Dros yr haf, fe gyhoeddwyd bod Caerdydd wedi ennill gwobr Arian Lleodd Bwyd Cynaliadwy / Sustainable Food Places, y lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i gyflawni'r gamp hon, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Mae'r gwaith yng Nghaerdydd yn cael ei gydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy'n prysur dyfu ac sydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith deinamig, cryf a chynhwysol o ymgyrchwyr dros fwyd da. Mae Bwyd Caerdydd, sy'n cael ei letya gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, bellach yn cynnwys 127 o unigolion ar draws 74 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy'n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Wrap Cymru, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o sefydliadau eraill.

Drwy'r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Caerdydd yn ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.

Mae Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd yn cydnabod y ddinas fel un o'r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU ac mae'r wobr yn seiliedig ar gyflawniadau mewn chwe maes allweddol:

  1. Mabwysiadu dull strategol a chydweithredol mewn perthynas â llywodraethu a chamau gweithredu'n ymwneud â bwyd da.
  2. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithgar a mudiad bwyd da lleol.
  3. Mynd i'r afael â thlodi bwyd, salwch sy'n gysylltiedig â diet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy.
  4. Creu economi fwyd gynaliadwy fywiog, ffyniannus ac amrywiol.
  5. Trawsnewid y meysydd arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi bwyd lleol a chynaliadwy.
  6. Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi terfyn ar wastraff bwyd.

“Mae’r wobr hon yn destament i’r ymgyrch fawr rydym wedi’i gweld gan ddinasyddion, grwpiau, busnesau a sefydliadau i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn beth cyffredin, i bawb, yng Nghaerdydd” meddai Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd ac awdur y cais am statws Arian.

“Mae'n wobr y gellir ei phriodoli i deuluoedd sy'n tyfu berwr ar y silff ffenestr am y tro cyntaf; i gymdogaethau sy'n sefydlu cydweithfeydd bwyd neu bantri; i'r busnesau bwyd sy'n cyflenwi bwyd o'r radd flaenaf i'n dinas; i sefydliadau sy'n gwneud addunedau Dinasoedd Llysiau ac yn dylunio bwydlenni cynaliadwy, ac i bawb sydd wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol yn ymwneud â bwyd.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn un o bartneriaid cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae'n cefnogi tri aelod cyfredol, sef Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro a Phartneriaeth Fwyd Sir Fynwy.  Mae hefyd yn cefnogi pum prosiect newydd yn Rhondda Cynon Taf, Powys, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Gaerfyrddin wrth iddynt weithio i greu eu modelau partneriaeth eu hunain a gweithio tuag at ddod yn aelodau llawn o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gobeithio y bydd llwyddiant Caerdydd yn annog rhannau eraill o Gymru i ymuno â'r ymgyrch ac i helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a datblygu seilwaith yn seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu 'mudiad bwyd da' a strategaethau bwyd cymunedol ehangach a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled Cymru.

I ddarllen mwy, ewch i https://www.foodsensewales.org.uk/cymraeg/

Share this page

Print this page