Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae gwobrau’r Great Taste, a gydnabyddir fel gwobrau bwyd a diod pwysicaf y byd, wedi cyhoeddi eu sêr yn 2020, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig blasus wedi cyrraedd y brig.
Dechreuodd cynllun peilot o astudiaeth clwstwr rhyngwladol ar gyfer y busnesau bwyd a diod yng Nghymru ar 18fed Medi fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod, er mwyn datblygu a defnyddio ein partneriaethau Ewropeaidd ymhellach.
Rhan o gefnogaeth y llywodraeth i fusnesau yn ystod y pandemig fu rhyddhau'r lefelau uchaf erioed o gyllid dyled i'r economi i helpu busnesau i fasnachu trwy'r argyfwng. Ymunwch a'n panel o arbenigwyr cyllid ecwiti i ddarganfod mwy.
Mae cyfleuster cynaliadwyedd pecynnu bwyd newydd yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru) ym Mrychdyn, diolch i fuddsoddiad ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae cael cyngor cywir am strwythur, treth a TAW yn rhagofyniad ar gyfer llwyddiant. Os ydych chi, fel llawer o fusnesau bwyd neu ddiod, weithiau yn ansicr sut mae'r rheolau TAW ar fwyd a diod yn gweithio, neu yn poeni am brisio ar systemau EPOS, ar lein a chael y wybodaeth reoli a all gysoni'r elfennau hyn, yna mae'r weminar hon ar eich cyfer chi.
Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus rhithiol ar ei Chynllun Gweithgynhyrchu. Bydd y cynllun yma’n seiliedig ar egwyddorion Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ac yn amgyffred gwersi a ddysgwyd wrth ddelio â phandemig Covid-19.
Bydd y weminar hon yn tynnu sylw at y gwahanol fodelau e-fasnach ac yn trafod modelau prisio a maint yr elw i sicrhau bod eich model e-fasnach yn ychwanegu at, yn hytrach na thynnu oddi wrth eich proffidioldeb.