Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y diwydiant yn dangos bod trosiant sector bwyd a diod Cymru yn fwy nag erioed o'r blaen yn 2019, gan gyrraedd £7.473 biliwn. Roedd yn rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014, sef sicrhau twf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o'r holl fwyd a diod a allforiwyd o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae ffigurau diweddaraf y diwydiant yn dangos y gwelwyd y trosiant uchaf erioed, sef £7.473 biliwn, yn 2019, sy'n rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014 o dwf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o holl allforion bwyd Cymru i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae gan Gymru gysylltiad â Gulfood, sef un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd, ers blynyddoedd, ac mae wedi helpu dod â chyfoeth o gynnyrch Cymreig i ranbarth Cyngor Cydweithredol y Gwlff.
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi llongyfarch Sector Bwyd a Diod llewyrchus Cymru am lwyddo i sicrhau'r trosiant mwyaf erioed.
Yn 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’. Roedd y cynllun hwnnw’n amlinellu gweledigaeth, cenhadaeth a chynllun hirdymor gyda chamau gweithredu er mwyn eu gwireddu.