App Stryd Fawr Ddigidol yn Derbyn Buddsoddiad o £200,000
Mae App sydd wedi’i ddylunio i adfywio, addasu a thrawsffurfio strydoedd mawr ar draws y wlad wedi derbyn buddsoddiad o dros £200,000. Mae NearMeNow wedi derbyn cyd-fuddsoddiad ecwiti, wedi’i arwain gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi buddsoddi £150,000, gyda £60,000 pellach wedi’i dderbyn gan fuddsoddwyr preifat. Mi fydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes cychwynnol o Gaerffili, i ddatblygu peilot o’i app gwbl ddwyieithog, Gymraeg a Saesneg, sy’n bwriadu troi strydoedd mawr yn ddigidol. Victoria Mann...