Y cwmni newydd o Gymru sy’n cludo brwshys dannedd i’ch stepen drws.
Chwyldro yng ngofal y geg: Brushbox, gwasanaeth bocs tanysgrifio brwshys a phast dannedd cyntaf y DU, sy’n cludo cynhyrchion i’ch stepen drws pan fyddwch chi eu hangen. Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2017, a dechreuodd weithredu ar 15 Ionawr 2018. Yn ei flwyddyn gyntaf, nod y cwmni o Gaerdydd yw sicrhau mwy o danysgrifiadau na’r 5,000 a gafodd y gwasanaeth raseli Cornerstone. Y person a gafodd y syniad am fenter ar-lein Brushbox yw’r cyn-gynghorydd...