Sul) yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd mae un bragwr adnabyddus o Gymru eisoes yn mwynhau llwyddiant yn Siapan. Mae archebion ar gyfer Wrexham Lager yn llifo mewn ac maent yn gorfod bragu stoc ychwanegol i ateb y galw.