Camau breision yn erbyn braster
Gallai mwydion afalau atal pobl rhag mynd yn ordew yn ôl Pennotec, cwmni technoleg sy’n arloesi ym maes bwydydd y dyfodol. Mae ei ddull o droi gwastraff ffrwyth yn sylwedd a all gymryd lle braster a siwgr mewn bwydydd wedi denu buddsoddiad £350,000 gan y Llywodraeth. Mae’r cwmni wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac mae’n arwain y ffordd drwy ddatblygu cynhyrchion sy’n gweithredu fel braster, a hynny o fwydion afalau, gweddillion...